Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

FAQs

Group of people happy

Mae gen i ddiddordeb mewn astudio ar-lein gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a hoffwn wybod mwy am…

Dylech feddu ar y canlynol neu dylech fod ar fin cwblhau'r canlynol: gradd israddedig gydag o leiaf 2:2 neu radd meistr (neu gyfwerth). Fel arall, bydd angen arnoch o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol os nad ydych yn meddu ar radd gydnabyddedig er mwyn cael eich ystyried.

Gellir gweld ffioedd rhaglen MA Addysg ar-lein yn online.wrexham.ac.uk/cy/ffioedd/

Dylech feddu ar y canlynol neu dylech fod ar fin cwblhau'r canlynol: gradd israddedig gydag o leiaf 2:2 neu radd meistr (neu gyfwerth). Fel arall, bydd angen arnoch o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol os nad ydych yn meddu ar radd gydnabyddedig er mwyn cael eich ystyried.

Gellir gweld ffioedd dysgu ar gyfer rhaglen MBA ar-lein yn online.wrexham.ac.uk/cy/ffioedd/

Dylech feddu ar y canlynol neu dylech fod ar fin cwblhau'r canlynol: gradd israddedig gydag o leiaf 2:2 mewn rhaglen sy'n ymwneud â Chyfrifiadura neu radd meistr (neu gyfwerth). Fel arall, bydd angen arnoch o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol os nad ydych yn meddu ar radd gydnabyddedig er mwyn cael eich ystyried.

Gellir gweld y ffioedd dysgu ar gyfer rhaglen MSc Cyfrifiadura ar-lein yn online.wrexham.ac.uk/cy/ffioedd/

Bydd meddalwedd naill ai'n agored neu wedi'i darparu drwy Blatfform Dysgu Rhithiol.

Dylech feddu ar y canlynol neu dylech fod ar fin cwblhau'r canlynol: gradd israddedig gydag o leiaf 2:2 neu radd meistr (neu gyfwerth). Fel arall, bydd angen arnoch brofiad gwaith perthnasol os nad ydych yn meddu ar radd gydnabyddedig er mwyn cael eich ystyried.

Gellir gweld ffioedd dysgu ar gyfer rhaglen MSc Seicoleg ar-lein yn online.wrexham.ac.uk/cy/ffioedd/

Caiff ein rhaglenni gradd eu cynnig fel astudiaeth ran amser yn unig ar hyn o bryd.

Nac ydyn. Nid yw ein rhaglenni gradd wedi'u hachredu gan drydydd parti.

Mae chwe dyddiad dechrau i'n rhaglenni gradd bob blwyddyn, felly bydd modd i chi ddechrau arni yn fuan ar ôl i'ch cais gael ei dderbyn. Ewch i online.wrexham.ac.uk/cy/ i weld y dyddiad dechrau nesaf sydd gennym ar gael.

Mae ein rhaglenni gradd wedi'u dylunio i gael eu cwblhau mewn dwy flynedd.

Mae ein rhaglenni gradd gyfwerth â 180 o unedau credyd Addysg Uwch y DU.

Er y bydd gradd Meistr yn helpu i agor drysau o ran cyflogaeth yn ogystal ag astudiaeth, bydd angen i chi wirio gofynion mynediad penodol y rhaglen a'r sefydliad y mae gennych ddiddordeb ynddo i gael gwybod a yw ein rhaglenni yn addas.

Dyfarniad ymadael sy'n cydnabod cwblhad nifer o gredydau AU y DU, pan nad ydych wedi cwblhau rhaglen Meistr lawn. Golyga hyn y gallwch adael eich rhaglen gyda Thystysgrif Ôl-raddedig ar ôl cwblhau 60 credyd AU y DU (pedwar modiwl), neu Ddiploma Ôl-raddedig ar ôl 120 credyd AU y DU (wyth modiwl).

Ar gyfer ein rhaglenni MBA, MSc Cyfrifiadura a MSc Seicoleg, bydd y traethawd hir yn 6000 o eiriau. Ar gyfer ein rhaglenni MA Addysg, byddwch yn cwblhau Prosiect Ymchwil 6000 o eiriau.

Ni fydd eich tystysgrif gradd yn nodi eich bod wedi astudio ar-lein a bydd yn edrych yr un fath â thystysgrif y myfyrwyr hynny sydd wedi astudio ar y campws. Fodd bynnag, bydd eich adysgrif gradd yn nodi yr astudiwyd eich modiwlau ar-lein.

Mae ein gofynion mynediad yn ddibynnol ar y cwrs yr ydych yn dymuno ei astudio. Mae gofynion mynediad llawn bob rhaglen ar gael ar dudalen y rhaglen.

Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Saesneg, os nad dyna yw eich iaith gyntaf. Rydym yn derbyn:
  • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol, heb unrhyw gydran unigol yn is na 5.5
  • TOEFL dim llai na 60 yn gyffredinol
  • PTE Academic dim llai na 50 yn gyffredinol
  • Cambridge (CAE a CPE) 169 yn gyffredinol gyda sgoriau dim llai na 162 mewn Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a Siarad.
  • Cymhwyster gradd wedi'i addysgu yn Saesneg
  • Tystiolaeth eich bod yn gweithio mewn cwmni lle mai Saesneg yw'r iaith gyntaf
  • Cymwysterau mewn Saesneg ar lefel ysgol uwchradd
  • Cwblhau prawf ar-lein Wrecsam neu brawf Duolingo

Cewch. Bydd angen o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith perthnasol arnoch i gael eich ystyried ar gyfer ein rhaglenni os nad ydych yn meddu ar radd israddedig gydnabyddedig. Ein tîm ceisiadau fydd yn ystyried hyn.

Rydw i wedi cwblhau ychydig o astudiaeth ôl-radd yn rhywle arall. A allaf drosglwyddo rhai o'm credydau o'r astudiaeth honno i un o'ch rhaglenni gradd? Ar gyfer ein rhaglenni ar-lein, mae'n bosibl y bydd modd i chi drosglwyddo dim mwy na 60 credyd (4 modiwl) o'r modiwlau a addysgir. Ni ellir defnyddio'r rhain tuag at y prosiect mawr neu'r Traethawd Hir. Cysylltwch â'n tîm Ymrestru i drafod hyn ar 0808 189 2126 neu +44 1978 438 014 neu anfonwch e-bost i enrolments@online.wrexham.ac.uk. Noder, rhaid bod wedi cyflawni'r ddysg flaenorol yn y bum mlynedd ddiwethaf.

Caiff ein rhaglenni gradd eu cyflwyno ar-lein yn llwyr – ni fydd angen fisa arnoch wrth i chi astudio gyda ni.

Gallwch dderbyn eich cynnig drwy ddilyn y ddolen ar eich llythyr cynnig.

Cewch, gallwch ohirio dim mwy na chwe mis o ddyddiad dechrau eich cynnig.

Gallwch gyflwyno'ch cais ar-lein yn online.wrexham.ac.uk/cy/

Mae chwe diwrnod dechrau i'n rhaglenni gradd bob blwyddyn ac mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bob rhaglen oddeutu 2–3 wythnos cyn hynny. Ewch i online.wrexham.ac.uk/cy/ i weld ein dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau.

Bydd angen i chi ddarparu adysgrifau academaidd fel tystiolaeth o'ch addysg, yn ogystal â phrawf eich bod yn bodloni'r gofynion iaith Saesneg a phrawf o'ch profiad gwaith (pryd bynnag mae ei angen). Mae'n bosibl y bydd angen i chi hefyd ddarparu dogfennau preswylfa a phrawf o'ch newid enw, os yw eich enw wedi'i newid ers eich cymwysterau blaenorol.

Gallwch uwchlwytho eich dogfennau gyda'ch cais. Fel arall, gallwch eu hanfon drwy e-bost at ein Tîm Ymrestru drwy enrolments@online.wrexham.ac.uk

Bydd. Mae manylion sut i ddarparu geirdaon i'w cael wrth i chi gwblhau a chyflwyno eich ffurflen gais.

Fel arfer, cewch wybod y penderfyniad mewn perthynas â'ch cais cyn pen 1–4 diwrnod gwaith

Gallwn ni ail-osod eich cyfrinair. Cysylltwch â'r Tîm Ymrestru drwy 0808 189 2126 neu +44 1978 438 014 neu anfonwch e-bost i enrolments@online.wrexham.ac.uk

Cewch, gallwch newid y rhaglen yr ydych wedi gwneud cais amdani os ydyw'n rhan o'r un llwybr. Er enghraifft, os ydych yn symud o un rhaglen MS Cyfrifiadura i un arall, mae modd diweddaru eich cynnig. Os hoffech symud i raglen arall (e.e. MBA), bydd angen i chi dynnu'ch cais yn ôl a chyflwyno cais arall. Os nad yw eich cwrs wedi dechrau eto, cysylltwch â'ch Cynghorydd Ymrestru i drafod hyn ar 0808 189 2126 neu +44 1978 438 014 neu anfonwch e-bost i enrolments@online.wrexham.ac.uk. Os ydych yn fyfyriwr presennol, cysylltwch â'n Tîm Llwyddiant Myfyrwyr i drafod eich opsiynau drwy studentsuccess@online.wrexham.ac.uk

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr sydd wedi'u lleoli yn y DU yn gymwys am fenthyciad ôl-radd. Ewch i gov.uk/masters-loan i wirio eich cymhwysedd.

Gallwch wneud cais drwy gyllid myfyrwyr ar wefan gov.uk. Mae modd gwneud cais am y Benthyciad Ôl-radd drwy gov.uk/masters-loan

Gallant, gallant dalu eich ffioedd naill ai fesul modiwl, fesul blwyddyn neu'n llawn. Bydd angen i'ch cyflogwr lenwi ffurflen Noddwr, a fydd yn cael ei chynnig fel rhan o'ch cais.

Yn anffodus, nid ydym yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer ein rhaglenni gradd ar-lein.

Ydych. Os ydych wedi cwblhau rhaglen israddedig ac wedi ennill gradd 2:2 neu uwch gyda ni, yna rydych yn gymwys am ostyngiad o 10%.

Cewch. Cewch wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl. Ewch i gov.uk/disabled-students-allowance-dsa am ragor o wybodaeth. Gallwch hefyd gymryd golwg ar dudalen Cynhwysiant Prifysgol Wrecsam am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth a gynigiwn i fyfyrwyr sydd ag anghenion ychwanegol.

Mae'r Brifysgol yn defnyddio Canvas fel ei phlatfform rheoli dysg ar-lein.

Bydd gennych yr hawl i ddefnyddio gwasanaeth negesu yn Canvas, sef ein platfform rheoli dysg ar-lein, lle allwch gysylltu â'ch gilydd a rhyngweithio â'ch cyfoedion.

Mae pob cwrs ar-lein wedi'i ddylunio ar gyfer cymryd rhan mewn modiwlau wythnosol, a bydd angen i fyfyrwyr ymgysylltu ag astudiaeth bob wythnos er mwyn cymryd rhan lawn mewn trafodaethau gyda'r tiwtor a'r myfyrwyr. Mae pob modiwl werth 15 credyd ac wedi'i ddylunio ar gyfer 150 awr o astudiaeth (neu oddeutu 19 awr bob wythnos) ym mhob un o'r wyth wythnos. Mae modiwlau Traethawd Hir a Phrosiect Ymchwil yn 30 credyd, ac yn gofyn 300 awr o astudio dros gyfnod hirach o 16 wythnos.

Ar gyfer ein rhaglenni ar-lein, mae dwy egwyl yn yr addysgu ar gyfer pob blwyddyn o'r rhaglen – pythefnos yn yr haf a phythefnos yn y gaeaf. Gall y rhain amrywio o'r naill flwyddyn i'r llall. Mae dyluniad y rhaglen yn eich caniatáu i gymryd hyd at chwe egwyl astudio ychwanegol petai angen. Dylech ofyn am gyngor gan y tîm Llwyddiant Myfyrwyr ar sut fydd y rhain yn effeithio ar eich cynnydd cyn eu cymryd.

Mae'r dysgu yn ein rhaglenni yn seiliedig ar ddamcaniaeth gan fwyaf. Cewch ragor o fanylion yn y disgrifiadau modiwl ar dudalen pob rhaglen.

Mae sawl adeg asesu ym mhob modiwl. Bydd dulliau asesu wedi'u hamrywio i gynnwys fformatau fel cwisiau ar-lein, adroddiadau a thraethodau, astudiaethau achos, prosiectau, portffolios gwaith, datganiadau a phortffolios myfyriol, cynlluniau strategol, cyflwyniadau (ysgrifenedig ac wedi'u recordio) a dyddlyfrau. Bydd cyfuniad o weithgareddau unigol a gwaith grŵp. Cyflwynir asesiadau ffurfiannol yn gynnar ym mhob modiwl i fonitro eich dealltwriaeth, a bydd asesiadau adolygol hefyd. Cysylltwch â'n tîm Ymrestru am ragor o wybodaeth ynghylch asesiadau – 0808 189 2126 neu +44 1978 438 014.

Mae ein rhaglenni wedi'u dylunio'n arbennig ar gyfer astudiaeth ar-lein. Bydd darlithoedd fideo ar-lein (wedi'u recordio ymlaen llaw) yn amlinellu'n feirniadol cysyniadau, damcaniaethau ac egwyddorion cyffredinol. Bydd modd i chi wylio'r fideos ar eich cyflymder dysgu eich hun. Bydd seminarau fideo ar-lein (wedi'u recordio ymlaen llaw) a sesiynau yn seiliedig ar weithgareddau yn defnyddio enghreifftiau go iawn i bontio damcaniaethau perthnasol gydag ymarfer. Bydd naill ai cwisiau ar-lein neu drafodaethau ar-lein drwy fwrdd trafod yn cael eu defnyddio i annog ac ysgogi eich cydweithio ar-lein a'ch dilyniant dysgu.

Gall diweddaru cynnwys cyrsiau amrywio yn dibynnu ar adolygiadau ar fodiwlau a rhaglenni, yn ogystal â newid cynnwys addysgu ac adborth.

Yn ogystal â thalu ffioedd dysgu, mae'n bosibl y bydd gofyn i chi dalu am werslyfrau ar gyfer eich rhaglen Meistr ar-lein pryd bynnag nad yw adnoddau ar-lein ar gael. Gallai'r rhain fod yn e-lyfrau neu'n werslyfrau caled.

Caiff yr holl waith cwrs ac asesiad eu cwblhau ar-lein, felly ni fydd angen i chi deithio i ymgymryd â'ch astudiaethau.

Na. Cyflwynir y rhaglenni hyn fel dysgu anghydamseredig. Golyga hyn nad oes unrhyw rannau byw fel rhan o'r rhaglen, felly cewch astudio yn eich amser rhydd eich hun. Fodd bynnag, bydd cydlynwyr llwyddiant myfyrwyr y rhaglen a'ch goruchwyliwr academaidd yn gallu monitro eich ymgysylltiad â'r rhaglen. Ystyrir diffyg ymgysylltu am gyfnod hir yn her bosibl i'ch llwyddiant, felly gofynnwn i chi groesawu cymorth perthnasol.

Bydd ein tîm TG ar gael i'ch cefnogi i fynd ar ein porth myfyrwyr (MyUni), mewngofnodi i'r platfform Canvas neu ddefnyddio eich e-bost myfyriwr. Mae modd cysylltu â nhw drwy itservices@wrexham.ac.uk neu 01978 293241. Gall ein tîm Datrysiadau Digidol eich cefnogi chi gydag unrhyw broblem gyda'r cynnwys neu uwchlwytho eich asesiadau ar Canvas (Amgylchedd Dysgu Rhithiol) drwy anfon e-bost i vle@wrexham.ac.uk

Cewch gymorth academaidd o ran arweiniad, adborth ac awgrymiadau, ond ni chewch gymorth o ddydd i ddydd gan diwtor.

Eich tiwtoriaid/goruchwylwyr academaidd fydd ein staff academaidd ar y campws ac arbenigwyr y maes pwnc. Bydd arweinydd rhaglen ar bob rhaglen.

Cewch gymorth ychwanegol a gallwch drefnu sesiynau fideo gyda'r tiwtoriaid i gefnogi eich dysg. Cewch ragor o wybodaeth yma: wrexham.ac.uk/cy/cymorth-myfyrwyr/cynhwysiant/

Mae ein ffioedd dysgu yn amrywio fesul rhaglen ac maent i'w gweld ar frig tudalen pob rhaglen. Dewch o hyd i'ch rhaglen i weld ei chost.

Ar gyfer ein rhaglenni ar-lein, bydd angen i chi dalu am eich modiwl cyntaf cyn dyddiad dechrau'r rhaglen. Bydd y dyddiad cau ar gyfer talu yn cael ei roi ar eich gwahoddiad i ymrestru. Noder, os ydych yn gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr, bydd angen i chi dalu am eich modiwl cyntaf ymlaen llaw. Os byddai'n well gennych chi, gallwch dalu am eich holl fodiwlau ymlaen llaw. Pryd bynnag yr ydych chi'n ansicr o ddyddiad cau'r taliad nesaf, cysylltwch â'n Tîm Ymrestru.

Nac oes, mae myfyrwyr ar ein rhaglenni gradd ar-lein yn talu'r un ffioedd, waeth beth yw eu lleoliad.

Mae modd talu drwy eVision,  rhan o'r broses ymrestru ar ôl i'ch gwahoddiad i ymrestru eich cyrraedd chi. Noder y bydd unrhyw daliadau a wneir heb ddefnyddio eVision yn cael eu had-dalu ac yn oedi dyddiad dechrau eich astudiaethau.

Yn anffodus, ni allwch dalu eich ffioedd dysgu mewn rhandaliadau. Serch hynny, mae modd talu fesul modiwl er mwyn torri cost eich rhaglen yn symiau llai.

Gallwch dalu eich ffioedd gyda cherdyn credyd neu ddebyd a rhaid i chi wneud un taliad ar un cerdyn neu drwy PayPal. Nid yw'r Brifysgol yn derbyn taliadau a wneir drwy drosglwyddiad banc.