Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Yr offer technoleg a fydd yn trawsffurfio Rheoli Adnoddau Dynol (AD) yn 2019

Postiwyd ar: Mai 4, 2019
gan
The technology tools set to transform HR Management in 2019

Yn ol ymchwil diweddar, mae integreiddio offer AD newydd yn nhechnoleg bresennol y gweithle yn flaenoriaeth allweddol yn 2019 i 89% o weithwyr proffesiynol yn y maes AD.

Ar hyn o bryd, mae gweithwyr proffesiynol yn y maes AD yn treulio 366.6 awr y flwyddyn yn gwirio sawl cymhwysiad AD, ymateb iddynt a dilyn y diweddaraf. Mae diffyg uniad, gyda sefydliadau yn defnyddio llwyfannau gwahanol ar gyfer systemau cyfathrebu cyflogeion, adnabod unigolion, tracio ymgeiswyr, cynefino staff newydd a rheoli perfformiad – gan orfodi cyflogeion a thimau AD i ddefnyddio sawl ap y dydd. Gyda’r ymyriadau hyn i’r llif gwaith, nid yw’n syndod bod yr ymchwil, a oedd yn ystyried barn 500 o weithwyr AD ledled y DU, hefyd wedi canfod mai prif flaenoriaeth AD ar gyfer 2019 oedd cynyddu cynhyrchiant y gweithle.

Felly, pa offer technoleg fydd yn trawsffurfio Rheoli AD dros y 12 mis nesaf?

Data mawr, Deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg peiriannau

Un tuedd technolegol sydd wedi galluogi gweithwyr proffesiynol yn y maes AD i gael gwell dealltwriaeth o’u cyflogeion a chreu strategaethau sydd wedi’u teilwra i’w cynulleidfaoedd, yn ogystal â gwella cyfathrebu, yw data mawr. Ynghyd â thechnolegau eraill megis deallusrwydd artiffisial a dadansoddeg peiriannau, mae data mawr yn datgelu patrymau neu dueddiadau sy’n darparu dealltwriaethau sy’n helpu gweithwyr proffesiynol AD i wneud penderfyniadau busnes gwybodus, ar sail data. Enghraifft wych o hyn yw’r tuedd cyfredol i weithio pedwar diwrnod yr wythnos ac oriau gweithio hyblyg; mae data mawr wedi caniatáu timau AD i brofi i’r timau rheoli bod mentrau o’r fath yn gallu gwella cynhyrchiant a lles eu gweithlu.

Apiau ffonau clyfar ac offer symudol eraill

Wrth i gyflogeion weithio fwyfwy wrth fynd, disgwylir i apiau ffonau clyfar ac offer symudol eraill feddiannu eu lle ym mhecynnau cymorth AD dros y blynyddoedd nesaf. Mae cwmnïau yn awyddus i integreiddio eu systemau AD ag apiau ffonau symudol, gan ganiatáu i swyddogaethau AD fod yn symudol, a galluogi cyflogeion i gael mynediad at bethau megis slipiau cyflog, hawliau gwyliau, buddion a hyd yn oed adolygiadau perfformiad wrth fynd. Mae’r tuedd o ddatblygu apiau symudol hefyd yn symleiddio swyddogaethau AD sy’n datblygu o hyd, gan wella effeithlonrwydd a chael gwared ar afreidrwydd yn y llif gwaith.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae cyfryngau cymdeithasol yn arf grymus i AD, yn arbennig o ran recriwtio, gyda busnesau yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook a LinkedIn i ymgysylltu â chyflogeion posibl a’u cyrraedd trwy dargedu’r unigolion addas i lenwi swyddi penodol. Yn yr un modd, mae nifer o gwmnïau yn defnyddio’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol hyn i ymgysylltu â’u gweithlu presennol, rhannu gweledigaeth y cwmni a magu diwylliant gweithlu cynhyrchiol. Yn hytrach na defnyddio mewnrwydi, negeseuon e-bost neu offer cyfathrebu mewnol mwy traddodiadol, mae defnyddio llwyfannau y mae cyflogeion yn gyfarwydd â nhw ac yn debygol o’u defnyddio yn rheolaidd yn caniatáu i dimau AD drosglwyddo negeseuon i’w gweithlu yn fwy effeithiol.

Meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS)

Gyda chasglu a storio data yn her enfawr i gwmnïau, mae cymwysiadau SaaS – lle caiff meddalwedd ei letya yn fewnol ac yna ei gynnig ar drwydded ar fodel tanysgrifiad – eisoes yn ennill cefnogaeth adrannau AD. Ynghyd â datrysiadau storio ar gymylau, cânt wared ar seilos gwybodaeth gan ganiatáu mynediad cynyddol at ffeiliau a dogfennau perthnasol yn ogystal â’u storio mewn ffordd fwy trefnus, ac yn bwysicach o bosibl, yn fwy diogel. Mae hefyd yn caniatáu i sawl defnyddiwr gael mynediad at yr un wybodaeth a chael mynediad ato mewn unrhyw le – sy’n ddelfrydol ar gyfer busnesau sydd â mwy nag un lleoliad.

Technoleg ymddiddanol

Gyda chyflogeion yn treulio 30% o’r diwrnod yn chwilota am wybodaeth, gall rhoi system sy’n gweithio â llais ar waith wella effeithlonrwydd a chynhyrchedd drwy ymgymryd â cheisiadau AD cyffredin, megis gwirio sawl diwrnod o wyliau sydd gan gyflogai ar ôl a gwneud cais am amser i ffwrdd, fel gall AD ganolbwyntio ar brosiectau sydd â blaenoriaeth uwch. Gallai hefyd gefnogi ceisiadau mwy cymhleth megis addasiadau i iawndaliadau, trosglwyddiadau a dyrchafiadau, ac wrth i adrannau AD ddod yn fwy cyfforddus yn ei defnyddio, y cam nesaf iddi fydd gwneud argymhellion ar sail y data hwnnw, megis rhoi gwybod i reolwyr pa bryd gallai fod angen iddynt edrych ar recriwtio gweithwyr achlysurol neu gontractwyr.

I’r rheiny sydd â’u llygaid ar swyddi uchaf y maes AD, neu sydd eisiau ennill dealltwriaeth well o AD er mwyn cael y gorau o’u busnes, mae Prifysgol Wrecsam wedi datblygu cwrs Meistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA) mewn Rheoli Adnoddau Dynol (HRM) sydd 100% ar-lein. Wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol, mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i chi symud eich gyrfa yn ei blaen yn gyflym trwy ddatblygu sgiliau busnes allweddol ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r ddisgyblaeth rheoli adnoddau dynol.

Gyda ffocws ar y sgiliau allweddol sy’n ofynnol i weithwyr adnoddau dynol llwyddiannus, mae’r rhaglen yn cwmpasu datblygu talent, rheoli gwobrwyo, darparu adnoddau a fframweithiau Adnoddau Dynol strategol, gan roi cipolwg i fyfyrwyr ar sut mae arferion rheoli hanfodol AD yn effeithio ar berfformiad busnes yn y dyfodol. Mae hefyd yn ymdrin â disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys cyllid, strategaeth a marchnata, a datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.

Gyda chwe dyddiad dechrau’r flwyddyn, cewch ddechrau arni pryd bynnag yr ydych yn barod ac mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys. Mae’r agwedd ‘unrhyw amser, unrhyw bryd’ hon at ddysgu yn ddelfrydol i’r rheiny na allant astudio yn y ffordd draddodiadol, felly nid yw’n syndod ein bod wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Mae’r cyfnod ymgeisio yn awr ar agor. I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba-hrm/