Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Yr allwedd i fynd i’r afael a straen yn y gweithle? Rheolaeth well

Postiwyd ar: Awst 24, 2019
gan
The key to tackling workplace stress? Better management

Er bod lles yn y gweithle’n rhywbeth y mae ein timau AD wedi dod yn ymwybodol iawn ohono mewn blynyddoedd diweddar,  mae absenoldeb cysylltiedig â straen ar gynnydd ymhlith bron i ddau ran o bump gweithle yn y DU. Un rheswm am hyn o bosibl yw bod gweithwyr o bell yn tueddu i weithio oriau hirach ac yn cydweddu bywyd personol a phroffesiynol, a allai olygu fwy o straen. ’’Mae 40% o gyflogeion sy’n gweithio o bell yn adrodd am straen uchel, o’i gymharu â dim ond 25% ymysg y rhieni sydd bob amser yn gweithio yn swyddfa eu cyflogwyr. Yr hyn sy’n bryder yw bod ’llai na hanner o bobl broffesiynol ym maes AD yn dweud bod eu hymdrechion i fynd i’r afael â straen yn eu sefydliad yn effeithiol. Mae hyn yn destun pryder oherwydd, yr allwedd i gynhyrchiant yw gwaith o safon (yn cynnwys llinellau penodol rhwng gwaith a bywyd personol, oriau gwaith rhesymol a’r gallu i ymlacio) yn dda i’n lles, ond mae gweithlu iach, hapus yn allweddol i gynhyrchiant.

Creu diwylliant o les

Mae sefydliadau yn llawer mwy effeithiol yn mynd i’r afael â straen ac yn creu gweithleoedd, iach, cynhyrchiol pan fo ganddynt strategaeth lles, bwrpasol i gefnogi eu strategaeth gorfforaethol ehangach a phan fo rheolwyr llinell wedi ymgorffori pwysigrwydd lles. Diolch i’r drefn, fel y daeth iechyd a lles yn y gweithle yn amlycach i sylw’r cyhoedd, yn yr un modd mae lles cyflogai yn codi ymhlith blaenoriaethau arweinwyr uwch.

Fodd bynnag, mae straen yn y gweithle’n parhau’n gyffredin. Pam? Dengys ymchwil bod ymdrechion llawer o gyflogwyr yn brin o’r hyn sydd ei angen: dwy ran o bump yn unig sydd â strategaeth lles, ffurfiol ar waith. Dibynna’r mwyafrif yn syml ar reolwyr llinell i edrych ar ôl lles y gweithlu.

Mae’r rhan fwyaf o reolwyr heb yr offer i gefnogi eu timau drwy adegau o straen

Er y gall cyflogwyr gyflwyno cyfres o bolisïau lles sy’n batrwm, a buddsoddi’n helaeth yn iechyd cyflogeion, os nad yw hyn wedi’i wreiddio yn y modd y rheolir pobl, ni fydd yn cael effaith gwirioneddol. Dengys yr Arolwg Iechyd a Lles yn y Gweithle diweddaraf mai dau brif achos straen yn y gweithle yw llwyth gwaith nad oes modd ei reoli a dull o reoli sy’n rhoi rheolwyr llinell yn gwbl yn y darlun o ran lles meddyliol pobl.

Mewn ymron i ddwy ran o dair o sefydliadau, disgwylir i reolwyr llinell fod yn brif gyfrifol am reolaeth absenoldeb yn y tymor byr. Mae dwy ran o dair o sefydliadau yn disgwyl iddynt fod yn gyfrifol am absenoldeb yn y tymor hir hefyd. Ymhlith y lleiafrif o sefydliadau sy’n mynd i’r afael â phresenoliaeth (gweithio pan fydd gweithiwr yn sâl), ond 37% sy’n rhoi hyfforddiant neu  arweiniad i reolwyr llinell i weld yr arwyddion rhybudd, mae’r mwyafrif helaeth (79%) yn dibynnu ar reolwyr i anfon pobl gartref pan fyddant yn sâl.

Hanner y sefydliadau yn unig sy’n hyfforddi rheolwyr i fynd i’r afael â straen ac mae llai na thrydydd o’r farn bod rheolwyr yn hyderus ynghylch cynnal trafodaethau sensitif am faterion iechyd meddwl a chyfeirio staff at ffynonellau cymorth arbenigol. Yn ogystal, er bod chwarter y sefydliadau yn rhoi’r prif gyfrifoldeb i reolwyr llinell dros reoli absenoldeb yn y tymor byr neu’r tymor hir, ond hanner y rheolwyr (56%) sydd wedi’u hyfforddi i fynd i’r afael ag absenoldeb yn y tymor byr.

O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o reolwyr heb yr offer i gefnogi eu timau drwy adegau o straen. Bydd hyn yn arwain at effaith negyddol ar les pobl.

Beth all bobl broffesiynol ym maes AD ei wneud?

Pan fydd rheolwyr llinell yn gweld pwysigrwydd iechyd a lles, mae sefydliadau’n fwy tebygol o adrodd bod straen yn cael ei reoli’n dda. Felly, y sefyllfa ddelfrydol yw, creu strategaeth iechyd a lles holistaidd wedi’i hadeiladu o’r cychwyn cyntaf, wedi’i heirioli gan arweinwyr a’i gwreiddio drwy’r holl sefydliad. Wrth ganolbwyntio ar eu trafodaethau gyda rheolwyr, gall timau AD ailadrodd y manteision: Bod tîm hapus, iach sy’n ymgysylltu yn fwy tebygol o gyrraedd eu nodau a chyfrannu at ei lwyddiant.

Gyda’r pwyslais ar sgiliau allweddol y mae gofyn i bobl broffesiynol AD feddu arnynt, gall gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) Rheolaeth Adnoddau Dynol Prifysgol Wrecsam Wrecsam eich helpu i wella eich sgiliau cyfathrebu, eich dysgu i feithrin a datblygu talent yn effeithiol, a magu dealltwriaeth o sut i affeithio newid diwylliannol.

Mae’r rhaglen yn ymdrin â datblygu talent, rheoli gwobrwyo, darparu adnoddau a fframweithiau AD strategol, yn ogystal â disgyblaethau busnes allweddol yn cynnwys cyllid, strategaeth a marchnata datblygu sgiliau arweinyddiaeth busnes ymarferol a damcaniaethol.

Nod yr MBA sy’n llwyr ar-lein yw eich galluogi chi astudio yn eich pwysau eich hun, ar eich telerau eich hun, pryd bynnag rydych chi’n barod. Gyda chwe dyddiad cychwyn y flwyddyn, gallwch gychwyn pa bryd bynnag rydych chi’n barod. Ceir dewisiadau talu fesul modiwl, hyblyg, a benthyciadau llywodraeth ôl-radd i dalu am gostau’r rhaglen yn llawn, i’r rheini sy’n gymwys.

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru, ewch i https://online.wrexham.ac.uk/mba-hrm/