Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Ydych chi’n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud.

Postiwyd ar: Tachwedd 2, 2022
gan
Two neuroscientists looking at brain scans on a screen

Mae niwrowyddoniaeth yn wyddoniaeth amlddisgyblaethol sy’n archwilio’r system nerfol – gan ganolbwyntio ar yr ymennydd yn bennaf. Mae astudio’r system nerfol yn dod â nifer amrywiol o ddisgyblaethau academaidd ynghyd, o fioleg a seicoleg, i gyfrifiadureg ac ystadegau. Mae’n agor nifer diddiwedd o feysydd i’w harchwilio ac ymchwilio ymhellach.

Niwrowyddonwyr yw’r rhai sy’n arbenigo ym maes niwrowyddoniaeth. Maent yn astudio’r ymennydd a’r system nerfol i ddeall ei strwythur, ei swyddogaeth, sut mae’n datblygu a sut mae’n gweithio yn well. Mae’r system nerfol yn gymhleth gan ei bod yn cynnwys celloedd sy’n cario negeseuon rhwng yr ymennydd a gweddill y corff. Mae dwy brif ran iddi:

  1. Y system nerfol ganolog, sy’n cynnwys y llinyn asgwrn cefn a’r ymennydd.
  2. Y system nerfol ymylol, sy’n cynnwys y nerfau a’r celloedd sydd wedi eu lledaenu trwy’r corff ac yn cyfathrebu’n ôl i’r system nerfol ganolog trwy synapsau.

Gall niwrowyddonwyr weithio mewn diwydiant, gan gynnal arbrofion labordy yn defnyddio samplau o gelloedd a meinweoedd a datblygu meddyginiaethau newydd i drin a rheoli cyflyrau niwrolegol. Mae rhai yn ymwneud yn uniongyrchol â diagnosio a thrin cleifion, ac fe’u gelwir fel arfer yn niwrolegwyr. Fel arfer fodd bynnag, mae niwrowyddonwyr yn canolbwyntio’n bennaf ar ymchwil niwrowyddoniaeth. Gall hyn gynnwys gwaith academaidd a gwaith labordy, ysgrifennu erthyglau ymchwil a datblygu ymchwiliadau i feysydd pwysig niwrowyddoniaeth megis:

  • Anhwylderau a chlefydau niwrolegol, megis clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, tiwmorau ar yr ymennydd, epilepsi, a ffitiau.
  • Anafiadau i’r ymennydd, gan gynnwys sut mae niwed neu anaf yn effeithio ar wahanol rannau o’r ymennydd, a’r ffordd orau o gefnogi atgyweirio a gwella.
  • Sut mae’r ymennydd yn dysgu.
  • Canfyddiadau poen yn yr ymennydd.
  • Meysydd niwrowahaniaethol, megis dyslecsia a chyflwr ADHD.
  • Syndrom Downs.
  • Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).
  • Caethiwed i sylwedd.
  • Iechyd meddwl a salwch meddwl.

Oherwydd ehangder niwrowyddoniaeth mae gan niwrowyddonwyr yr opsiwn i arbenigo yn un o’r is-feysydd.

Meysydd Niwrowyddoniaeth

Niwroseicoleg

Mae niwroseicoleg yn gyfuniad o niwrowyddoniaeth a seicoleg. Mae’n astudio’r ymennydd a gweddill y system nerfol, yn ogystal â’u cysylltiad ag ymddygiad a gwybyddiaeth pobl.

Niwrowyddoniaeth ddatblygiadol

Mae niwrowyddoniaeth datblygiadol yn ystyried sut mae’r system nerfol yn ffurfio, yn tyfu ac yn newid. Mae ganddo hefyd gysylltiadau â niwroplastigedd, neu blastigrwydd yr ymennydd sy’n ystyried sut mae rhwydweithiau niwral yn newid trwy dwf ac ad-drefnu.

Niwrowyddoniaeth wybyddol

Mae niwrowyddoniaeth wybyddol yn astudio swyddogaethau’r ymennydd fel meddwl, datrys problemau, cof ac iaith.

Niwrowyddoniaeth gellog a moleciwlaidd

Mae niwrowyddoniaeth gellog a niwrowyddoniaeth foleciwlaidd yn archwilio niwronau ar lefel gellog, ac yn astudio genynnau, proteinau, peptidau, derbynyddion, a moleciwlau eraill sy’n arwain gweithrediad niwronau. Mae gan y meysydd hyn gysylltiadau â bioleg foleciwlaidd, bioleg celloedd, genomeg, a niwrobioleg.

Niwroanatomeg

Mae niwroanatomeg yn ystyried anatomeg meinwe nerfol, yn ogystal â’r strwythurau niwral a’r mecanweithiau niwral o fewn y system nerfol.

Niwrogeneteg

Mae neurogeneteg yn ymchwilio i nodweddion niwral etifeddol ac anhwylderau niwrolegol. Mae’n rhan hanfodol o ddeall clefydau genetig sy’n effeithio ar y system nerfol.

Niwrowyddoniaeth ymddygiadol

Mae niwrowyddoniaeth ymddygiadol yn archwilio’r berthynas rhwng yr ymennydd dynol a sut mae pobl yn ymddwyn. Mae hefyd yn archwilio’r un berthynas mewn anifeiliaid.

Niwroffisioleg

Mae niwroffisioleg yn ystyried swyddogaeth y system nerfol yn hytrach na’i phensaernïaeth neu strwythur.

Niwrowyddoniaeth synhwyraidd

Mae niwrowyddoniaeth synhwyraidd yn archwilio’r berthynas rhwng y system nerfol a systemau synhwyraidd y corff.

Niwrowyddoniaeth esblygiadol

Fe’i gelwir hefyd yn niwroesblygiad. Mae niwrowyddoniaeth esblygiadol yn ystyried esblygiad y system nerfol, ac mae ganddi gysylltiadau â niwrowyddoniaeth a bioleg esblygiadol. Mae niwrowyddonwyr esblygiadol yn chwilio am newidiadau mewn genynnau, anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad dros amser. Mae hyn yn arbennig mewn meysydd fel yr amygdala, blaen yr ymennydd, serebelwm ac ardaloedd cortigol yr ymennydd sydd wedi’u lleoli yn y cortecs cerebral.

Niwrowyddoniaeth gyfrifiadol

Mae niwrowyddoniaeth gyfrifiadol yn cyfuno modelu mathemategol a chyfrifiadureg i ddeall cymhlethdod systemau niwral a gweithgaredd yr ymennydd yn well. Defnyddir modelau cyfrifiannol i ddyblygu’r systemau hyn, gan ymchwilio i’w dylanwad ar swyddogaethau megis cyfathrebu ac ymddygiad, yn ogystal ag ateb cwestiynau am sut mae’r ymennydd yn prosesu gwybodaeth.

Niwrowyddoniaeth glinigol

Mae niwrowyddoniaeth glinigol yn cymhwyso ymchwil niwrowyddoniaeth mewn lleoliadau clinigol. Mae niwrolegwyr clinigol yn trin nifer o anhwylderau niwrolegol gan gynnwys anhwylderau datblygiadol, dirywiol a seiciatrig. Maent hefyd yn datblygu therapïau a dulliau newydd ar gyfer cleifion gan ddefnyddio ymchwil mewn niwroleg, seiciatreg, ffarmacoleg a disgyblaethau perthnasol eraill.

Niwrowyddoniaeth systemau

Mae niwrowyddoniaeth systemau yn ystyried cylchedau niwral a systemau synaptig. Mae’n archwilio sut mae celloedd nerfol a chelloedd yr ymennydd yn ymddwyn o fewn rhwydweithiau niwral.

Beth yw manteision bod yn niwrowyddonydd?

Mae niwrowyddoniaeth yn faes gwerth chweil sy’n cynnig cyfle gwirioneddol i ddatblygu ymchwil i’r ymennydd a newid bywydau. Mae mwy na 600 o glefydau niwrolegol wedi’u cofnodi, ac mae’r Gynghrair Niwrolegol wedi datgan bod mwy na 14.7 miliwn o achosion niwrolegol yn Lloegr yn unig sy’n golygu y gall niwrowyddonwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

O ystyried natur amlddisgyblaethol a chydweithredol niwrowyddoniaeth, mae gan niwrowyddonwyr hefyd yr hyblygrwydd i gyfuno eu hymchwil â sawl disgyblaeth academaidd arall. Gallant wneud enw iddynt eu hunain wrth weithio i ddatblygu triniaethau meddygol ar gyfer anhwylderau niwrolegol a chlefydau – mae hyn yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r boblogaeth fyd-eang heneiddio a’r galw am ddatblygiadau mewn ymchwil niwrolegol gynyddu.

Beth yw’r swyddi mwyaf cyffredin i niwrowyddonwyr?

Mae niwrowyddonwyr yn canolbwyntio’n bennaf ar brosiectau ymchwil. Mae nifer yn gweithio yn y byd academaidd gan gynnwys ymchwil ac addysgu academaidd.

Mae yna yrfaoedd y tu allan i’r byd academaidd hefyd. Yn ôl Prospects UK, mae cyfleoedd i niwrowyddonwyr mewn:

  • gwyddorau clinigol.
  • biotechnoleg ac ymchwil cytundebol.
  • datblygiadau fferyllol a chyffuriau.
  • niwroseicoleg.
  • niwroddelweddu neu ddelweddu’r ymennydd.
  • materion rheoleiddio, yn ogystal â gweinyddiaeth polisi ac ymchwil.
  • cyfathrebu gwyddonol ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Mae cyflogwyr yn cynnwys prifysgolion ac adrannau’r llywodraeth, yn ogystal â sefydliadau mawr fel y GIG, Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol (NIH) neu ddiwydiannau fferyllol neu fwyd.

A yw niwrowyddonwyr yn cael eu talu’n dda?

Mae Prospects UK yn amlinellu tair ystod gyflog wahanol ar gyfer niwrowyddonwyr:

  • Gall cynorthwywyr ymchwil ym maes niwrowyddoniaeth ennill rhwng £25,000 a £35,000 y flwyddyn.
  • Mae cyflogau cychwynnol ymchwilwyr ôl-ddoethurol rhwng £32,000 a £45,000 y flwyddyn.
  • Mae niwrowyddonwyr profiadol ac uwch yn ennill cyflogau o £50,000 i £60,000 neu fwy y flwyddyn.

Swyddi eraill sydd ar gael trwy niwrowyddoniaeth

Mae niwrowyddoniaeth yn agor ystod amrywiol o gyfleoedd y tu allan i rolau niwrowyddonwyr. Er enghraifft, yn ôl LinkedIn gall cefndir mewn niwrowyddoniaeth arwain at rolau fel:

  • Technegydd labordy.
  • Cynorthwyydd ymchwil.
  • Therapydd corfforol.
  • Addysgwr iechyd.
  • Prosthetydd.
  • Ceiropractydd.
  • Awdiolegydd.
  • Seicolegydd clinigol.
  • Optometrydd.
  • Niwrolegydd.
  • Deintydd.
  • Niwrolawfeddyg.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng niwrowyddoniaeth a seicoleg?

Mae cysylltiad agos rhwng seicoleg a niwrowyddoniaeth. Ond mae un – seicoleg – yn canolbwyntio ar y meddwl ac ymddygiadau dynol, tra bod y llall – niwrowyddoniaeth – yn canolbwyntio ar yr ymennydd corfforol a gweddill y system nerfol.

Fodd bynnag, mae yna rai sy’n gwneud y ddau: mae niwroseicolegwyr yn archwilio’r berthynas rhwng yr ymennydd corfforol ac ymddygiad dynol.

Dyfnhau eich dealltwriaeth o niwrowyddoniaeth a seicoleg

Trowch eich angerdd am seicoleg yn yrfa drwy’r MSc Seicoleg o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, rhan o Brifysgol Wrecsam.

Addysgir y radd meistr hyblyg hon yn gyfan gwbl ar-lein, ac mae’n cynnwys modiwl allweddol mewn niwrowyddoniaeth. Mae’n rhoi trosolwg o systemau gwybyddol a niwrolegol, a’r canlyniad yn dilyn aflonyddwch, anafiadau a thriniaeth. Mae’r cynnwys yn rhychwantu egwyddorion a thybiaethau craidd niwroseicolegol, ac yn ymdrin â safbwyntiau cyfoes ar systemau ac anhwylderau niwrolegol allweddol y gellir dod ar eu traws yn ymarferol.