Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Y tueddiadau mawr sy’n siapio marchnata yn 2019

Postiwyd ar: Mawrth 14, 2019
gan
The big trends shaping marketing in 2019

Ni all unrhyw fusnes oroesi heb gwsmeriaid, ond heddiw mae defnyddwyr nid yn unig yn hynod graff, ond mae ganddynt doreth o wybodaeth ar flaenau eu bysedd. Yn awr, mae cwsmeriaid yn disgwyl i frandiau gynnig profiadau marchnata wedi’u teilwra, ac ymateb yn syth, ac maent eisiau cysylltu â chwmni ar adeg sy’n gyfleus iddynt hwy, ym mha ffordd bynnag y dewisant.

Ymddengys y bydd 2019 yn flwyddyn fawr i farchnata, ond sut y bydd y maes yn newid a beth yw’r tueddiadau mawr a fydd yn effeithio ar farchnata eleni?

1. Technoleg

Yn ôl yn niwedd yr 80au a dechrau’r 90au, roedd awtomatiaeth marchnata’n dechnoleg newydd a drud, a dim ond y brandiau mwyaf a allai ei fforddio. Ond mae datblygiadau mewn technoleg a ffenomena fel deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannau wedi troi hynny â’i ben i waered. Mae awtomatiaeth wedi esblygu o systemau CRM syml i beiriannau a chanddynt y gallu i gyfrifo rhifau a dehongli data, gan wella swyddogaethau marchnata’n sylweddol trwy ddarparu gwybodaeth hollbwysig a all gyfarwyddo strategaethau.

Fodd bynnag, nid data’n unig sy’n creu cyfleoedd newydd i farchnatwyr. Er enghraifft, mae argaeledd a fforddiadwyedd technoleg fel seinyddion deallus wedi arwain at gynnydd mewn cyfleoedd yn ymwneud â chwilio llais a hysbysebion cysylltiedig, gan alluogi brandiau i dargedu deunyddiau hyrwyddol at gwsmeriaid o fewn eu cartrefi eu hunain.

2. Dyneiddio

Gellir ystyried yr holl dechnoleg sydd ar gael i farchnatwyr fel bendith ac fel melltith; mae’r gallu i ddefnyddio dulliau marchnata torfol wedi dod yn ddewis i fusnesau o bob maint trwy gyfrwng technoleg bersonol fel ffonau symudol, sy’n golygu y gellir anfon negeseuon yn syth at y cwsmer. Fodd bynnag, wrth i nifer y negeseuon gynyddu, caiff y broses ei llethu, a’r perygl yw y bydd y farchnad yn cael ei gorlwytho. Dyna pam y mae brandiau’n troi at strategaeth fwy ‘dynol’, gan groesawu perthnasau mwy ystyrlon a symud oddi wrth negeseuon gwerthu uniongyrchol. Mae brandiau’n awyddus i gael sgyrsiau yn hytrach na darllediadau.

3. Dylanwadwyr

Mae dylanwadwyr eisoes yn bwnc llosg, ond tan yn ddiweddar cawsant eu hystyried yn bennaf fel trywydd ar gyfer brandiau mwy. Mae’r cynnydd mewn micro-ddylanwadwyr (rhai â dilynwyr rhwng 2,000 – 50,000 mewn nifer, sydd yn aml ag angerdd arbennig neu bwnc penodol dan sylw) ar fin newid hyn i gyd, gan greu sefyllfa decach ar gyfer brandiau llai ond gan alluogi brandiau mwy hefyd i dargedu mewn modd arbenigol.

4. Tryloywder

Gan fod toreth o wybodaeth ar flaenau bysedd defnyddwyr, mae’n llawer haws i bobl wneud eu gwaith cartref cyn dewis cwmni i weithredu gydag ef neu brynu ganddo. Mae defnyddwyr yn fwy craff nag erioed ac yn edrych yn fwy trylwyr ar y brandiau y maent yn ymwneud â hwy. Mae’r gallu i gywain gwybodaeth a barn ynglŷn â’ch cwmni mewn ychydig funudau’n unig yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau, yn fwy nag erioed o’r blaen, fod yn dryloyw yn eu marchnata, gan hyrwyddo’u cymwysterau ond hefyd ateb ymholiadau a sylwadau mewn modd agored a theg.

Gweithredu yn y byd go iawn

Popeth yn iawn o ran gwybod am y tueddiadau hyn – ond mae eu rhoi ar waith a’u cysylltu ag effeithiau busnes ehangach yn rhywbeth arall. Rhaid i bob busnes wybod y diweddaraf am ddatblygiadau o’r fath, er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn gystadleuol a bod eu cwsmeriaid yn cael y profiad gorau posibl. Dyna pam y mae Prifysgol Wrecsam wedi cyflwyno cwrs Meistr Gweinyddu Busnes (MBA) ar-lein, sy’n arbenigo mewn Marchnata. Mae’r rhaglen yn rhoi i’r myfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth i ddadansoddi a chynnig ymatebion strategol i dueddiadau a ddaw i’r amlwg yn y farchnad, gan eu galluogi i ystyried yr effaith ar y farchnad yn ogystal â’r effeithiau ehangach ar y sefydliad i gyd. Ymhellach, mae’r rhaglen yn ystyried sut i ddarparu gwerth i’r cwsmer a sut i fanteisio ar newidiadau a chreadigrwydd er mwyn sicrhau goroesiad a thwf y sefydliad.

Mae’r MBA Marchnata’n gwrs ar-lein, sy’n berffaith i’r rhai na allant astudio yn y dull traddodiadol ar y campws. Cyflwynir holl ddeunyddiau’r cwrs ar-lein, felly gallwch astudio ar amser sy’n gyfleus i chi, ar amrywiaeth o ddyfeisiadau. Golyga hyn na fydd yn rhaid ichi gymryd seibiant yn eich gyrfa – yn wir, gallwch barhau yn eich swydd bresennol! Mae cynllun hyblyg y cwrs yn cynnig amrywiaeth o ddyddiadau cychwyn drwy gydol y flwyddyn, felly gallwch ddechrau astudio pan fydd hynny’n gyfleus i chi a gallwch gychwyn o fewn wythnosau. Ymhellach, mae yna ddewis i ‘dalu wrth ddysgu’, ac efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig a gefnogir gan lywodraeth y DU, a allai dalu am holl gostau’r rhaglen.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor yn awr. I gael mwy o wybodaeth neu i ymgeisio, ewch i:
https://ww3.wrexham.ac.uk/applicationform/enquiryform.aspx