Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Y tueddiadau a fydd yn effeithio ar dimau AD yn 2019

Postiwyd ar: Mawrth 14, 2019
gan
The trends impacting HR teams in 2019

Gyda phob cenhedlaeth daw sialens newydd i adrannau AD. Wrth i dechnoleg ddatblygu ac wrth i wleidyddiaeth fyd-eang newid, dyna hefyd a wna agweddau, sgiliau a ffocws cenhedlaeth, gan arwain at yr angen i ddatblygu strategaethau gweithlu sy’n hyblyg ac felly’n addas ar draws y cenedlaethau.

Ar hyn o bryd, y sialens hollbwysig i dimau AD drwy’r byd yw’r anallu i ddod o hyd i ymgeiswyr a chanddynt y sgiliau priodol i lenwi swyddi. Mewn arolwg o 800 o weithwyr proffesiynol a gynhaliwyd gan XpertHR, dywedodd 64% mai’r sialens fwyaf ar gyfer 2019 fydd chwilio am ymgeiswyr o’r radd flaenaf. Felly, sut y bydd hyn yn effeithio ar dueddiadau AD ar gyfer y flwyddyn i ddod?

1. Uwchsgilio

Oherwydd yr anhawster i ddod o hyd i ymgeiswyr a chanddynt y sgiliau a’r profiad priodol, mae busnesau’n canolbwyntio ar uwchsgilio’u gweithwyr presennol, ar ddyrchafu’n fewnol ac ar gyflogi’r bobl iawn ac yna eu hyfforddi yn y meysydd y mae angen eu datblygu ymhellach. Dyma ddewis deniadol, i’r cwmni ac i’r gweithiwr; er, efallai y bydd cyfnod ar y cychwyn pan fydd yna gamgymharu rhwng y person a’r swydd. Mae hyfforddiant yn y gwaith yn golygu y gellir dysgu’r unigolyn yn union yn ôl gofynion y busnes, ac y bydd yn fwy tebygol o aros yn hirach yn y swydd, diolch i’r buddsoddiad personol a wnaed.

2. Swyddi v gwaith

Dod o hyd i ymgeiswyr sy’n cyd-fynd â’r swydd-ddisgrifiadau yw’r ffordd arferol o recriwtio. Fodd bynnag, wrth i’r broses hon fynd yn fwyfwy anodd, mae busnesau’n sylweddoli y gallant fod yn fwy hyblyg gyda’u proses recriwtio trwy ganolbwyntio ar elfennau hanfodol y gwaith y mae angen ei wneud. Yn hytrach nag ystyried y ‘swydd’, mae canolbwyntio ar y ‘gwaith’ yn rhoi mwy o ddewis i dimau AD, gan gynnig cyfleoedd i weithwyr rhan amser, rhieni sy’n gweithio o’u cartref, neu hyd yn oed gontractwyr sy’n gweithio ychydig oriau’n unig yr wythnos.

3. Y bwlch cyflog o ran rhywedd

Er bod cryn bwyslais wedi bod ar y pwnc hwn yn ddiweddar, mae cydraddoldeb o ran rhywedd yn dal i fod 200 mlynedd o’n cyrraedd yn ôl Fforwm Economaidd y Byd. Mae polisïau fel cyflog cyfartal yn ffactorau allweddol wrth i bobl ddewis cyflogwr, ac os gall ymgeiswyr weld bod camau mawr yn cael eu cymryd tuag at gulhau’r bwlch, mae’r sialens o recriwtio’r person iawn yn lleihau.

4. Gweithredu cymdeithasol

Mae’r cenedlaethau iau yn fwy ymwybodol nag erioed o ddigwyddiadau’r dydd a’r byd y maent yn byw ynddo, diolch yn rhannol i’r rhyngrwyd. Ond yn hytrach na disgwyl i wleidyddion neu arweinwyr gwleidyddol weithredu ar faterion byd-eang, maent yn edrych fwyfwy tuag at frandiau dylanwadol. Trwy gysylltu amcanion a negeseuon eich sefydliad â phwrpas uwch – hyd yn oed os mai rhywbeth syml fel rhoi’r gorau i ddefnyddio papur neu ddefnyddio llai o blastig yn y swyddfa sydd gennych dan sylw, neu ganiatáu i’ch gweithwyr ddefnyddio’u hamser i weithio gydag elusen o’u dewis am ychydig ddyddiau bob blwyddyn – byddwch yn creu ewyllys da gyda’ch gweithwyr ac yn cymryd cam pwysig tuag at greu gweithlu o unigolion o’r un meddylfryd sy’n gweithio tuag at weledigaeth gyffredin.

Rhoi hyn ar waith yn ymarferol

Dyma rai o’r sialensiau sy’n wynebu timau AD ar hyn o bryd. Ond maent yn esblygu ac yn datblygu’n aml, ac mae hyn yn golygu bod angen i adrannau fod yn fythol ymwybodol o’r tueddiadau a ddaw i’r amlwg yn y farchnad ehangach, a hefyd o anghenion cyfnewidiol eu sefydliad. Mae cynllunio’r gweithlu’n sgil strategol sy’n hollbwysig i lwyddiant busnes, ac mae’r broses hon angen unigolion sydd nid yn unig yn deall pobl a’u hanghenion, ond sydd hefyd yn deall y gofynion o safbwynt twf a llwyddiant y busnes.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi cyflwyno cwrs MBA Rheoli Adnoddau Dynol ar-lein, sydd â’r nod o roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i bobl sy’n dymuno dringo’n uwch yn eu gyrfa, er mwyn eu galluogi i gamu ymlaen – fel rheoli talentau, ffynonellu, rheoli dulliau gwobrwyo a chadw staff, yn ogystal â hanfodion busnes yn cynnwys strategaethau, twf a chynllunio ariannol.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, felly gallwch astudio pa bryd bynnag sy’n hwylus i chi, ar amrywiaeth o ddyfeisiadau. Mae dewis i ‘dalu fesul modiwl’ ar gael, sy’n golygu na fydd angen ichi dalu costau mawr ymlaen llaw, a hefyd ceir amryw o ddyddiadau cychwyn drwy gydol y flwyddyn, felly gallwch ddewis ddechrau astudio pan fydd hynny’n gyfleus i chi. Mae’r rhaglen hyblyg hon yn ddelfrydol i bobl uchelgeisiol sy’n dymuno newid eu gyrfa ac a fyddai’n cael trafferth i astudio ar y campws oherwydd ymrwymiadau gwaith neu ymrwymiadau teuluol.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor yn awr. I gael mwy o wybodaeth neu i ymgeisio, ewch i: https://ww3.wrexham.ac.uk/applicationform/enquiryform.aspx