Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Wedi diflasu ar y Bwrdd? Creu diwylliant o intrapreneuriaid

Postiwyd ar: Gorffennaf 22, 2019
gan
Bored with the Board? Creating a culture of intrapreneurs

Mae pob busnes wedi ei greu o gyfeiriad meddwl entrepreneuraidd, ond wrth iddo dyfu mae’n mynd yn llai syml. Felly, mae cwmnïau angen creu diwylliant o arloesedd ymysg gweithwyr, ble mae staff ar bob lefel yn cael eu hannog i gynhyrchu a datblygu syniadau.

Yn aml, y rheiny sydd ar y ‘rheng flaen’ sydd yn gweld y problemau (a datrysiadau) yn fwy clir na uwch reolwyr, sydd ddim yn ymdrin â thasgau busnes o ddydd i ddydd. Fel y mae’r enghreifftiau isod yn dangos, mae rhai o’r arloesiadau gorau wedi dod gan yr ‘intrapreneuriaid’ yma.

Mae mentrau sy’n annog diwylliant o arloesi ar draws y cwmni yn mynd i fod yn arweinwyr diwydiant yn y farchnad fodern. Felly, sut mae cael y gorau gan eich gweithwyr?

Annog gweithwyr i gynhyrchu syniadau

Wrth i Vodaphone ddarganfod fod gwahanol feysydd o’r busnes yn gweithio mewn seilos yn ei bencadlys, yn cadw syniadau newydd a chreadigrwydd, penderfynasom ddylunio awyrgylch gweithio newydd fyddai’n annog arloesedd gweithwyr. Cawson wared ar swyddfeydd preifat, ciwbiclau ac ystafelloedd cyfarfod; nid oes gan y Prif Weithredwr ddesg ei hun hyd yn oed. Mae gweithwyr yn gweithio lle bynnag y medrant ddod o hyd i wagle, ac nid yw symbolau o bŵer neu fraint yn bodoli bellach. Mae’r strategaeth hon yn gyrru arloesedd drwy greu cyfleoedd i weithwyr siarad ymysg ei gilydd, nid mewn adrannau gwahanol, ar lefelau gwahanol. Mae Vodafone wedi sylwi fod y math yma o gydweithio traws-swyddogaethol wedi gwella cydlyniad yn y tîm a chynyddu cynhyrchiant.

Rhoi amser i staff weithio ar syniadau

Mae nifer cynyddol o gwmnïau yn rhoi amser i weithwyr weithio ar brosiectau o’u dewis personol. Mae rhai cwmnïau yn cynnal diwrnodau arloesedd; mae gan eraill sesiynau hacio – dyfeisiwyd y botwm ‘Hoffi’ ar Facebook mewn digwyddiad o’r fath, ac mae bellach yn gyfystyr â’r brand – tra bo eraill yn rhoi amser penodol i staff weithio ar brosiectau sydd yn eu gwneud yn frwdfrydig, ac yn datblygu a herio syniadau newydd. Mae cwmni meddalwedd o Awstralia, Atlassian, yn annog gweithwyr i gymryd Diwrnodau FedEx; diwrnodau o wyliau gyda thâl i weithio ar unrhyw broblem yr hoffent. Ond fel FedEx, mae’n rhaid iddynt gyflwyno rhywbeth o werth o fewn 24 awr. I annog arloesedd yn Accenture, trefnodd y cwmni Ŵyl o Syniadau, a welodd 1,400 o weithwyr yn ymgynnull mewn un lle i rannu syniadau.

Creadigrwydd a chynhyrchu syniadau

I arloesi’n llwyr, mae cwmnïau angen sicrhau diwylliant sydd yn cefnogi syniadau newydd ac yn eu gweithredu. Sefydlodd Siemens yr Intrapreneurs Bootcamp AI i alluogi gweithwyr i dorri trwy arloesedd AI i Siemens mewn ffordd chwim gan ganolbwyntio ar gwsmeriaid. Yn hytrach na chwilota am bobl allanol, roedd y sefydliad yn ceisio dod o hyd i bobl oedd â diddordeb at AI oedd yn eu mysg eisoes, darganfod beth oeddynt eisiau creu a’u cael nhw i’w adeiladu. Cawsant geisiadau gan 232 o weithwyr, a derbyn 38 ohonynt. Cafodd y bobl yma eu rhannu i 8 tîm, ac roedd gan bob tîm fentor. Yna, roedd ganddynt 7 diwrnod dros gyfnod o 7 wythnos i ddatblygu gwelediad mentrus i syniad busnes dilys. I Siemens, pwrpas y timau oedd torri silos. Doedd dim gwahaniaeth o ba adran roedd y bobl hyn yn dod, nag ymhle roeddynt yn eistedd yn yr hierarchaeth.

Adeiladu arloesedd mewn

Mae saith masnachfraint ffilm yn Hollywood, gan gynnwys Shrek a Madagascar, yn annog staff – beth bynnag fo teitl eu swydd – i fod yn rhan o’r broses creu ffilm drwy gynnig eu syniadau eu hunain. Mae’r cyflogwr hefyd yn buddsoddi yn ei staff drwy ddarparu mynediad at gyrsiau megis datblygiad artist; yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r gallu iddynt gyflwyno’r animeiddiad byd enwog nesaf.

Os ydych eisiau adeiladu busnes sydd yn gweithio ar fodel intrantrepreneur, neu eisiau ennill dealltwriaeth well o fusnes er mwyn cynhyrchu mwy o syniadau arloesol, byddai gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) yn llwybr gwych i’w dilyn. Mae MBA unigryw Prifysgol Wrecsam wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a brwdfrydig sydd eisiau symud eu gyrfa ymlaen yn gyflym gyda dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arwain.

Wedi ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, mae’r cwricwlwm cynhwysfawr yn cwmpasu disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, gan ddatblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol. Bydd yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gan gynnwys creadigrwydd a chynhyrchu syniadau, a dod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer heriau busnes cymhleth.

Mae’r cwrs MBA 100% ar-lein hwn wedi’i ddylunio i’ch galluogi i astudio o gwmpas eich swydd bresennol ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi, felly does dim angen gadael eich swydd bresennol. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau o benderfynu cofrestru. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba/