Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Sut i recriwtio a chadw mileniaid

Postiwyd ar: Ebrill 11, 2019
gan
How to recruit and retain millennials

Gyda thraean o’r gweithlu yn mynd i fod yn fileniaid erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, mae’n hanfodol bod adrannau Adnoddau Dynol (AD) yn addasu eu rhaglenni recriwtio a’u strategaethau cadw. Tra bod rhai rolau AD mwy traddodiadol yn creu pellter rhyngddynt a’u gweithwyr, gall hyn arwain at weithwyr yn teimlo eu bod wedi eu hymddieithrio a chredu nad yw AD wedi buddsoddi ynddynt ar ôl recriwtio. Felly, pa fesurau y dylai gweithwyr AD proffesiynol eu cymryd i wneud eu cwmni yn addas ar gyfer mileniaid?

Croesawu technoleg

Efallai mai’r her fwyaf sy’n wynebu AD yw recriwtio a chadw talent. Dangosodd. ystadegau diweddar fgan Entelo Recruitment Software fod gweithwyr proffesiynol AD yn treulio traean o’u hwythnos yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer un rôl, gan gael effaith negyddol ar brofiadau gweithwyr presennol y busnes ac ymgeiswyr. Mae awtomeiddio strategaethau recriwtio yn caniatáu i AD ganolbwyntio mwy ar y bobl a llai ar y broses. Y llynedd, defnyddiodd dau lwyfan recriwtio, SmartRecruiters ac Ideal, dechnoleg deallusrwydd artiffisial i awtomeiddio prosesau recriwtio, gan arwain at bedair gwaith yn fwy o gynhyrchedd gan y swyddogion recriwtio, lleihau costau recriwtio fesul swydd 71% a threblu’r nifer o ymgeiswyr cymwys.

Hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio

Mae mileniaid yn cyflwyno ffyrdd newydd o weithio ac os yw cwmnïau eisiau aros yn gystadleuol, rhaid iddynt addasu i anghenion y genhedlaeth newydd hon sy’n ddibynnol ar dechnoleg. Mae nifer yn mynnu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac wedi arfer cael cysylltiad rheolaidd â’r we, felly gall cynnig opsiynau gwaith hyblyg eich helpu i’w denu a’u cadw. Dylai AD arwain y ffordd wrth hyrwyddo amgylchedd proffesiynol lle gall gweithwyr weithio o gartref, dewis oriau gweithio hyblyg, a dylent amlygu a hyrwyddo pwysigrwydd technoleg ac offer cyfredol a dibynadwy.

Datblygu diwylliant i fileniaid

Mae creu diwylliant yn dechrau gydag arweinwyr, ac mae mileniaid yn aml eisiau bos sy’n gallu eu mentora. Mae’n bosibl hefyd y byddant eisiau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol sy’n caniatáu i weithwyr gyflwyno syniadau gwahanol. Ac mae cyfrifoldeb cymdeithasol yn bwysig hefyd; mae mileniaid yn tueddu i gael eu denu gan gwmnïau sy’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. I gadw’r dalent orau, rhaid i AD gael gwared ar hierarchaeth a datblygu diwylliant sy’n gyfeillgar i fileniaid gan agor llinellau cyfathrebu. Dylai hyn gryfhau perthynas y rheolwr a’r gweithiwr, wrth helpu’r ddau i wella ar lefel broffesiynol a phersonol gan alluogi iddynt weld ffyrdd gwahanol o weithio a gwella sgiliau meddalach fel cyfathrebu. Mae ymgysylltu â gweithwyr wedi bod ar flaenau bysedd pawb ers nifer o flynyddoedd bellach, ond wrth i fwy a mwy o filenliaid gael eu cyflogi, mae ei bwysigrwydd yn cynyddu, gydag angen cynyddol i AD ganolbwyntio ar adeiladu a meithrin perthnasoedd a diwylliant cwmni.

Buddsoddi mewn twf personol

Tra mae’r berthynas weithio draddodiadol yn aml yn blaenoriaethu buddion cyffredinol i’r cwmni dros anghenion gweithwyr, mae mileniaid yn mynnu bod cwmnïau yn buddsoddi yn eu twf personol ac yn ei werthfawrogi, neu byddant yn eu colli. Gyda dros hanner y mileniaid yn dweud mai dilyniant gyrfa oedd y peth pwysicaf iddynt wrth ddewis cyflogwr, i gadw talent rhaid i gwmnïau ddarparu cyfleoedd o hyd iddynt barhau â’u datblygiad. Mae technoleg yn darparu cyfle i ddarparu rhaglenni rhyngweithiol a datrysiadau e-ddysgu yn hawdd ac yn effeithiol gydag ychydig iawn o gostau, tra bydd gwobrwyo teg a rhaglenni cymelliadol hefyd yn helpu i sicrhau bod gweithwyr wedi eu hymgysylltu ac yn hapus.

Yn gryno, gyda chyflogwyr yn dibynnu ar dalent mileniaid am ddegawdau i ddod, rhaid i AD ddarparu rhesymau atyniadol dros pam y dylent aros, digon o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, dull cyfunol a’r cyfle i barhau i ddatblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd.

Gyda ffocws ar y sgiliau allweddol sy’n ofynnol ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD llwyddiannus, mae MBA ar-lein Rheoli Adnoddau Dynol Prifysgol Wrecsam yn rhoi’r cyfle i chi symud eich gyrfa yn ei blaen yn gyflym drwy ddatblygu sgiliau busnes allweddol ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r ddisgyblaeth rheoli adnoddau dynol yn arbennig. Wrth ganolbwyntio ar ddatblygu talent, rheoli sy’n gwobrwyo, recriwtio a fframweithiau AD strategol, mae hefyd yn ymdrin â disgyblaethau busnes allweddol gan gynnwys cyllid, strategaeth a marchnata, a datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.

Darperir yr holl ddeunydd cwrs ar-lein sy’n gwneud yr MBA yn ddewis perffaith i’r rhai hynny sydd angen trefnu astudio o amgylch gwaith – a gallwch ddefnyddio’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu yn eich rôl gyfredol. Mae chwe dyddiad dechrau drwy gydol y flwyddyn i ddewis o’u plith, fel y gallwch ddechrau astudio’n gynt. Mae opsiwn hefyd i dalu fesul modiwl, a gallech hyd yn oed fod yn gymwys am fenthyciad ôl-raddedig a gefnogir gan y llywodraeth, a fyddai’n talu holl gostau’r cwrs.

Mae ceisiadau yn awr ar agor. I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba-hrm/