Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Sianeli marchnata: nid yr hyn rydych chi’n ei ddweud yn unig sy’n bwysig, ond lle rydych chi’n ei ddweud

Postiwyd ar: Mai 23, 2022
gan
Hands holding a tablet with holograms of different icons hovering above

Rhai o elfennau pwysicaf unrhyw strategaeth farchnata yw’r sianeli a ddefnyddir i gyrraedd pobl. Gall y sianeli marchnata hyn – lle caiff negeseuon marchnata eu cyflwyno i gynulleidfa darged – benderfynu pwy sy’n derbyn deunydd marchnata, sut fyddant yn ei weld, a gall hyd yn oed ddylanwadu ar eu camau nesaf.

Ystyriwch e-bost – sianel farchnata hynod boblogaidd. Mae marchnata drwy negeseuon e-bost yn galluogi brandiau i:

  • benderfynu pwy sy’n derbyn eu neges, p’un a yw hynny’n bobl sydd wedi optio i mewn i ddeunyddiau marchnata ar gyfer y brand, cwsmeriaid blaenorol, neu ddarpar gwsmeriaid sy’n rhan o ddemograffeg darged y brand.
  • teilwra’r neges i fod yn berthnasol i’r gynulleidfa darged. Er enghraifft, gall busnes gynhyrchu rhestr o gyfeiriadau e-gwsmeriaid presennol sydd wedi gadael eitemau yn eu basged ar-lein ar wefan y cwmni, er mwyn eu hatgoffa am yr eitemau maent wedi’u gadael ar eu hôl. Gallent hyd yn oed wella ffyddlondeb i’r brand drwy gynnig gostyngiadau unigryw i bobl.
  • denu pobl i brynu ar wefan e-fasnach y cwmni drwy anfon cod taleb atynt ynghyd â dolen at gynhyrchion newydd neu boblogaidd ar y safle.
  • annog darpar gwsmeriaid i siopa’n bersonol drwy anfon cwpon atynt sydd ond yn ddilys i’w ddefnyddio mewn siop fanwerthu.

Sianeli marchnata effeithiol

Mae gan farchnatwyr nifer cynyddol o sianeli amrywiol – yn enwedig sianeli marchnata digidol – i weithio â nhw er mwyn arwain cynhyrchiant ac i farchnata cynnyrch a gwasanaethau i bobl.

Gwefannau

Gwefan sefydliad yw cartref ei bresenoldeb ar-lein ac mae’n gweithredu’n effeithiol fel ei ffenestr siop yn y byd rhithiol. O’i thudalen hafan i’w thudalennau cynnyrch, mae gwefan cwmni yn diffinio ac yn arddangos brand y sefydliad, yn dylanwadu ar brofiad a thaith ei gwsmeriaid, ac yn hwyluso cyfathrebu dwy ffordd rhwng y busnes a’i gynulleidfaoedd.

Y tu hwnt i wefan y sefydliad ei hun, mae cyfleoedd marchnata ar gael ar safleoedd eraill. Caiff hyn ei adnabod fel marchnata cysylltiedig, lle mae busnesau’n talu safleoedd trydydd parti i hysbysebu a hyrwyddo eu brand drwy ddangos hysbysebion arddangos a hysbysebion baner.

E-bost

Marchnata dros e-bost yw un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithiol o farchnata digidol. P’un ai drwy ddefnyddio templed y gellir ei ailddefnyddio neu restr cyfeiriadau e-bost presennol cwsmeriaid blaenorol, nid oes angen i fusnes ailddyfeisio’r olwyn i yrru traffig at ei wefan, rhoi hwb i’w rifau gwerthu, nac addysgu pobl am ei frand.

Yn ôl Mailchimp, y platfform awtomeiddio marchnata Americanaidd, mae marchnata dros e-bost yn gorfodi’r darllenydd i weithredu – ac ar gyfer pob $1 sy’n cael ei wario, mae elw cyfartalog buddsoddiad e-bost yn $38.

Cynnwys

Mae marchnata cynnwys yn faes marchnata sy’n tyfu’n gyflym. Drwy greu cynnwys perthnasol o ansawdd uchel, mae brandiau’n gosod eu hunain fel arbenigwyr yn eu maes, gan feithrin ymwybyddiaeth, adeiladu ar eu henw da yn eu sector, a chanfod cwsmeriaid newydd.

Gall erthyglau, blogiau, astudiaethau achos, podlediadau, deunyddiau ffeithluniau, a marchnata drwy e-bost gael eu hystyried fel strategaeth marchnata cynnwys.

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol yn hynod bwysig yn y byd marchnata. P’un a yw busnes yn targedu pobl hŷn ar Facebook a LinkedIn neu’r Genhedlaeth Z ar TikTok, mae nifer sylweddol o bobl yn treulio oriau maith ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd, sy’n golygu bod marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol yn sylfaenol bwysig.

Mae marchnata dylanwadwyr hefyd yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Ystyr hyn yw phan fo busnesau’n gweithio gyda dylanwadwyr poblogaidd, y gellir eu hymddiried ynddynt, ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n cymeradwyo neu’n cyflwyno gwybodaeth ar ran y brand gyda’r nod o apelio at ddemograffeg darged y sefydliad.

Peiriannau chwilio

Mae marchnata optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) yn gweithio i sicrhau bod tudalennau gwe sefydliad yn ymddangos yn agos at frig canlyniadau peiriannau chwilio. Er enghraifft, gall busnes sy’n gwerthu offer garddio ddefnyddio arfer gorau SEO, fel ymchwilio geiriau allweddol, er mwyn sicrhau bod ei dudalennau’n ymddangos ar frig Google pan fo rhywun yn chwilio am “brynu offer garddio”.

Mae’r safleoedd hyn wedi’u pennu gan nifer o bethau, ac mae’n bwysig nodi bod dulliau rhad – neu am ddim – o gynyddu traffig organig at wefan, yn ogystal ag opsiynau y codir tâl amdanynt, fel  talu fesul clic a Google Ads.

Ar lafar gwlad

Mae marchnata ar lafar gwlad yn fath mwy traddodiadol o farchnata, ac yn parhau i fod yn hynod werthfawr. Drwy sicrhau profiad cadarnhaol i gwsmeriaid – efallai drwy ymgyrch e-bost effeithiol, gwefan sy’n blaenoriaethu taith y defnyddiwr, neu gynnwys sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth – gall busnesau feithrin enw da, cadarnhaol, sy’n talu ar ei ganfed, boed hynny’n golygu bod cwsmeriaid yn ail-brynu, bod pobl yn cyfeirio pobl eraill at y busnes, neu lysgennad parhaus i’r brand.

Dewis y sianeli cywir

Gall unrhyw sianel fod yn offeryn marchnata effeithiol, os yw’n cael ei defnyddio’n gywir, ond gall ymchwil sylfaenol fynd yn bell wrth ddod o hyd i’r sianeli marchnata gorau ar gyfer unrhyw fath o weithgaredd marchnata. Bydd angen i Farchnatwyr ystyried eu:

  • cwsmeriaid a chynulleidfaoedd targed. Ble maen nhw’n treulio eu hamser ar-lein? A fyddai sianel all-lein yn gweithio’n fwy effeithiol, neu a yw sianeli digidol yn fwy priodol?
  • Ai’r nod yw gwerthu? Ynteu i wella ymwybyddiaeth am y brand?
  • Sut mae brandiau tebyg yn mynd ati i farchnata? A yw’n ymddangos bod hyn yn taro tant gyda defnyddwyr?

Mae hefyd yn bwysig gwerthuso effeithiolrwydd y sianeli marchnata mae busnes yn eu defnyddio. Mae tueddiadau’n newid, ac mae’r mathau o sianeli marchnata sydd ar gael hefyd yn newid, felly gall dadansoddi metrigau a pherfformiad unrhyw ymdrech farchnata sicrhau bod marchnatwyr yn aros ar y blaen ac yn gallu ymateb ac addasu yn ôl yr angen.

Marchnata Aml-sianel

Mae’r rhan fwyaf o strategaethau marchnata yn defnyddio’r hyn a elwir yn farchnata aml-sianel. Mae’n golygu defnyddio nifer o wahanol sianeli – yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ar-lein ac all-lein – ar y cyd, er mwyn cyrraedd y gynulleidfa darged. Mae marchnata aml-sianel wedi dod yn un o hanfodion y rhan fwyaf o strategaethau marchnata, diolch i’r opsiynau di-rif sydd gan bobl i dderbyn gwybodaeth. Er enghraifft, petai busnes yn dewis marchnata ei hun yn gyfan gwbl drwy ymgyrchoedd e-bost, ni fydd yn cyrraedd unrhyw un sy’n optio allan o farchnata drwy e-bost nac unigolion sy’n defnyddio hidlwyr sbam i rwystro negeseuon marchnata.

Felly, er bod y nifer cynyddol o sianeli marchnata sydd ar gael yn newyddion da i farchnatwyr oherwydd bod ganddynt fwy o gyfleoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, maent hefyd yn golygu bod gan gynulleidfaoedd fwy o opsiynau, ac maent yn medru dewis sut maent eisiau derbyn gwybodaeth. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n hollbwysig i frandiau ymgymryd â dull aml-sianel wrth ddatblygu cynllun marchnata.

Creu ymgyrchoedd marchnata effeithiol

Datblygu profiad strategol fel arweinydd marchnata gyda’r cwrs MBA Marchnata 100% ar-lein gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae’r radd hyblyg hon yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol, prysur, sydd eisiau trawsnewid eu rhagolygon gyrfa a datblygu sgiliau pwysig mewn meysydd fel fframweithiau rheoli brandiau, technegau dadansoddi, a macro-dueddiadau.