Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Seicoleg addysgol: cefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu a datblygu  

Postiwyd ar: Ebrill 6, 2023
gan
Professional family psychologist helping child, female teacher, social worker talking to a girl in office.

Mae ystadegau diweddaraf llywodraeth y DU yng nghyswllt anghenion dysgu ychwanegol, a gyhoeddwyd yn eu hadroddiad ym Mehefin 2022, yn dangos bod gan ychydig o dan 1.5 miliwn o ddisgyblion yn Lloegr yn unig anghenion addysgol arbennig (AAA). Yn gyffredinol, mae gan 4% o’r holl ddisgyblion gynllun addysg, iechyd a gofal (AIG), ac nid oes gan 12.6% gynllun, ond mae angen cymorth dysgu ychwanegol arnynt.

Nid oes unrhyw ddull addysgu unigol sy’n gweithio orau ar gyfer pob dysgwr – p’un a oes gan unigolion anghenion dysgu ychwanegol ai peidio. O ystyried bod meithrinfeydd, ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yn chwarae rôl mor hanfodol yn natblygiad a deilliannau plant a phobl ifanc at y dyfodol, mae’n hanfodol sicrhau bod cymorth priodol, wedi’i bersonoli ar gael iddynt i’w helpu i ffynnu.

Ond pa ddulliau sy’n gweithio orau? Ym mhle y mae dysgu’n digwydd a phryd? Sut y gellir gwella prosesau dysgu i hyrwyddo canlyniadau addysgol gwell i bawb?

Beth yw seicoleg addysgol?                        

Mae seicoleg addysgol yn astudio’r modd yr ydym yn dysgu ac yn cadw gwybodaeth. Mae’n canolbwyntio ar gymhwyso ymchwil, theorïau a thechnegau seicolegol er mwyn cefnogi a hyrwyddo deilliannau plant a phobl ifanc o safbwynt emosiynol, cymdeithasol a dysgu.

Ȃ hwnnw’n cyd-fynd yn agos â maes datblygiad dynol yn ei gyfanrwydd, mae’n archwilio agweddau cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol ar dwf a dysgu. Mae dysgu’n digwydd mewn lleoliadau ar draws gwahanol gyd-destunau – o fewn, a’r tu allan i leoliadau ystafelloedd dosbarth traddodiadol. Mae seicoleg addysgol a gwybyddol hefyd yn archwilio effaith amryw ffactorau – fel rhyw, oedran, diwylliant ac amgylcheddau cymdeithasol a ffisegol – o ran eu dylanwad ar y modd yr ydym yn dysgu.

Ceir sawl maes seicoleg addysg damcaniaethol:

  • Ymddygiadaeth – sy’n ystyried dysgu fel newid ymddygiadol gweladwy mewn ymateb i ysgogiadau amgylcheddol. Mae’n rhagdybio bod ymatebion ymddygiadol o ganlyniad i’r ysgogiadau, pan ddilynir hwy ag atgyfnerthiad cadarnhaol, yn fwy tebygol o ddigwydd yn y dyfodol. Yn nhermau gwella dysgu mewn ysgolion, mae’n hyrwyddo sicrhau cymaint o strwythur â phosibl, gan ddefnyddio anogaeth reolaidd, goruchwyliaeth weithredol, ynghyd â disgwyliadau dysgu, ymlaen llaw.
  • Gwybyddoliaeth – sy’n canolbwyntio ar y cysyniad bod dysgu’n digwydd pan fydd gwybodaeth yn cael ei derbyn, ei threfnu, ei chofio a’i hadalw pan fo angen. Mae’n ystyried bod niwroplastigedd yn hanfodol, lle bydd y broses ddysgu ei hun yn ffurfio cysylltiadau newydd o fewn yr ymennydd, ac yn gofyn i ddysgwyr ymgysylltu â hi’n weithredol a ‘chreu eu hystyr eu hunain’ o ganlyniad iddi.
  • Lluniadaeth – dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, sy’n seiliedig ar y gred bod pobl yn dysgu trwy gamau olynol. Caiff cysyniadau, neu ‘sgemâu’, yr ydym yn meddu arnynt ynghylch y byd eu rhoi ar brawf fel y maent yn dod i gysylltiad â realiti, a’u haddasu yn ôl data, profiadau a gwybodaeth newydd a ddarganfyddir gennym.
  • Profiadaeth – sy’n nodi y caiff prosesau dysgu eu hwyluso trwy roi profiadau i fyfyrwyr sy’n caniatáu iddynt ddatblygu eu sgiliau a defnyddio eu gwybodaeth.

Tra bo’r rhain yn rhai o’r damcaniaethau seicolegol pwy poblogaidd yng nghyswllt dysgu, twf a datblygiad dynol, mae gwaith ymchwil yn parhau i raddau helaeth yn y maes enfawr hwn sy’n esblygu – ac yn llywio ac ailffurfio dulliau gweithio addysgol yn gyson.

Beth yw rôl seicolegydd addysgol?

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn diffinio rôl seicolegydd addysgol fel un sy’n ‘edrych ar sut mae plant a phobl ifanc yn profi bywyd o fewn cyd-destun amgylchedd eu hysgol a’u cartref, ynghyd â’r modd y mae gwahanol ffactorau o fewn yr amgylcheddau hyn yn rhyngweithio â’i gilydd.’

Gall seicolegwyr addysgol weithio ar draws y sbectrwm datblygiad dynol, gyda grwpiau oedran sy’n amrywio o blant cyn ysgol a’r blynyddoedd cynnar hyd at oedolion.

Yn ogystal â sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion yn derbyn y math iawn o gymorth, ynghyd â lefel ddigonol o gymorth, mewn lleoliadau addysgol, mae seicolegwyr addysgol yn gweithio’n agos â phartïon perthnasol eraill hefyd. Er enghraifft, mae hyn yn aml yn cynnwys teuluoedd – sydd efallai angen cymorth o fewn amgylchedd cartref y plentyn – ynghyd ag ysgolion, darparwyr addysg, gwasanaethau gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol.

Gallant helpu i ddatblygu cymorth ac arweiniad, ynghyd â chreu profiadau addysgol gwell, i blant ag ystod eang o AAA, gan gynnwys:

  • anableddau corfforol, fel parlys ar yr ymennydd
  • anghenion dysgu ychwanegol, fel dyslecsia neu ddyspracsia
  • anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymorth iechyd meddwl, fel Anhwylder Pryder Cyffredinol (GAD)
  • problemau gyda sgiliau cymdeithasol, fel y rheiny a gysylltir yn aml ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD)
  • anawsterau canolbwyntio, fel Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
  • problemau synhwyraidd, o safbwynt y clyw neu olwg er enghraifft.

Gall y rôl fod yn anhygoel o amrywiol, gan gwmpasu, er enghraifft: ymgynghori ag unigolion sy’n derbyn triniaeth; asesiadau seicolegol, darparu cefnogaeth i rieni a gofalwyr; rhoi camau strategol ar waith; darparu ymyraethau un i un ac ar gyfer grwpiau; mentrau datblygu staff a phroffesiynol; ynghyd â gwaith amlasiantaethol.

Mae’r arbenigwyr swyddi a gyrfaoedd, Prospects, yn darparu rhagor o wybodaeth am  rôl y seicolegydd addysgol.

Cefnogi dysgwyr ag AAA                

Tra bo gan blant a’r glasoed a chanddynt AAA eu talentau a’u doniau eu hunain i’w cyfrannu i’r ystafell ddosbarth, mae yna ddigon y gall addysgwyr ac eraill sy’n gweithio yn y lleoliadau hyn ei wneud i’w helpu nhw i gysylltu’n fwy effeithiol ag eraill, a chael mynediad at gyfleoedd dysgu.

Mae dilyn y fframwaith Asesu, Cynllunio, Gwneud, Adolygu yn fodd gwerthfawr o archwilio’r broblem neu broblemau penodol, ynghyd â dylunio strategaethau cefnogi a’u rhoi ar waith, ac yna gwerthuso eu llwyddiant cyffredinol ac addasu ymhellach os oes angen.

Er enghraifft, efallai bod gan blentyn â dyslecsia anawsterau â darllen, amgyffrediad, sillafu, ffurfio atebion, a rhoi geiriau mewn trefn. P’un a oes gan blentyn ddiagnosis ai peidio, ceir nifer o fesurau y gellir eu rhoi ar waith er mwyn cefnogi eu dysgu:

  • Cyflwyno geiriau newydd ac iaith fesul tipyn, mewn modd sy’n hawdd ymdopi ag ef
  • Darparu digon o gyfleoedd i adalw ac adolygu’r hyn a ddysgwyd
  • Sicrhau bod gweithgareddau amlsynnwyr yn cael eu darparu ac y ceir mewnbwn iddynt
  • Sefydlu amgylchedd dysgu cefnogol, cynhwysol a chydweithredol
  • Defnyddio cymhorthion darllen ffisegol a chyflwyno geiriau ar gefndiroedd ag iddynt wahanol liw
  • Holi mewn modd sy’n gwirio cysyniadau a dealltwriaeth ohonynt
  • Trefnu cymorth gan oedolion neu gymheiriaid eraill, os yn briodol

Yn y pen draw, bydd pob dull yn wahanol ac yn cael ei addasu yn ôl anghenion ac anawsterau arbennig y plentyn unigol.

Defnyddio arbenigedd seicolegol i helpu i gefnogi’r rheiny yr ydych yn eu haddysgu

Ydych chi’n awyddus i roi cefnogaeth well i blant ag anawsterau dysgu? Ydych chi eisiau ennill y sgiliau a’r arbenigedd i feithrin amgylcheddau dysgu dymunol, meithringar?

Datblygwch fel addysgwr rhagorol gyda rhaglen MSc Seicoleg Addysgol ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru.

Helpwch i lywio a gwella arferion o safbwynt eich rôl o fewn yr ystafell ddosbarth, gan ddiwallu amryw anghenion dysgwyr a’u helpu i gael mynediad at addysg. Wedi’i ddylunio i ddiwallu anghenion athrawon, seicolegwyr addysgol, cymorthyddion dosbarth a gweithwyr cymdeithasol, mae’r radd seicoleg ôl-radd hyblyg hon yn addas i unrhyw un sy’n gweithio’n agos â phlant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysgol ac eraill. Bydd eich astudiaethau’n datblygu sgiliau craidd a dealltwriaeth ddofn ar draws testunau fel anhwylderau ymddygiad, datblygiad y glasoed a phlant, prosesau gwybyddol, anghenion dysgu ychwanegol, asesiadau clinigol a seicometrig, a llawer mwy.