Ffordd newydd o lwyddo mewn cyfrifiadureg. Rhaglenni Meistr ar-lein carlam - am £6,000
- 180 credyd •
- 2 flynedd yn rhan-amser •
- Cyfanswm ffioedd £6,000
Manteision allweddol
- Rhaglenni gradd 100% ar-lein
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
- Ail yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu*
*Canllaw Prifysgolion Da'r Times a'r Sunday Times 2022
Ein rhaglenni Meistr mewn cyfrifiadureg ar-lein
- MSc Cyfrifiadureg
- MSc Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr
- MSc Cyfrifiadureg gyda Seiberddiogelwch
- MSc Cyfrifiadureg gyda Pheirianneg Meddalwedd
Gradd meistr wedi'i chynllunio ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol
Mae’r pum rhaglen MSc mewn Cyfrifiadureg ar-lein newydd yma gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio ar gyfer unigolion o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol ac academaidd.
Os nad oes gennych gefndir mewn Cyfrifiadureg na Rhwydweithio, ond rydych eisiau uwchsgilio a lansio gyrfa newydd yn y sector proffidiol hwn, gall y rhaglen hon eich paratoi i wneud hynny.
Neu, os ydych chi’n gweithio mewn swydd cyfrifiadureg ar hyn o bryd ac yn chwilio am gymhwyster academaidd i helpu i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf, byddai’r rhaglen rhwydweithio hon sy’n canolbwyntio ar yrfa yn ddelfrydol ar eich cyfer chi.
Rhaglenni wedi'u cynllunio ar gyfer gyrfaoedd cyfrifiadureg y byd go iawn
Maent wedi’u cynllunio’n benodol i baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant gyrfaol mewn swyddi Cyfrifiadureg a TG yn y ‘byd go iawn’.
Mae pob rhaglen yn ymdrin â meysydd craidd Cyfrifiadureg, gan gynnwys:
- Strwythurau Data ac Algorithmau
- Cyfrifiadura Rhithwir a Chwmwl
- Peirianneg Systemau
- Diogelwch a Rheoli Risg mewn Amgylchedd Digidol
Mae pob rhaglen MSc hefyd yn cynnwys modiwlau pwrpasol yn ei faes astudio arbenigol.
Mae’r cynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.
Cyrsiau Meistr hyblyg ar-lein wedi'u cynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur
Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais symudol neu fwrdd gwaith, ar eich cyflymder eich hun. Mae yna chwe dyddiad dechrau’r flwyddyn, opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig i dalu’r ffioedd ar gael i’r rhai sy’n gymwys.