Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Rhaglenni Gradd ar-lein

Rhaglenni Gradd cyfan gwbl ar-lein gan y brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd

Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 100% ar-lein
  • Graddau carlam
  • Opsiynau talu hyblyg

Manteision Allweddol

Mae Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru – rhan o Brifysgol Wrecsam – yn falch o gyflwyno cyfres o raglenni gradd Cyfan Gwbl Ar-lein. Gyda 10 cwrs MBA, 3 MPA, 5 cwrs MSc Cyfrifiadureg a 3 MA mewn Addysg a 3 gradd busnes israddedig i ddewis o’u plith, mae’r rhaglenni wedi’u dylunio ar gyfer y gweithiwr proffesiynol sydd eisiau datblygu sgiliau proffesiynol allweddol sydd â galw mawr amdanynt er mwyn symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa neu newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.

Gyda’n rhaglenni gallwch nawr ffitio astudio o gwmpas eich ymrwymiadau eraill – gallwch astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar amrywiaeth eang o ddyfeisiau. Mae yna chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, opsiwn i dalu fesul modiwl ac mae’r llywodraeth yn cynnig benthyciadau i ymgeiswyr cymwys.

Mae Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn ymfalchïo yn ein sgoriau blaenllaw ar gyfer cyflogadwyedd a’n harbenigedd mewn dysgu rhan amser a hyblyg.

Gyda’n ffocws manwl ar raddau a arweinir gan ddiwydiant ac sy’n canolbwyntio ar yrfa, ynghyd â’n harbenigedd blaenllaw mewn dysgu hyblyg, mae’r rhaglenni hyn yn mynd y tu hwnt i’r theori ac yn dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn gwella eich rhagolygon gyrfaol ym marchnad gyflogaeth heddiw.