Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Pwysigrwydd strategaeth farchnata strategol

Postiwyd ar: Mehefin 28, 2021
gan
People sat around a static animation of a marketing strategy

Wrth i’r gystadleuaeth boethi rhwng busnesau, mae technolegau digidol yn datblygu, ac mae targedau gwerthu yn dod yn fwyfwy pwysig er mwyn i gwmni allu goroesi, nid yw cynlluniau marchnata strategol erioed wedi bod mor hanfodol. Er mwyn ennill mantais gystadleuol, mae’n ofynnol i farchnatwyr a’r timau y gweithiant ynddynt fireinio eu hallbynnau marchnata, nawr yn fwy nag erioed. Mae angen cynyddol i atgyfnerthu proffil eu cwmni yn llwyddiannus ac effeithiol, cyrraedd eu cynulleidfa darged, a throi eu cynulleidfa yn brynwyr drwy farchnata clyfar a strategol.

Drwy ymgorffori’r sbectrwm llawn o dechnegau marchnata, mae timau yn ehangu i gynnwys arbenigeddau amrywiol, y cwbl yn cyflwyno sgiliau gwahanol wrth weithio’n strategol a chydweithredol i gyflawni’r canlyniadau gorau. Er bod timau marchnata yn amrywio o ran maint ar draws cwmnïau, yn aml mae asiantaethau marchnata allanol yn llenwi’r bwlch gyda busnesau llai, gan ganiatáu i’r cwmnïau hyn ddatblygu cynlluniau marchnata strategol a’u gweithredu gystal â chorfforaethau mwy a thimau mwy.

Beth yw marchnata strategol?

Mae marchnata strategol yn strategaeth farchnata sydd â nodau ac amcanion clir a diffiniedig, a gweithgarwch wedi’i gynllunio’n ofalus ar draws cyfuniad o sianelau marchnata i fodloni’r nodau a’r amcanion hynny. Drwy farchnata’n strategol, mae cwmnïau sy’n mabwysiadu’r dull yn sicrhau y bydd eu hymdrechion a’u cyllidebau marchnata yn arwain at y canlyniadau gorau posibl, wrth iddynt dargedu’n fwriadol y sianelau cywir i gyrraedd eu cynulleidfaoedd bwriadedig – cynulleidfaoedd sydd fwyaf tebygol o droi’n gwsmeriaid sy’n talu.

Mae nifer o sianelau y gellir eu harchwilio mewn perthynas â marchnata, ar ffurf marchnata traddodiadol neu farchnata digidol, ond mae marchnata strategol yn sicrhau bod y cynllun wedi’i deilwra gan ddefnyddio’r sianelau cywir ar gyfer y cynnyrch neu’r gwasanaeth sydd ar werth, a bod y cynnwys a gyhoeddir ar y sianelau hynny yn cael ei greu a’i gyflawni’n effeithiol ac effeithlon. Mae’n gynllun manwl, wedi’i baratoi’n dda i sicrhau bod negeseuon yn cyrraedd y bobl gywir, a bod y negeseuon yn taro deuddeg â’r rheiny y maent yn eu cyrraedd, gan eu hysgogi i brynu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth sydd ar werth.

Sut i ysgrifennu cynllun marchnata strategol?

Pan mae tîm marchnata yn dechrau ysgrifennu cynllun marchnata strategol, y cam cyntaf yw adnabod y nodau a’r amcanion yr hoffech eu cyflawni er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod at beth maent yn gweithio ar y cyd. Pan sefydlir hyn, yr ail flaenoriaeth yw adnabod y gynulleidfa darged a lle i ddod o hyd iddi, ac adolygu beth mae eich cystadleuwyr yn ei wneud i bennu sut all eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth chi fod yn unigryw a bod yn ddeniadol yn y farchnad.

Er mwyn mireinio’r amcanion marchnata, buddiol yw manteisio ar y cyfuniad marchnata: cynnyrch (beth mae eich busnes yn ei werthu), pris (cost eich cynnyrch neu wasanaeth), lle (lle y byddwch chi’n gwerthu – ar-lein, mewn siopau, neu gyfuniad o’r ddau), a hyrwyddo (sut fyddwch chi’n marchnata eich cynnyrch neu wasanaeth). Mae meddu ar ddealltwriaeth ddofn o’r cynnyrch neu’r gwasanaeth sydd ar werth yn bwysig, gan fod hynny’n galluogi’r tîm marchnata i fod yn gwbl ymwybodol o’r hyn maent yn ei werthu drwy eu cynllun marchnata strategol, gan sicrhau bod y negeseuon sy’n cael eu cyfleu yn glir a chryno.

Wrth benderfynu sut i hyrwyddo yr hyn yr ydych yn ei werthu, mae cyfoeth o lwyfannau i gymryd mantais ohonynt a thrwy fabwysiadu dull marchnata strategol, byddwch yn gwneud ymdrech benodol i’r bwlch lle mae eich cynulleidfa.

Yn ddigidol, gallai hyn gynnwys cyfryngau cymdeithasol, gwefan, hysbysebion talu fesul clic ar beiriannau chwilio, ac ymgyrchoedd marchnata dros e-bost. Efallai y byddwch chi hefyd yn dewis canolbwyntio ar ddull sy’n seiliedig ar gynnwys, ysgrifennu blogiau a mabwysiadu dull optimeiddio peiriannau chwilio i wneud eich gwefan a’ch blaen siop ddigidol cyn gryfed â phosibl. Mae sefydlu’r cynnwys sy’n cael ei gyhoeddi ar y sianelau hyn yn hynod bwysig gan y bydd angen i chi sicrhau bod tôn eich llais yn berthnasol i’ch marchnad darged. Un ffordd allweddol o gyflawni hyn yw drwy astudiaethau achos, defnyddio cwsmer cyfredol i siarad â’ch cynulleidfa ynghylch eich cynnyrch neu wasanaeth yn ei iaith ei hun, gan godi’r profiad cwsmeriaid i’r lefel nesaf. Gall defnyddio cysylltiadau cyhoeddus i hyrwyddo eich neges yn sianelau eich marchnad darged hefyd fod yn adnodd marchnata effeithiol i’r cynnyrch neu wasanaeth yr ydych chi’n ei werthu.

Os yw eich cynnyrch neu wasanaeth yn cyd-fynd â dulliau marchnata traddodiadol, gall eich cynllun marchnata strategol ymgorffori deunyddiau print megis pamffledi a llyfrynnau, galwadau ffôn neu hysbysebu awyr agored fel bwrdd biliau.

Nid yw cynllun marchnata strategol yn rhywbeth sy’n cael ei sefydlu ar ddechrau’r broses ac yn rhywbeth na ellir ei newid. Er eich gwaith ymchwil i farchnata ymlaen llaw, efallai nad yw rhai o’r llwybrau yr ydych wedi dewis manteisio arnynt mor enillfawr ag yr oeddech yn feddwl i ddechrau. Mae adolygu metrigau yn rheolaidd, megis ffigyrau gwerthu a dadansoddeg yn seiliedig ar farchnata ar eich llwyfannau digidol, yn hanfodol i weld a yw eich gweithgareddau yn denu cwsmeriaid, yn yr un modd â’r gallu i ailffocysu ymdrechion yn rhywle arall petai angen. Yn ogystal, gall fod yn ddefnyddiol adolygu’n barhaus eich cynllun marchnata strategol cychwynnol i sicrhau eich bod yn dal i fod ar y llwybr cywir gyda’r nodau a’r amcanion cychwynnol, ac i bennu a oes angen gwneud newidiadau i’r cynllun ehangach yn seiliedig ar ganlyniadau adolygiadau rheolaidd.

Mae meddu ar strategaeth farchnata strategol yn bwysig i bob busnes. Mae’n eich caniatáu chi i ganolbwyntio eich ymdrechion marchnata yn y llefydd cywir, ac mae’n sicrhau eich bod yn ailasesu’n barhaus lle mae eich adnoddau a’ch cyllidebau yn mynd i alluogi’r llwyddiant gorau o ran arnewid a gwerthiannau.

Pam astudio marchnata?

Mae marchnata yn yrfa brysur a chyffrous, yn enwedig nawr gyda phoblogrwydd marchnata digidol yn tyfu dros y ddegawd ddiwethaf a thueddiadau sy’n esblygu a datblygu’n barhaus.

Boed ydych eisoes yn gweithio mewn swydd farchnata neu’ch bod yn awyddus i newid cyfeiriad eich gyrfa ac ymgymryd â swydd farchnata, bydd MBA Marchnata yn eich datblygu’n unigolyn sydd â meddwl strategol ac sy’n gyfathrebwr arbennig – rhinweddau amhrisiadwy yn y farchnad swyddi bresennol. Drwy astudio MBA Marchnata, cewch eich paratoi i fynd ymlaen i yrfa, neu ddatblygu ymhellach mewn gyrfa, lle byddwch yn dysgu ac atgyfnerthu eich sgiliau yn barhaus, ac yn cael rhyddid creadigol, arloesol a dadansoddol yn eich swydd bob dydd.

Astudiwch yn rhan amser ac enillwch gyflog wrth i chi ddysgu gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, a chewch ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd â’ch gyrfa mewn marchnata i’r lefel nesaf.