Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol

Postiwyd ar: Mawrth 7, 2022
gan
Close up of hands using a smartphone with icons of likes hovering above to indicate social media use

Os oes angen i fusnes gyrraedd cynulleidfa darged newydd yn gyflym, yna hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i wneud hynny. Ac un o’r ffyrdd rhataf hefyd.

Meddyliwch am y teclyn cŵl y prynoch chi i’r gegin ar ôl gweld hysbyseb ar Facebook, neu’r dillad a brynoch chi’n fyrbwyll ar ôl gweld hysbysebion ar Instagram. Fe welsoch chi’r hysbysebion hynny ar-lein oherwydd rydych chi ymysg demograffig targed eu nwyddau – ac, yn amlwg, fe weithiodd y strategaeth hysbysebu.

Mae hyn oherwydd bod yr hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud defnydd da o’r data personol yr ydym ni’n eu rhoi ar apiau fel Facebook, Twitter ac Instagram i ddangos brandiau, nwyddau a gwasanaethau yr ydym ni’n fwyaf tebygol o fod eu heisiau neu eu mwynhau. O safbwynt prisio, bydd hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn costio llai i fusnes na’r dulliau mwy traddodiadol fel hysbysebu print, hysbysebu radio, neu hysbysebu tu allan fel hysbysfyrddau.

Pam bod hysbysebu yn bwysig

Os yw busnes eisiau gwerthu rhywbeth, bydd angen iddo hysbysebu. Ni all darpar gwsmeriaid neu gleientiaid brynu nwyddau neu wasanaethau os nad ydynt yn gwybod amdanynt.

Yn ogystal, mae hysbysebu yn chwarae rhan bwysig mewn datblygu ymwybyddiaeth o frand ac yn gallu helpu busnes i ddal gafael ar ei gwsmeriaid presennol hyd yn oed.

Mewn byd sydd yn gynyddol ar-lein, dylai hysbysebu digidol fod yn rhan greiddiol o

strategaeth farchnata sefydliad i sicrhau ei fod yn dal yn gystadleuol yn y farchnad – ac yn sefyll allan.

Fformatau hysbysebu ar-lein

Gall hysbysebion ar-lein fod mewn llawer o ffurfiau. Er enghraifft, gallai ymgyrch hysbysebu ddigidol gynnwys:

  • Hysbysebion Google: Mae hysbysebwyr yn ceisio dangos eu hysbysebion mewn canlyniadau chwilio Google ac ar wefannau, apiau ar ffonau symudol, a fideos, ac yn talu am y gwasanaeth hwn o dan fodel prisio talu-fesul-clic (PPC). Yn y bôn, maent yn fath o hysbyseb dynnu, ac yn gadael i hysbysebwyr ddangos hysbysebion ar Rwydwaith Arddangos Google (GDN), sef casgliad o fwy na dwy filiwn o wefannau sy’n cyrraedd mwy na 90% o ddefnyddwyr rhyngrwyd y byd.
  • Hysbysebion arddangos: Os mai math o hysbyseb dynnu yw hysbysebion Google, yna mae hysbysebion arddangos yn fath o hysbyseb wthio, ble mae hysbysebwyr fel arfer yn talu ar sail cost-fesul-clic (CPC) i ddenu pobl i’w safleoedd neu lwyfannau digidol eraill. Er enghraifft, efallai bod hysbyseb fras sy’n ddeniadol i’r llygad i’w gweld mewn canlyniadau chwilio i ddenu defnyddwyr at dudalen lanio’r hysbysebwr ble cânt eu hannog i weithredu mewn rhyw ffordd, fel prynu rhywbeth.
  • Hysbysebion naid: Mae hysbysebion naid yn fath poblogaidd o hysbysebu ar-lein. Fel arfer, mae’r rhain ar ffurf ffenestr fach o destun ac/neu graffeg sy’n neidio ar du blaen y dudalen we rydych chi’n edrych arni. Gall busnes dalu i ddangos hysbyseb ar wefan berthnasol – er enghraifft, gallai asiantaeth deithio fod eisiau dangos hysbyseb naid ar flog teithio – neu’n fwy cyffredin, fe welwch y rhain ar wefan y brand fel ffordd i helpu i droi porwyr yn brynwyr.

Mae llawer o opsiynau o ran hysbysebu ar-lein, boed hynny’n hysbysebu ar wefannau eraill, o fewn canlyniadau chwilio, neu rhwng clipiau fideo. Mae hyn oherwydd bod llawer o fusnesau digidol yn cynhyrchu eu refeniw drwy werthu hysbysebion, tanysgrifiadau, neu’r ddau.

Er enghraifft, gall papur newydd ar-lein werthu tanysgrifiadau misol fel y gall defnyddwyr fynd at straeon newyddion, neu byddant yn gwerthu hysbysebion fel bod eu darllenwyr yn gallu mynd at y cynnwys am ddim. Bydd rhai yn gwneud cymysgedd o’r ddau beth, yn cynnig cynnwys yn arbennig i danysgrifwyr ac yna’n ennill arian drwy gyfrwng eu newyddion sydd ar gael yn rhwydd drwy werthu hysbysebion ar y tudalennau hynny.

Opsiynau hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol

Dylai strategaeth i hysbysebu brand bron yn sicr gynnwys hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol – pa ffordd well i sicrhau bod hysbyseb yn cael ei gweld nag wrth ei dangos ar ffonau symudol sylfaen o gwsmeriaid targed?

Fel hysbysebu ar-lein yn fwy cyffredinol, mae gwahanol fathau o hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol. Gellir prynu hysbysebion yn uniongyrchol o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter neu TikTok, neu gall busnes hurio asiantaeth hysbysebu i wneud hyn ar ei ran. Mae gwahanol nwyddau ar y farchnad hefyd a fydd yn awtomeiddio’r broses.

Yn rhan o’r broses, gellir creu hysbysebion i ganolbwyntio ar gyrraedd cynulleidfaoedd targed penodol. Er enghraifft, efallai bod busnes eisiau targedu grŵp oedran, rhyw neu ranbarth arbennig. Mae modd addasu’r opsiynau o fewn hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a’u gosod i dargedu cynulleidfaoedd cul ac eang – boed hynny yn bawb yn y Deyrnas Unedig, neu’n oedran penodol mewn un ardal neilltuol.

Gallai busnesau hefyd ofyn am gefnogaeth neu ‘hysbysebion golygyddol’ gan ddylanwadwyr poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallai dylanwadwr sydd â thipyn o ddylanwad ar-lein mewn ffasiwn helpu i werthu dillad. Gallai’r dylanwadwr hwn dderbyn rhai nwyddau yn rhad ac am ddim, ac yna byddai’n eu gwisgo ac yn siarad amdanynt i’w ddilynwyr ar-lein.

Er hynny, mae’n werth nodi bod y math hwn o hysbysebu yn un sy’n esblygu, ac mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu wedi cyhoeddi cyngor yn ddiweddar ar hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl un canllaw ar sut mae gwahanol genedlaethau yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, os yw busnes eisiau cyrraedd cynulleidfa Cenhedlaeth Z, mae TikTok yn ddewis da – a bydd angen i hysbyseb fod ar ffurf clip fideo byr. Yn y cyfamser, mae’n debyg mai Facebook yw’r llwyfan mwyaf priodol i dargedu Cenhedlaeth X.

O ran costau, bydd y pris yn amrywio yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa lwyfan cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir, ac ym mha faes y mae’r busnes.

Cadw golwg ar hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol

Wrth i’r cyfryngau cymdeithasol dyfu a newid, felly hefyd y mae’r hysbysebu ar y cyfryngau hyn. Gallwch aros ar y blaen gyda gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) a Marchnata gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru sydd yn ddelfrydol i weithwyr proffesiynol sydd eisiau gwella eu rhagolygon gyrfa drwy ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o farchnata.

Boed chi eisoes yn gweithio yn y byd hysbysebu neu awydd newid, mae’r radd MBA hyblyg yn gyfan gwbl ar-lein, a gallwch astudio unrhyw bryd, unrhyw le, ac ar unrhyw ddyfais.