Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Pwysigrwydd arsylwi gan gymheiriaid mewn addysg

Postiwyd ar: Mawrth 7, 2023
gan
School teacher teaching students

Mae arsylwi gan gymheiriaid mewn addysg yn ddull pwerus ar gyfer datblygu athrawon. Mae’n ymwneud ag un athro’n arsylwi athro arall o fewn ei ystafell ddosbarth gyda’r nod o wella ei arferion addysgu, ynghyd â rhoi budd i’r sawl sy’n cael ei arsylwi a’r athro sy’n gwneud yr arsylwi.

Mae’r arsylwadau hyn fel arfer yn rhan o broses ddwyffordd, ddwyochrog, gydag un athro’n arsylwi’r llall, ac yna’n newid drosodd, i weld y gwahaniaethau o ran ymddygiad myfyrwyr a dysgu’r myfyrwyr, yn ogystal â llwybrau newydd o safbwynt addysgu da a gwella dysgu. Gall y dull hwn o weithio mewn parau gynnwys athrawon profiadol yn arsylwi – neu’n cael eu harsylwi – gan athrawon sy’n fwy newydd i’r proffesiwn, ond gall hefyd gynnwys addysgwyr a chanddynt lefelau tebyg o brofiad o ran addysgu yn arsylwi’r naill a’r llall, er mwyn cael myfyrio ynghylch eu harferion dysgu ar y cyd.

Mae arsylwi gan gymheiriaid yn bwysig oherwydd bod hyn yn:

  • cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus athrawon.
  • defnyddio theori wybyddol gymdeithasol, sy’n awgrymu bob pobl yn dysgu wrth arsylwi eraill a chyfranogi mewn amgylcheddau cymdeithasol.
  • galluogi athrawon sy’n arsylwi i adeiladu ar eu sylfaen wybodaeth bresennol trwy ddysgu strategaethau a chymwysiadau o safbwynt addysgeg, ac yna eu haddasu o fewn fframwaith eu dulliau addysgu a’u harddulliau addysgu.
  • caniatáu i athrawon sy’n cael eu harsylwi rannu a dangos eu harbenigedd o fewn cyd-destun eu hystafelloedd dosbarth, a chael adborth a syniadau gwerthfawr.
  • hyrwyddo myfyrio ynghylch addysgeg.

Cydnabyddir hefyd bod arsylwi yn hybu hunanhyder athrawon i roi cynnig ar strategaethau newydd. Yn ôl Coelio drwy Wylio: Buddion o Arsylwi Cyfoedion – sef erthygl a ysgrifennwyd gan y seicolegwyr addysgol Graham D. Hendry a Gary R. Oliver, ac a gyhoeddwyd yn y Journal of University Teaching & Learning Practice – mae athrawon yn cael budd mawr o arsylwi.

Yn ôl yr erthygl, “Mae’r farn draddodiadol ynghylch y broses hefyd yn cynnwys y dybiaeth y gall cydweithwyr ddysgu’n effeithiol o adborth amlwg ac adeiladol ei gilydd ynghylch addysgu a arsylwir. Fodd bynnag, o’r dystiolaeth gwelwn yn fwyfwy y gall gwylio cydweithiwr yn addysgu fod yr un mor fuddiol ag, os nad yn fwy felly, na derbyn adborth, hyd yn oed pan fydd yr adborth hwnnw’n drylwyr iawn.”

“Mae’r sawl sy’n arsylwi’n dysgu am sut i berfformio’r arfer drwy ei weld, yn hytrach na chael gwybod amdano, gan ddod i sylweddoli (a chryfhau ei hunan-effeithiolrwydd) y gall yntau hefyd addysgu yn y modd hwn, gan gael ei ysgogi felly i roi cynnig arni.”

Arsylwi ar y lefel sefydliadol

Yn y Deyrnas Unedig, diben arferol arsylwi gan gymheiriaid yw hyrwyddo datblygiad proffesiynol ac academaidd. Tra bo sefydliadau athrawon yn debygol o gefnogi arsylwi gan gymheiriaid – ac mewn sawl achos, mae ysgolion yn cymryd cyfrifoldeb dros hwyluso adolygiadau gan gymheiriaid – nid yw’r sefydliadau hyn yn gwybod beth yw canlyniadau ac ystyriaethau beirniadol yr arsylwadau a gynhaliwyd.

Mae’n werth nodi hefyd, tra bo’r fframweithiau arsylwadol yn debyg, mae arsylwi gan gymheiriaid yn rhywbeth ar wahân i’r arsylwadau o wersi a gynhelir gan y Swyddfa Safonau Mewn Addysg (Ofsted) fel rhan o’i harolygiadau a’i gwerthusiadau. Trwy arsylwi, mae Ofsted yn asesu ansawdd addysgu, ymddygiad, a’r cwricwlwm, gyda gwahanol ddangosyddion llwyddiant ym mhob un o’r tri maes, gan gynnwys:

Addysgu

  • Mae athrawon yn dangos sgiliau cyfathrebu da.
  • Mae athrawon yn meddu ar sgiliau holi da.
  • Mae athrawon yn rhoi adborth clir, manwl ac adeiladol yn y dosbarth.

Ymddygiad 

  • Mae athrawon yn creu dosbarthiadau cefnogol sy’n canolbwyntio ar ddysgu.
  • Mae ymddygiad disgyblion yn cyfrannu at y gallu i ganolbwyntio ar ddysgu.

Cwricwlwm 

  • Mae athrawon yn defnyddio eu harbenigedd pynciol i ddarparu cyfleoedd dysgu effeithiol.
  • Mae cynnwys gwers yn briodol i’r grŵp oedran ac nid yw’n gostwng disgwyliadau.
  • Mae dilyniant rhesymegol i’r wers.

Y broses o arsylwi gan gymheiriaid

Bydd y fframwaith arsylwi gan gymheiriaid yn amrywio rhwng gwahanol ysgolion a sefydliadau, ond, fel arfer, mae’n cynnwys ychydig o gamau allweddol.

  1. Paratoi. Mae’r athro sydd eisiau cael ei arsylwi yn cytuno ar y testun sylw a’r diben a fynnir o ganlyniad i’r arsylwi gyda’r athro sy’n arsylwi. Er enghraifft, os yw’r athro’n rhoi strategaethau addysgu newydd ar waith, ac eisiau cael sesiwn adborth yn eu cylch ar ôl eu rhoi ar waith, dylid sôn am hyn yn y cyfnod cyn arsylwi. Ac o ran yr athro sy’n arsylwi, dylid dewis rhywun sy’n debygol o fod â dealltwriaeth ddefnyddiol neu safbwynt gwahanol o ran y maes sydd dan sylw, ynghyd â fformat ar gyfer yr arsylwi. Er enghraifft, a fydd yr athro’n gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr, neu ddosbarth llawn o ddisgyblion?
  2. Arsylwi. Yn ystod y sesiwn arsylwi, dylai’r athro sy’n arsylwi ysgrifennu unrhyw sylwadau neu adborth sydd ganddo ynghylch y meysydd dan sylw a drafodwyd yn ystod y cyfnod paratoi. Fel arfer, ni fydd yr athro sy’n arsylwi yn cymryd rhan yn y wers neu’r dysgu, oni chytunwyd hyn ymlaen llaw.
  3. Myfyrio a thrafod. Bydd y ddau athro’n cyfarfod i fyfyrio ynghylch y sesiwn arsylwi, ac yn ei drafod gyda’i gilydd. Dylai’r drafodaeth ar ôl y sesiwn arsylwi ganolbwyntio ar gryfderau, yn ogystal ag awgrymiadau adeiladol, ymarferol o ran gwelliannau, gyda’r sylw ar y meysydd a gytunwyd ymlaen llaw. Cedwir y sgwrs hon, yn ogystal ag unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig, yn gyfrinachol, ac ni fydd barnau neu feirniadaeth nad yw’n ymwneud â’r maes dan sylw yn rhan o’r drafodaeth honno.

Manteision arsylwi gan gymheiriaid

Mae arsylwi addysgu gan gymheiriaid o fudd i bawb sy’n ymwneud â lleoliadau addysg, o addysg y blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys:

Athrawon

Trwy arsylwi gan gymheiriaid, gall athrawon gael adborth gwerthfawr a dysgu technegau a dulliau newydd.

Gall athrawon a arsylwir roi strategaethau newydd ar waith a chael adborth adeiladol ar unwaith gan eu cymheiriaid, neu ddarganfod dulliau newydd ar gyfer mynd i’r afael â heriau neu broblemau trwy drafod opsiynau a syniadau gyda’u cydweithiwr yn dilyn y sesiwn arsylwi. Yn y cyfamser, gall arsylwi athrawon wella eu sgiliau cyfathrebu, gallant ddysgu dulliau gweithio newydd i fynd i’r afael â heriau a rennir, trwy gael tiwtorialau gan athrawon eraill, ynghyd â myfyrio ynghylch eu harferion addysgu eu hunain.

Trwy’r dull hwn o ddysgu proffesiynol, gall athrawon hefyd gael budd o’r atgyfnerthiad cadarnhaol a geir o ganlyniad i rannu eu cryfderau, eu sgiliau addysgu, ynghyd ag agweddau ar arferion da gyda’u cydweithwyr, a’u cyd-drafod.

Dysgwyr

Mae arsylwi gan gymheiriaid yn sicrhau bod disgyblion a myfyrwyr yn derbyn darpariaeth addysgu effeithiol sy’n cefnogi eu datblygiad yn well. Maent hefyd yn cael budd o brofiad dysgu a deilliannau dysgu gwell.

Ysgolion a sefydliadau

Caiff ysgolion a sefydliadau cyfan eu cryfhau a hyd yn oed eu trawsnewid gan ganlyniadau arsylwi gan gymheiriaid o safbwynt addysgu athrawon. Mae staff dysgu’n fwy effeithiol, mae dysgwyr yn fwy llwyddiannus, mae’r naill a’r llall yn teimlo eu bod yn cael gwell cefnogaeth ac mae ysbryd yr ysgol yn gwella.

Ewch ati i wella eich dulliau addysgu trwy arsylwi gan gymheiriaid

Cewch archwilio cyfleoedd i hunanfyfyrio a’ch dealltwriaeth o ddulliau arsylwi gan gymheiriaid gyda’r radd MA Addysg gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, y gellir cwblhau 100% ohoni ar-lein. Crëwyd y rhaglen hon yn arbennig ar gyfer athrawon, hyfforddwyr, tiwtoriaid a gweithwyr addysgol proffesiynol o bob cefndir. Bydd yn eich galluogi i atgyfnerthu eich profiad gwaith ymarferol gyda’r theori, y dulliau gweithio a’r technegau a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich gyrfa fel ymarferwr addysgol.

Un o’r modiwlau allweddol o fewn y rhaglen feistr hyblyg hon yw mentora a hyfforddi ym maes addysg, sy’n meithrin dealltwriaeth feirniadol o werth mentora a hyfforddi o safbwynt datblygu a gwella arferion gweithio proffesiynol. Mae’n archwilio pwysigrwydd a diben arsylwi gan gymheiriaid ym maes dysgu ac addysgu, ac yn rhoi’r cyfle i chi fyfyrio mewn modd beirniadol ynghylch arferion da ym maes addysg. Mae hi hefyd yn nodi effeithiau posibl codi safonau a gwella addysgeg, ac yn archwilio’r gallu i wella ansawdd dysgu ac addysgu trwy weithgaredd proffesiynol ar lefel uwch.