Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Pam fod defnyddio fframwaith rheoli brand effeithiol yn hanfodol

Postiwyd ar: Medi 7, 2021
gan
Group of people around a table working on a brand strategy

Cred llawer sy’n ystyried adeiladu brand ei fod yn fater o greu logo a dewis pa liwiau a ffontiau i’w defnyddio yn hysbysebion y cwmni.

Mewn gwirionedd, mae’n rhaid datblygu strategaeth frand gan ddefnyddio fframwaith rheoli brand effeithiol er mwyn i’r busnes lwyddo ac adeiladu sylfaen gwsmeriaid ffyddlon. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw fusnes o unrhyw faint, o fusnesau newydd i gwmnïau profiadol, ac fe’i datblygir ymhellach cyn dylunio a chreu hunaniaeth weledol y busnes.

Os gofynnir i chi pa frandiau sy’n dod i’r meddwl yn syth, mae’n debygol eu bod nhw wedi gweithio’n ddygn i greu strategaeth frand. Y peth pwysig yw adeiladu lefel o ymwybyddiaeth brand sy’n aros yng nghof pobl.

Creu strategaeth frand gyda fframwaith wedi’i ddiffinio’n glir

Wrth adeiladu brand, mae fframwaith strategaeth brand yn darparu sefydlogrwydd sylfaenol cryf y gellir adeiladu arno. Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys nifer o gamau, ac mae pob un yn bwysig.

Cam un: dod o hyd i wir ystyr y brand

Yn ystod y camau cyntaf o adeiladu hunaniaeth y brand, rhaid ateb cwestiynau penodol. Dylai pawb yn y busnes ddeall pam fod y brand yn bodoli, y cyfeiriad mae’r cwmni eisiau ei ddilyn, beth mae’r cwmni wedi ymrwymo iddo a sut fydd yn ymddwyn.

Er ei bod hi’n anodd ateb y pwynt olaf hwn mewn ffordd unigryw gan fod y rhan fwyaf o fusnesau eisiau bod yn broffesiynol, cyfathrebu’n glir gyda chwsmeriaid a’u cynulleidfa darged, a bod yn onest am yr hyn sy’n cael ei gynnig, mae rhai brandiau’n dilyn y ffiniau hyn ac yn eu personoli nhw. Meddyliwch am Innocent, y cwmni creu smwddis. Ar yr wyneb mae eu hysbysebiadau’n sefyll allan o gymharu â brandiau eraill a hynny am eu bod nhw’n ddoniol, powld a ffraeth. Er nad dyma’r agwedd addas i bob brand, mae Innocent wedi sicrhau ei fod yn serennu drwy fabwysiadu ei ystyr ei hun o’r gair ‘proffesiynol’.

Mae’r enghraifft hon yn dangos bod y defnydd o eiriau allweddol wrth ateb y cwestiynau hyn yn gallu bod yn ddi-bwrpas oni bai bod pawb yn deall beth mae’n ei olygu, gan fod sawl dehongliad yn perthyn i eiriau penodol.

Cam dau: deall eich cynulleidfa

Mae deall eich cynulleidfa darged go iawn yn hanfodol wrth greu brand. Boed ar gyfer busnes newydd neu fusnes sy’n lansio cynnyrch newydd, drwy ddeall pwy yn union yw’r gynulleidfa darged gall busnes sicrhau bod ei frand a negeseuon y brand yn cyrraedd y bobl gywir ac yn uniaethu â nhw mewn ffordd sy’n eu denu nhw at y cynnyrch.

Cwestiynau i’w gofyn wrth ddiffinio pwy yw’r gynulleidfa; pwy ydyn ni’n eu targedu?; beth yw eu cefndir addysgiadol?; beth yw eu hoed?; beth yw eu graddfa incwm?; pa broblemau ydyn ni’n eu datrys ar eu rhan?

Mae adeiladu persona prynwr yn werthfawr iawn i strategaeth y brand. Bydd hyn yn gyrru’r cysylltiad emosiynol â phobl ac yn gwella profiad y cwsmer. Mae deall pwy i’w targedu a’u demograffig hefyd yn bwysig ar gyfer timau gwerthiannau a marchnata mewn busnes. Bydd hyn yn rhoi syniad clir iddynt o bwy ydyn nhw a sut i siarad â nhw.

Cam tri: dadansoddwch eich cystadleuwyr

Mae anghenion eich cynulleidfa darged eisoes wedi cael eu bodloni gan gystadleuydd, felly mae deall cystadleuydd a’i frand yn eich galluogi i fod yn wahanol wrth greu eich brand eich hun.

Drwy ddadansoddi cystadleuwyr, gallwch weld sefyllfa eu brand, beth maen nhw’n ei wneud yn dda, a beth maen nhw’n ei fethu o bosib. Bydd hefyd yn galluogi cwmni i roi ei hun mewn gwell sefyllfa, serennu yn erbyn cystadleuwyr drwy lenwi’r bylchau a dilyn trywydd newydd i gysylltu â chynulleidfa darged, profi gwerth, ac ennill cwsmeriaid.

Cam pedwar: creu eich datganiad gwerth

Dylai datganiad gwerth cwmni ddangos yn glir pam eich bod chi’n wahanol i gystadleuwyr, a pham y dylai cwsmer gymryd sylw o’ch cynnig.

Dylai gyffwrdd ar y penderfyniadau mae eich cwsmeriaid targed yn eu gwneud, eu problemau, a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth rydych chi’n ei werthu. Mae hyn yn adeiladu ar hunaniaeth eich brand a bydd yn ffurfio sail i’r negeseuon y bydd y cwsmeriaid yn eu gweld.

Pan fydd y datganiad gwerth ar waith, gellir ffurfio personoliaeth y brand. Dyma ddealltwriaeth o sut all cwsmer ddatblygu cysylltiad emosiynol gyda’ch brand, ac er y gellir dylanwadu ar hynny i raddau, ni ellir rheoli’r ffordd mae pobl yn ymateb i’ch brand yn llwyr. Fodd bynnag, mae bod â strategaeth frand gref ar waith yn gallu cefnogi hyn.

Cam pump: diffinio tôn llais

Pan rydych yn deall eich cynulleidfaoedd a’ch cystadleuwyr, ac yn meddu ar y negeseuon rydych eu hangen i serennu, gallwch ddiffinio tôn y llais ar gyfer eich brand.

Dylai tôn y llais ddefnyddio iaith a thôn sy’n teimlo’n gyfarwydd i’r gynulleidfa, a dylai adeiladu ar hunaniaeth y brand gan mai dyma’r llais a ddefnyddir i rannu holl negeseuon y cwmni.

Bydd cael tôn llais clir yn galluogi rheolwyr marchnata i siarad â chynulleidfaoedd o fewn cyfathrebiadau marchnata eich cwmni, megis y wefan, y cyfryngau cymdeithasol a phamffledi, mewn ffordd fydd yn cael ei chlywed.

Wth ddiffinio tôn y llais, efallai y byddai‘n werth creu llysgenhadon brand o fewn eich sefydliad eich hun. Mae gweithwyr ac uwch randdeiliaid yn chwyddleisyddion pwerus o ran cynnwys brand, ac mae’r hyn y mae gweithwyr yn ei rannu yn dueddol o gyrraedd mwy o bobl. Yn ôl ymchwil gan MSL Group, mae negeseuon brand yn cyrraedd 561% yn fwy o bobl wrth gael eu rhannu gan weithwyr, o gymharu â’r negeseuon cyffelyb sy’n cael eu rhannu gan sianelau cyfryngau cymdeithasol swyddogol y brand.

Gall annog gweithwyr i ddefnyddio eu proffiliau LinkedIn i rannu negeseuon brand, yn nhôn y llais a ddewiswyd gan y cwmni, gael effaith enfawr.

Cam chwech; creu eich hunaniaeth weledol

Ar ôl cwblhau’r holl gamau blaenorol, dyma’r amser i adeiladu’r brand yn weledol. Dyma’r cyfnod lle dewisir y logo, cynllun lliw a’r ffontiau.

Drwy gael dealltwriaeth ddyfnach o addewid a negeseuon y brand, gall cwmni ddechrau eu darparu nhw’n weledol i sicrhau bod yr hyn rydych yn ei ddweud, a’r ffordd rydych yn edrych, yn cyd-fynd.

Pan fydd y ddau beth hynny’n cyd-fynd, gall marchnatwyr y busnes greu strategaeth farchnata i ledaenu profiad brand, targedu cwsmeriaid a datblygu troedle cryf yn y sector busnes hwnnw. Trwy ddilyn methodoleg camau blaenorol ac ymgorffori’r canfyddiadau i edrychiad a naws y cwmni, gallwch osgoi ail-frandio costus yn hwyrach ymlaen.

Dod yn rheolwr brand effeithiol

Mae Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn cynnig cwrs MBA Marchnata ar-lein, sy’n berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth am farchnata er mwyn datblygu eu gyrfa.

Bydd y radd hon yn eich galluogi chi i fireinio eich gallu i wneud penderfyniadau, rhoi cipolwg manwl i chi ar fframweithiau rheoli brand a’ch datblygu chi yn strategydd brand llwyddiannus. Bydd hefyd yn eich dysgu chi i ddefnyddio negeseuon a metrigau er mwyn tyfu busnes yn llwyddiannus.

Gallwch astudio’n rhan amser a thyfu eich rhwydwaith byd-eang wrth ddysgu gyfochr â chyfoedion o bob cwr o’r byd.