Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
MSc Seicoleg 100% Ar-lein

Trowch eich angerdd am seicoleg yn fantais yrfaol Cwblhewch MSc Seicoleg ar-lein hyblyg gyda Phrifysgol sydd wedi’i gwirio gan y QAA am £6,000

MSc Psychology
Gwnewch gais erbyn: 17 Mehefin 2024
I ddechrau ar: 24 Mehefin 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol:

  1. MSc Seicoleg 100% ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth i chi ddysgu
  4. Arian mewn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu
  5. Cymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch
  6. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl

Dysgu seicoleg ddynol a sut i'w chymhwyso'n effeithiol yn y gweithle

Nid yw’n gyfrinach mai un o gryfderau allweddol yr arweinwyr a’r rheolwyr mwyaf effeithiol yw eu dealltwriaeth o ymddygiad dynol. Mae deall sut i werthuso gwybodaeth a’i chymhwyso yn allweddol i wneud penderfyniadau mwy effeithiol, ac mae’n atgyfnerthu eich gallu i gefnogi a chymell cydweithwyr a thimau.

Mae’r MSc Seicoleg ar-lein o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio i’ch arfogi â’r fantais seicolegol hon a’ch helpu i symud eich gyrfa i’r lefel nesaf. Mae’n berthnasol ar draws ystod eang o broffesiynau a disgyblaethau, o adnoddau dynol, i addysg ac arweinyddiaeth addysgol, i reoli marchnata ac ymchwil i’r farchnad.

Gwybodaeth a sgiliau allweddol a addysgir:

  • Meddwl yn feirniadol ac arfarnu tystiolaeth
  • Dulliau ansoddol a meintiol o ymchwilio
  • Seicoleg iechyd a llesiant
  • Seicoleg addysgol
  • Niwrowyddoniaeth
  • Dealltwriaeth o asesiadau clinigol a seicometrig
  • Technolegau newydd mewn seicoleg
  • Seicoleg glinigol
  • Seicoleg fforensig

Gradd MSc Seicoleg hyblyg y gellir ei hastudio o unrhyw le ar unrhyw bryd

Mae’r rhaglen Meistr Seicoleg hon wedi’i chynllunio’n benodol i’w hastudio a’i chwblhau wrth fod mewn gwaith llawn amser. Gyda’i darpariaeth hyblyg, gallwch astudio ar yr adegau sy’n gyfleus i chi a’i ffitio o amgylch eich gwaith a’ch bywyd teuluol. Felly, gallwch osgoi cyfnewidiadau anodd a rhwystredigaeth yrfaol, a pharhau i ennill wrth i chi ddysgu.

Gan ei fod yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl ar-lein, nid oes unrhyw rwystrau daearyddol rhag astudio. Cwblhewch y rhaglen o unrhyw le yn y byd, ar ddyfeisiau symudol neu gyfrifiadur.

Mae chwe dyddiad cychwyn y flwyddyn, sy’n gweithio allan fel un bob wyth wythnos, sy’n golygu y gallwch ddechrau arni’n gyflymach a byddwch yn dechrau gweld y manteision yn gynt.

Byddwch yn elwa o’n hopsiynau talu hyblyg, gan gynnwys opsiwn i dalu dim ond £500 fesul modiwl 8 wythnos ac, os ydych yn gymwys, gallwch hefyd gael benthyciadau llywodraeth ôl-raddedig y DU neu’r UE i dalu cost lawn y rhaglen.

MSc Seicoleg wedi’i dylunio ar gyfer llwyddiant gyrfaol

Yn hytrach na bod yn Radd Meistr hyfforddi i seicolegwyr, mae’r Radd Meistr Seicoleg ar-lein hon yn eich helpu i gymhwyso dealltwriaeth o seicoleg i gyd-destunau proffesiynol ehangach. Mae’n rhoi gwerthfawrogiad dyfnach o sut mae eich cydweithwyr a’ch cwsmeriaid yn meddwl a sut y gallwch ddylanwadu ar eu hymddygiad er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol.

Mae ein perthynas helaeth â chyflogwyr mawr wedi helpu i lunio MSc Seicoleg sydd wedi’i hanelu’n benodol at wella gyrfa mewn ystod eang o rolau proffesiynol a rheoli ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Cwrs MSc hyblyg, ar-lein, mewn Seicoleg o Brifysgol Arian TEF am £6,000.