Ffordd newydd o lwyddo mewn seiberddiogelwch. Gradd Meistr garlam ar-lein - am £6,000
- 180 credyd •
- 2 flynedd yn rhan-amser •
- Cyfanswm ffioedd £6,000
Manteision allweddol
- Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Nid oes angen gradd i gael eich derbyn, bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Cwrs MSc ar-lein ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol
Mae’r rhaglen MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Seiberddiogelwch cyfan gwbl ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol ac academaidd.
Os nad oes gennych gefndir mewn Cyfrifiadureg na Seiberddiogelwch, ond rydych eisiau uwchsgilio a lansio gyrfa newydd yn y sector proffidiol hwn, gall y rhaglen hon eich paratoi i wneud hynny.
Neu, os ydych chi’n gweithio mewn swydd cyfrifiadureg ar hyn o bryd ac yn chwilio am gymhwyster academaidd i helpu i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf, byddai’r rhaglen seiberddiogelwch hon sy’n canolbwyntio ar yrfa yn ddelfrydol ar eich cyfer chi.
Cynnwys academaidd ar gyfer gyrfaoedd seiberddiogelwch y byd go iawn
Cynlluniwyd y rhaglen Meistr hon i baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant gyrfaol mewn swyddi Seiberddiogelwch yn y ‘byd go iawn’. Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Seiberddiogelwch ar-lein wedi’i gynllunio i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o ddiogelwch cyfrifiaduron, seiberddiogelwch a diogelwch rhwydwaith.
Mae’n ymdrin ag elfennau sylfaenol seiberddiogelwch a chyfrifiadureg, gan gynnwys:
- Datblygu Meddalwedd yn Ddiogel
- Gwaith Fforensig Digidol
- Hacio Moesegol
- Dysgu Peiriant
- Strwythurau Data ac Algorithmau
- Peirianneg Systemau
Cwrs Meistr hyblyg wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur
Yr hyn sy’n gwneud y rhaglen Cyfrifiadureg gyda Seiberddiogelwch ar-lein hon yn wahanol yw ei natur hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar unrhyw adeg o unrhyw leoliad.
Mae’n golygu y gallwch astudio wrth weithio, felly nid oes angen teithio na chymryd absenoldebau astudio. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.