Ffordd ddoethach o lwyddo gradd Meistr mewn cyfrifiadureg gyda rhwydweithio, sy'n canolbwyntio ar yrfa am £6,000
- 180 credyd •
- 2 flynedd yn rhan-amser •
- Cyfanswm ffioedd £6,000
Manteision allweddol
- Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Nid oes angen gradd i gael eich derbyn, bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Galw mawr am sgiliau cyfrifiadureg
Mae astudiaeth ddiweddar gan O2 yn awgrymu y bydd angen i sefydliadau yn y DU yn unig, lenwi mwy na 750,000 o swyddi digidol newydd erbyn 2020 a hyfforddi bron i 2.3 miliwn o bobl i fodloni’r galw am sgiliau digidol.
Mae’r bwlch mewn sgiliau TG yn fyd-eang ac yn enfawr, gyda’r galw’n fwy o lawer na’r cyflenwad o sgiliau digidol. Mae cyflogwyr yn chwilio’n arbennig am sgiliau peirianneg rhwydwaith, a hynny’n aml yn aflwyddiannus. Cyniga hyn gyfle cyffrous i unigolion uchelgeisiol sydd eisiau sicrhau llwyddiant gyrfaol yn y sector hwn sydd â galw mawr amdano ac sy’n talu’n dda.
Y ffordd newydd i gael gradd MSc mewn rhwydweithio
Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Rhwydweithio Cyfan Gwbl Ar-lein wedi’i gynllunio i ddarparu ffordd newydd i weithwyr proffesiynol prysur ennill cymhwyster yn y maes proffidiol hwn sydd â galw mawr amdano. Mae’n gwrs gwbl hyblyg y gellir ei astudio unrhyw adeg, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais symudol neu fwrdd gwaith.
Rhaglen ar gyfer ystod o gefndiroedd proffesiynol
Mae’r radd Meistr hon wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol sydd ddim o gefndir Cyfrifiadureg neu Rwydweithio ac sydd eisiau dechrau gyrfa yn y maes hwn, yn ogystal ag unigolion sy’n gweithio yn y sector ar hyn o bryd ac sydd eisiau symud i’r lefel nesaf yn eu gyrfa gyda chymhwyster o ansawdd uchel.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?
Mae’r rhaglen Meistr hon yn canolbwyntio ar rwydweithio ymarferol a chysyniadau mewn cyfathrebu data. Mae’n archwilio datrys problemau a darparu gwasanaethau rhwydwaith go iawn gan ddefnyddio caledwedd a phrotocolau rhwydwaith cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg. Yn ogystal, mae’n ymdrin â datblygu cymwysiadau i ecsbloetio’r technolegau hyn.
Mae’n ymdrin ag elfennau sylfaenol rhwydweithio a chyfrifiadureg, gan gynnwys:
- Technolegau Di-wifr
- Egwyddorion Rhwydweithio
- Hacio Moesegol
- Datblygu Meddalwedd
- Strwythurau Data ac Algorithmau
- Peirianneg Systemau
Mae’r rhaglen yn ymdrin ag ieithoedd a llwyfannau modern gan gynnwys HTML5, CSS3, JavaScript, PHP a MySQL
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar y ‘byd go iawn’. Datblygir dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol, ond yn bwysig iawn mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan yn ymarferol wrth ddylunio, gweithredu a chywiro diffygion rhwydwaith. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys prosiect ymchwil 45 credyd, lle bydd myfyrwyr yn gweithio ar bwnc arbenigol gyda goruchwyliaeth berthnasol.
Arbenigwyr dysgu hyblyg
Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae gan y cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Rhwydweithio cyfan gwbl ar-lein hwn gynllun hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.
Gradd Meistr mewn rhwydweithio sy'n canolbwyntio ar yrfa ar gyfer marchnad swyddi heddiw
Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Rhwydweithio hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i mewn i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs Meistr sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.
Gofynion mynediad
- Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig gytras mewn Cyfrifiadureg gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth).
- Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol.
- Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
- Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch sgiliau iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
- IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
- TOEFL gydag isafswm cyffredinol o 60
- PTE Academic isafswm cyffredinol o 50
- Cambridge (CAE & CPE) gyda sgôr gyffredinol o 169 ac isafswm sgôr o 162 mewn Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a Siarad.
- Cymhwyster gradd a addysgwyd trwy gyfrwng y Saesneg
- Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
- Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg
Ffioedd
Mae cyrsiau MSc ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.
Modiwlau
Ymchwil Beirniadol ar gyfer Astudio Ôl-raddedig
Egwyddorion Rhwydweithio
Technolegau Di-wifr
Hacio Moesegol
Datblygu Meddalwedd ar gyfer y We
Strwythurau Data ac Algorithmau
Peirianneg Systemau
Cyfrifiadura Rhithwir a Chwmwl
Diogelwch a Rheoli Risg mewn Amgylchedd Digidol
Dulliau Ymchwil Cymhwysol
Traethawd Hir
Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
- Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
- Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
- Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
- Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
- Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
- Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
- Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
- Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
- Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam