Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Pheirianneg Meddalwedd 100% ar-lein

Ffordd newydd o lwyddo. Gradd Meistr mewn cyfrifiadureg gyda pheirianneg meddalwedd, sy'n canolbwyntio ar yrfa am £6,000

Application developers at work
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Nid oes angen gradd i gael eich derbyn, bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried
  4. Ennill cyflog wrth ddysgu
  5. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  6. Cefnogaeth academaidd lawn

Galw mawr am sgiliau peirianneg meddalwedd

Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan O2 bydd angen i sefydliadau yn y DU yn unig, lenwi mwy na 750,000 o swyddi digidol newydd erbyn 2020 a hyfforddi bron i 2.3 miliwn o bobl i fodloni’r galw am sgiliau digidol.

Mae’r bwlch mewn sgiliau TG yn fyd-eang ac yn enfawr, gyda’r galw’n fwy o lawer na’r cyflenwad o sgiliau digidol. Mae cyflogwyr yn chwilio’n daer am beirianwyr meddalwedd a datblygwyr gwe.

Cyniga hyn gyfle cyffrous i unigolion uchelgeisiol sydd eisiau sicrhau llwyddiant gyrfaol yn y sector hwn sydd â galw mawr amdano ac sy’n talu’n dda.

Y ffordd ddoethach o ennill gradd Meistr mewn peirianneg meddalwedd

Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Pheirianneg Meddalwedd Cyfan Gwbl Ar-lein wedi’i gynllunio i ddarparu ffordd newydd i weithwyr proffesiynol prysur ennill cymhwyster yn y maes proffidiol hwn sydd â galw mawr amdano. Mae’r cwrs wedi’i deilwra ar gyfer dysgwyr ar-lein a gellir ei astudio unrhyw adeg, yn unrhyw le ac ar amrywiaeth o ddyfeisiau.

Wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr ar-lein o ystod o gefndiroedd

Mae’r radd Meistr wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol sydd ddim o gefndir Cyfrifiadureg neu Beirianneg Meddalwedd ac sydd eisiau dechrau gyrfa yn y maes hwn, yn ogystal ag unigolion sy’n gweithio yn y sector ar hyn o bryd ac sydd eisiau rhoi hwb i’w gyrfa mewn Cyfrifiadureg gyda chymhwyster o ansawdd uchel.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Mae’r rhaglen Meistr yn archwilio gwyddoniaeth ymarferol rhaglennu cyfrifiadurol gyda ffocws masnachol. Ymhlith y pynciau dan sylw mae datblygu cymwysiadau symudol a chysyniadau mewn cyfathrebu data. Mae’r rhaglen yn dysgu sgiliau ac arbenigedd datblygu meddalwedd a rhaglennu uwch, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth heriol a phrysur mewn datblygu meddalwedd.

Mae’n ymdrin ag elfennau sylfaenol peirianneg meddalwedd a chyfrifiadureg, gan gynnwys:

  • Datblygu Meddalwedd ar gyfer y We
  • Datblygu Apiau Symudol (MAD)
  • Datblygu Meddalwedd yn Ddiogel
  • Peirianneg Systemau
  • Strwythurau Data ac Algorithmau
  • Cyfrifiadura Rhithwir a Chwmwl

Mae’r rhaglen yn ymdrin ag ieithoedd a llwyfannau modern gan gynnwys HTML5, CSS3, JavaScript, PHP a MySQL

Mae’r rhaglen Meistr hon yn canolbwyntio ar y ‘byd go iawn’. Datblygir dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol, ond mae hefyd yn ennyn diddordeb myfyrwyr wrth gymhwyso dylunio rhaglenni, technolegau gwe modern, dylunio rhwydwaith, gweithredu a chywiro diffygion.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys prosiect ymchwil 45 credyd, lle bydd myfyrwyr yn gweithio ar bwnc arbenigol gyda goruchwyliaeth berthnasol.

Ein harbenigedd dysgu ar-lein

Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Pheirianneg Meddalwedd cyfan gwbl ar-lein hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

Cwrs Meistr mewn peirianneg meddalwedd sy'n cael ei arwain gan

Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Pheirianneg Meddalwedd hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Prifysgol Wrecsam ac Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn benodol. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i mewn i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs Meistr sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig gytras mewn Cyfrifiadureg gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth).
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch sgiliau iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
    • TOEFL gydag isafswm cyffredinol o 60
    • PTE Academic isafswm cyffredinol o 50
    • Cambridge (CAE & CPE) gyda sgôr gyffredinol o 169 ac isafswm sgôr o 162 mewn Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a Siarad.
    • Cymhwyster gradd a addysgwyd trwy gyfrwng y Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MSc ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
Fesul modiwl 15 credyd £500

Modiwlau

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam