Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr cyfan gwbl ar-lein

Ffordd newydd o lwyddo mewn dadansoddeg Data Mawr. Gradd Meistr garlam ar-lein - am £6,000

MSc Computer Science with Big Data Analytics
Gwnewch gais erbyn: 17 Mehefin 2024
I ddechrau ar: 24 Mehefin 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Nid oes angen gradd i gael eich derbyn, bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried
  4. Ennill cyflog wrth ddysgu
  5. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  6. Cefnogaeth academaidd lawn

Cwrs MSc ar-lein ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol

Mae’r rhaglen MSc mewn Cyfrifiadureg cyfan gwbl ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol ac academaidd.

Os nad oes gennych gefndir mewn Cyfrifiadureg na Dadansoddeg Data Mawr, ond rydych eisiau uwchsgilio a lansio gyrfa newydd yn y sector proffidiol hwn, gall y rhaglen hon eich paratoi i wneud hynny.

Neu, os ydych chi’n gweithio mewn swydd cyfrifiadureg ar hyn o bryd ac yn chwilio am gymhwyster academaidd i helpu i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf, byddai’r rhaglen hon sy’n canolbwyntio ar yrfa yn ddelfrydol ar eich cyfer chi.

Cynnwys academaidd ar gyfer gyrfaoedd gwyddor data'r byd go iawn

Cynlluniwyd y rhaglen hon i baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant gyrfaol mewn swyddi Data Mawr a Dadansoddeg Data yn y ‘byd go iawn’. Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr yn anelu at ddarparu gwybodaeth ddofn o’r technegau a’r materion unigryw sy’n ymwneud â’r defnydd sy’n dod i’r amlwg o ddata ar gyfer dadansoddeg, gwneud penderfyniadau a monitro yng nghyd-destun y byd go iawn.

Mae’n ymdrin ag elfennau sylfaenol gwyddor data a chyfrifiadureg, gan gynnwys:

  • Systemau Cronfa Ddata
  • Data Mawr
  • Strwythurau Data ac Algorithmau
  • Dadansoddi a Delweddu Data
  • Dysgu Peiriant

Cwrs Meistr hyblyg wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur

Yr hyn sy’n gwneud y cwrs Meistr mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr ar-lein hwn yn wahanol yw ei natur hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar unrhyw adeg o unrhyw leoliad. Mae’n golygu y gallwch astudio wrth weithio, felly nid oes angen teithio na chymryd absenoldebau astudio. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.

Ffordd newydd o lwyddo mewn gyrfa gwyddor data. Cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr hyblyg a chyfan gwbl ar-lein am £6,000