Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr Cyfan Gwbl ar-lein

Ffordd newydd o lwyddo. gradd Meistr mewn cyfrifiadureg gyda dadansoddeg Data Mawr, sy'n canolbwyntio ar yrfa, am £6,000

MSc Computer Science with Big Data Analytics
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Nid oes angen gradd i gael eich derbyn, bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried
  4. Ennill cyflog wrth ddysgu
  5. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  6. Cefnogaeth academaidd lawn

Galw mawr am sgiliau dadansoddeg data

Yn ôl astudiaeth gan y Gymdeithas Frenhinol, mae’r galw am weithwyr sydd â sgiliau data arbenigol fel gwyddonwyr data a pheirianwyr data wedi mwy na threblu mewn pum mlynedd (+231%). O ganlyniad, mae yna fwlch sgiliau mawr a chynyddol yn y maes hwn, sy’n cynnig cyfleoedd i unigolion uchelgeisiol lwyddo mewn swyddi sy’n talu’n dda.

Dangosodd ymchwil yn 2019 gan Glassdoor, yn edrych ar gyflog, boddhad swydd a nifer y swyddi sy’n cael eu creu, mai gwyddonwyr data oedd yn sgorio uchaf yn yr Unol Daleithiau.

Y ffordd ddoethach o ennill MSc mewn dadansoddeg data

Mae’r radd MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr cyfan gwbl ar-lein wedi’i chynllunio i ddarparu ffordd newydd i weithwyr proffesiynol prysur ennill sgiliau a chymhwyster yn y maes hwn sydd â galw mawr amdano. Mae’n gwrs gwbl hyblyg y gellir ei astudio unrhyw adeg, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais symudol neu fwrdd gwaith.

Gradd wedi'i chynllunio ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol

Mae’r radd Meistr wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol sydd ddim o gefndir Cyfrifiadureg neu Ddadansoddeg Data ac sydd eisiau paratoi ar gyfer gyrfa newydd yn y maes hwn, yn ogystal ag unigolion sy’n gweithio yn y sector ar hyn o bryd ac sy’n ceisio cyflymu eu gyrfa gyda chymhwyster o ansawdd uchel.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i ddatblygu’r gallu a’r sgiliau proffesiynol allweddol sydd eu hangen ar Gyfrifiadurwr. Mae hefyd yn anelu at ddarparu gwybodaeth ddofn o’r technegau a’r materion unigryw sy’n ymwneud â’r defnydd sy’n dod i’r amlwg o ddata ar gyfer dadansoddeg, gwneud penderfyniadau a monitro yng nghyd-destun y byd go iawn.

Mae’n ymdrin ag elfennau sylfaenol gwyddor data a chyfrifiadureg, gan gynnwys:

  • Systemau Cronfa Ddata
  • Data Mawr
  • Strwythurau Data ac Algorithmau
  • Dadansoddi a Delweddu Data
  • Dysgu Peiriant

Mae’r radd meistr hon yn canolbwyntio ar yrfa, ac mae datrys problemau ac ystyriaethau cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol wedi’u hymgorffori ym mhob un o’r modiwlau. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys prosiect ymchwil gwerth 45 credyd, lle bydd myfyrwyr yn gweithio ar bwnc arbenigol gyda goruchwyliaeth berthnasol.

Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg

Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data Mawr cyfan gwbl ar-lein hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

Cwrs Meistr mewn dadansoddeg data sy'n canolbwyntio ar yrfa, ar gyfer y byd gwaith modern

Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg gyda Dadansoddeg Data hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i mewn i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs Meistr sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig gytras mewn Cyfrifiadureg gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth).
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch sgiliau iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
    • TOEFL gydag isafswm cyffredinol o 60
    • PTE Academic isafswm cyffredinol o 50
    • Cambridge (CAE & CPE) gyda sgôr gyffredinol o 169 ac isafswm sgôr o 162 mewn Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a Siarad.
    • Cymhwyster gradd a addysgwyd trwy gyfrwng y Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MSc ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
Fesul modiwl 15 credyd £500

Modiwlau

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam