Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
MSc mewn Cyfrifiadureg cyfan gwbl ar-lein

Ffordd newydd o lwyddo mewn cyfrifiadureg. Gradd Meistr garlam ar-lein - am £6,000

MSc Computer Science
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Rhaglenni gradd 100% ar-lein
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn
  6. Ail yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu*
    *Canllaw Prifysgolion Da'r Times a'r Sunday Times 2022

Cwrs MSc ar-lein ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol

Mae’r rhaglen MSc mewn Cyfrifiadureg cyfan gwbl ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion uchelgeisiol o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol ac academaidd.

Os nad oes gennych gefndir mewn Cyfrifiadureg ond rydych eisiau uwchsgilio a lansio gyrfa newydd yn y sector proffidiol hwn, gall y rhaglen hon eich paratoi i wneud hynny.

Neu, os ydych chi’n gweithio mewn swydd cyfrifiadureg ar hyn o bryd ac yn chwilio am gymhwyster academaidd i helpu i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf, byddai’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg hwn sy’n canolbwyntio ar yrfa yn ddelfrydol ar eich cyfer chi.

Cynnwys academaidd ar gyfer gyrfaoedd cyfrifiadureg y byd go iawn

Cynlluniwyd y rhaglen hon i baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant gyrfaol mewn swyddi TG yn y ‘byd go iawn’.

Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Mae’r cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg ar-lein yn dysgu elfennau sylfaenol cyfrifiadureg, gan gynnwys:

  • Datblygu Meddalwedd
  • Dysgu Peiriant
  • Strwythurau Data ac Algorithmau
  • Peirianneg Systemau
  • Rhwydweithio

Mae’r rhaglen yn ymdrin ag ieithoedd a llwyfannau modern gan gynnwys HTML5, CSS3, Javascript, PHP a MySQL

Cwrs Meistr hyblyg wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur

Yr hyn sy’n gwneud y cwrs Meistr mewn Cyfrifiadureg ar-lein hwn yn wahanol yw ei natur hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar unrhyw adeg o unrhyw leoliad.

Mae’n golygu y gallwch astudio wrth weithio, felly nid oes angen teithio na chymryd absenoldebau astudio. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.

Ffordd newydd o lwyddo mewn gyrfa cyfrifiadureg. Cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg hyblyg ac ar-lein am £6,000