Ffordd well i sicrhau dyfodol eich gyrfa. MBA Seiberddiogelwch cyfan gwbl ar-lein o'r brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfa
- 180 credyd •
- 2 flynedd yn rhan-amser •
- Cyfanswm ffioedd £6,000
Manteision allweddol
- MBA Seiberddiogelwch cyfan gwbl ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Mae galw cyflogwyr am sgiliau seiberddiogelwch wedi cynyddu’n esbonyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Adroddwyd erbyn 2021 y bydd tua 3.5 miliwn o swyddi heb eu llenwi yn fyd-eang ym maes seiberddiogelwch (New York Times, 2018).
Mae’r radd MBA Seiberddiogelwch cyfan gwbl ar-lein hon wedi’i chreu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am sicrhau eu llwyddiant yn y dyfodol trwy ddatblygu sgiliau seiberddiogelwch y mae galw mawr amdanynt yn ogystal â sylfaen wybodaeth gynhwysfawr a chyfres o sgiliau mewn meysydd busnes allweddol.
Dysgu'r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol i roi mantais broffesiynol i chi
Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau busnes a seiberddiogelwch allweddol, gan gynnwys:
- Technegau ar gyfer sicrhau technolegau busnes digidol
- Dealltwriaeth o dechnolegau seiberddiogelwch
- Cymhwyso mesurau a rheoliadau rheoli risg
- Gweithredu Strategol
- Sicrhau mewnwelediadau y gellir eu rhoi ar waith o wybodaeth fusnes
- Sgiliau Cyfathrebu
- Cyflawni newid creadigol ac arloesedd
- Methodoleg Ymchwil
Gradd MBA Seiberddiogelwch cyfan gwbl ar-lein y gellir ei hastudio yn unrhyw le ar unrhyw bryd
Mae’r radd MBA Seiberddiogelwch hon yn cael ei dysgu a’i hastudio’n gyfan gwbl ar-lein a gellir ei chwblhau o unrhyw le yn y byd, heb fod angen ymweld â’r campws. O ganlyniad i’w model dysgu ar-lein hyblyg, gellir astudio’r radd MBA Seiberddiogelwch hon ar unrhyw adeg, sy’n golygu y gallwch astudio o amgylch eich ymrwymiadau gwaith a theulu, heb fod angen seibiannau astudio costus.
Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau arni o fewn wythnosau. Mae yna opsiwn talu hyblyg i dalu dim ond £500 am bob modiwl 8 wythnos ac, i’r rhai sy’n gymwys, mae yna fenthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu cost lawn y rhaglen.
Gradd MBA wedi'i chynllunio i sicrhau llwyddiant ym marchnad gyflogaeth heddiw
Mae’r cwrs MBA Seiberddiogelwch hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a chryfderau craidd Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam yn ei chyfanrwydd. Mae ein cysylltiadau allweddol â chyflogwyr mawr wedi bwydo i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio gradd MBA sy’n targedu yn benodol canlyniadau gyrfa gwella ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.