Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Eich cwrs MBA Rheoli Prosiectau 100% ar-lein

Y ffordd orau i gyflawni eich potensial. Cwrs MBA Rheoli Prosiectau 100% ar-lein o'r brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfa

Start up meeting in Co-working office
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. MBA Rheoli Prosiectau 100% Ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn

 

Dysgwch i fod yn arweinydd prosiectau gyda chwrs MBA Rheoli Prosiectau ar-lein wedi’i gyflwyno gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae’r cwrs MBA Rheoli Prosiectau yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur sy’n gweithio ar draws ystod eang o sectorau ac sydd eisiau cyflymu eu gyrfa a symud i swyddi rheoli prosiectau uwch, yn ogystal ag unigolion hynod frwdfrydig sydd â dawn i drefnu a rheoli a fyddai’n hoffi lansio gyrfa newydd mewn rheoli prosiectau.

Mae’r cwrs MBA 100% ar-lein hwn yn rhoi set gadarn o sgiliau dadansoddol i fyfyrwyr ar gyfer cynllunio a rheoli unrhyw brosiect ac mae’n addysgu sgiliau rheoli prosiect hanfodol o ragfynegi risg a dadansoddi data economaidd. Yn ogystal, mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu set gyflawn o sgiliau busnes trwy ymdrin â disgyblaethau busnes ehangach pwysig, gan gynnwys strategaeth, marchnata a rheoli adnoddau dynol.

Dysgwch y sgiliau i arwain a llwyddo yn y maes rheoli prosiectau

Mae ein gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) – Rheoli Prosiectau unigryw a hyblyg yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol prysur drawsnewid eu rhagolygon gyrfa yn llwyr o unrhyw le, ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ddyfais, gan ganiatáu iddynt ennill cyflog wrth ddysgu ac astudio ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw.

Mae’r rhaglen yn datblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar arweinwyr prosiect, gan gynnwys:

  • Dadansoddeg busnes
  • Dylunio proses
  • Gweithrediadau a rheoli prosiectau
  • Dulliau rhagfynegi
  • Newid creadigol ac arloesedd
  • Sgiliau Cyfathrebu

Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg

Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae’r cwrs MBA Rheoli Prosiectau cyfan gwbl ar-lein hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

MBA Rheoli Prosiectau sy'n canolbwyntio ar yrfa ar gyfer byd gwaith heddiw

Mae’r cwrs MBA Rheoli Prosiectau hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam yn fwy eang. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i mewn i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs MBA sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth). Rydym hefyd yn derbyn gradd Meistr neu gyfwerth.
  • Dylech feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch gallu iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
      • TOEFL isafswm cyffredinol o 83
      • PTE Academic isafswm cyffredinol o 58
      • Cambridge (CAE & CPE) cyfanswm cyffredinol o 176
    • Cymhwyster gradd cyfrwng Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MBA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymruwedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
Fesul modiwl 15 credyd £500

Modiwlau

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant