Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Cwrs MBA Rheoli Prosiectau 100% ar-lein

Paratowch eich hun i lwyddo gyda gradd MBA Rheoli Prosiectau o ansawdd uchel a gyflwynir gan brifysgol flaenllaw yn y DU o ran cyflogadwyedd

Start up meeting in Co-working office
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. MBA Rheoli Prosiectau 100% Ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn

Mae’r radd MBA Rheoli Prosiectau 100% ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol hunanysgogol, sydd eisiau cyflymu eu gyrfa a dod yn arweinydd prosiectau, yn ogystal ag unigol uchelgeisiol sydd am lansio gyrfa newydd mewn rheoli prosiectau.

Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.

Yr hyn sy’n gwneud y rhaglen rheoli prosiectau ar-lein hon yn wahanol yw ei natur hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar unrhyw adeg o unrhyw leoliad. Mae’n golygu y gallwch astudio wrth weithio, felly nid oes angen teithio na chymryd absenoldebau astudio. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Dyluniad hyblyg ‘ennill-wrth-ddysgu’ ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur
  • Gallwch ennill eich cymhwyster MBA o fewn dwy flynedd
  • Rhaglenni wedi’u hadolygu gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)
  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd* *(o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser) Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Talu fesul modiwl gyda rhandaliadau o £500 bob wyth wythnos
  • Diwylliant prifysgol amrywiol a chroesawgar gyda gwasanaeth cymorth myfyrwyr pwrpasol
  • Mae’r chwe dyddiad dechrau’r flwyddyn yn golygu y gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau ac astudio ar eich cyflymder eich hun.

Ynglŷn â'n cwrs MBA Rheoli Prosiectau

Cyflwynir y cwrs MBA Rheoli Prosiectau yn gyfan gwbl ar-lein ac mae’n datblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar arweinwyr prosiect, gan gynnwys:

  • Dadansoddeg busnes
  • Dylunio proses
  • Dulliau rhagfynegi
  • Strategaeth gweithrediadau
  • Newid creadigol ac arloesedd
  • Sgiliau Cyfathrebu

Mae hefyd yn cwmpasu rhai o’r disgyblaethau busnes mwyaf allweddol, gan gynnwys strategaeth, marchnata a rheoli adnoddau dynol, ac mae’n datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.

Rhaglen MBA Rheoli Prosiectau sy'n canolbwyntio ar yrfa i'ch paratoi i lwyddo yn y byd sydd ohoni heddiw