Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Eich cwrs MBA Marchnata 100% ar-lein

Ffordd well i symud eich gyrfa ymlaen yn gynt. Cwrs MBA Marchnata 100% ar-lein o brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfa

Software engineers working on project and programming in company
Gwnewch gais erbyn: 17 Mehefin 2024
I ddechrau ar: 24 Mehefin 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. MBA 100% Ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn

 

Enillwch eich cymhwyster MBA Marchnata ar-lein gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Fel rhan o Brifysgol Wrecsam, mae ein gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) Marchnata unigryw yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol prysur drawsnewid eu rhagolygon gyrfa trwy ddatblygu set o sgiliau busnes cadarn a chyflawn a dealltwriaeth ddyfnach o farchnata yn arbennig.

Meithrin y gallu a'r wybodaeth i fod yn arweinydd ym maes marchnata

Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau allweddol sy’n ofynnol gan uwch farchnatwyr, gan gynnwys marchnata strategol, cynllunio cyfathrebu integredig, creadigrwydd, arloesedd a dealltwriaeth o ymddygiad defnyddwyr. Mae hefyd yn cwmpasu disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys cyllid a rheoli adnoddau dynol, ac mae’n datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.

Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, yn dysgu sut i greu a gweithredu strategaethau marchnata integredig o’r radd flaenaf, a dyfnhau eich dealltwriaeth o gymhelliant defnyddwyr.

Mae’r medrau a’r wybodaeth allweddol yn cynnwys:

  • Marchnata Strategol
  • Arloesedd a Chreadigrwydd
  • Fframweithiau rheoli brand
  • Sgiliau Cyfathrebu a Rheoli Rhanddeiliaid
  • Technegau dadansoddol – troi data yn fewnwelediadau y gellir eu rhoi ar waith
  • Deall ac ysgogi macro-dueddiadau

Arbenigwyr dysgu hyblyg

Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae’r cwrs MBA cyfan gwbl ar-lein hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

MBA â phwyslais gyrfaol, ar gyfer byd gwaith modern

Mae’r cwrs MBA hwn wedi’i arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i mewn i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs MBA sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth). Rydym hefyd yn derbyn gradd Meistr neu gyfwerth.
  • Dylech feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch gallu iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
      • TOEFL isafswm cyffredinol o 83
      • PTE Academic isafswm cyffredinol o 58
      • Cambridge (CAE & CPE) cyfanswm cyffredinol o 176
    • Cymhwyster gradd cyfrwng Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MBA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
Fesul modiwl 15 credyd £500

Modiwlau

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam