Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Eich cwrs MBA Entrepreneuriaeth 100% ar-lein

Trowch eich syniad yn fusnes gyda MBA Entrepreneuriaeth cyfan gwbl ar-lein o'r brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfa

Mother Working From Home And Holding Her Baby
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. MBA Entrepreneuriaeth 100% Ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn

 

Mae’r cwrs MBA Entrepreneuriaeth 100% ar-lein hwn wedi’i gynllunio i baratoi darpar entrepreneuriaid a gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol, beiddgar a chreadigol ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous. O lansio mentrau busnes newydd, i dyfu a datblygu busnesau newydd a chwmnïau bach, i reoli arloesedd mewn cwmnïau mwy, mae’r rhaglen MBA hon ar gyfer unigolion sydd eisiau bod yn entrepreneuriaid, dyfeiswyr ac arweinwyr.

Mae’r rhaglen ar-lein hynod hyblyg yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r broses entrepreneuraidd ac yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd gan gynnwys arloesedd, creadigrwydd a dylunio. Mae hefyd yn datblygu ehangder gwybodaeth a sgiliau sy’n allweddol i wneud busnesau’n llwyddiannus, gan gynnwys strategaeth, marchnata a rheoli adnoddau dynol.

Paratowch i lwyddo gyda set sgiliau entrepreneuraidd

Mae’r radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) – Entrepreneuriaeth sydd wedi’i gwerthuso’n ofalus yn rhoi’r gallu a’r wybodaeth unigryw sydd eu hangen ar unigolion sydd am lansio menter entrepreneuraidd newydd i wneud hynny’n llwyddiannus heb gymryd amser i ffwrdd o’u gyrfa bresennol, sy’n eu caniatáu i barhau i ennill cyflog tra byddant yn dysgu. Byddant yn astudio yn gyfan gwbl ar-lein, unrhyw amser, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais, wrth eu pwysau eu hunain.

Mae’r rhaglen hon yn datblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar entrepreneuriaid ac arloeswyr, gan gynnwys:

  • Meddwl yn entreprenuraidd
  • Creadigrwydd ac arloesedd
  • Datblygu mentrau busnes newydd
  • Llunio strategaethau marchnata
  • Rheolaeth ariannol
  • Sgiliau Cyfathrebu

Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg

Mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio rhan amser, felly mae gennym arbenigedd sylweddol mewn astudio hyblyg. Mae’r cwrs MBA Entrepreneuriaeth cyfan gwbl ar-lein hwn wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg er mwyn eich galluogi i astudio ar eich cyflymder eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

MBA Entrepreneuriaeth sy'n canolbwyntio ar yrfa, ar gyfer y byd gwaith modern

Mae’r cwrs MBA Entrepreneuriaeth hwn yn cael ei arwain gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan adlewyrchu diwylliant a gallu Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam. Mae ein perthynas ddofn â chyflogwyr mawr wedi bwydo i mewn i gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lunio cwrs MBA sydd wedi’i adeiladu ar gyfer gwella gyrfa ar draws ystod eang o sectorau yn yr amgylchedd gwaith modern. Yr agwedd hon sydd wedi sicrhau ein lle ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth). Rydym hefyd yn derbyn gradd Meistr neu gyfwerth.
  • Dylech feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch gallu iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
      • TOEFL isafswm cyffredinol o 83
      • PTE Academic isafswm cyffredinol o 58
      • Cambridge (CAE & CPE) cyfanswm cyffredinol o 176
    • Cymhwyster gradd cyfrwng Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MBA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
Fesul modiwl 15 credyd £500

Modiwlau

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam