Paratowch eich hun ar gyfer llwyddiant entrepreneuraidd gyda MBA Entrepreneuriaeth o ansawdd uchel a gyflwynir gan brifysgol flaenllaw yn y DU o ran cyflogadwyedd
- 180 credyd •
- 2 flynedd yn rhan-amser •
- Cyfanswm ffioedd £6,000
Manteision allweddol
- MBA Entrepreneuriaeth 100% ar-lein o fewn 24 mis
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Cefnogaeth academaidd lawn
Mae’r cwrs MBA Entrepreneuriaeth 100% ar-lein hwn gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i gynllunio i baratoi darpar entrepreneuriaid a gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol, beiddgar a chreadigol ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
O lansio mentrau busnes newydd, i dyfu a datblygu busnesau newydd a chwmnïau bach, i reoli arloesedd mewn cwmnïau mwy, mae’r rhaglen MBA hon ar gyfer unigolion sydd eisiau bod yn entrepreneuriaid, dyfeiswyr ac arweinwyr.
Mae ei chynnwys a arweinir gan ddiwydiant yn manteisio ar ein cysylltiadau â busnes ac yn adlewyrchu ein statws fel prifysgol yn y DU sy’n canolbwyntio ar yrfa gyda sgôr gyflogadwyedd uchel iawn.
Yr hyn sy’n gwneud y rhaglen entrepreneuriaeth ar-lein hon yn wahanol yw ei natur hyblyg sy’n eich galluogi i astudio ar unrhyw adeg o unrhyw leoliad. Mae’n golygu y gallwch astudio wrth weithio, felly nid oes angen teithio na chymryd absenoldebau astudio. Ar ben hynny, gyda chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.
Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
- Dyluniad hyblyg ‘ennill-wrth-ddysgu’ ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur
- Gallwch ennill eich cymhwyster MBA o fewn dwy flynedd
- Rhaglenni wedi’u hadolygu gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)
- Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd* *(o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser) Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
- Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
- Talu fesul modiwl gyda rhandaliadau o £500 bob wyth wythnos
- Diwylliant prifysgol amrywiol a chroesawgar gyda gwasanaeth cymorth myfyrwyr pwrpasol
- Mae’r chwe dyddiad dechrau’r flwyddyn yn golygu y gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau ac astudio ar eich cyflymder eich hun.
Ynglŷn â'n cwrs MBA Entrepreneuriaeth
Cyflwynir y cwrs MBA Entrepreneuriaeth yn gyfan gwbl ar-lein ac mae’n datblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar entrepreneuriaid ac arloeswyr, gan gynnwys:
- Creadigrwydd ac arloesedd
- Datblygu mentrau busnes newydd
- Diogelwch deallusol a gofynion statudol
- Llunio strategaethau marchnata
- Rheolaeth ariannol
- Sgiliau Cyfathrebu
Mae hefyd yn cwmpasu rhai o’r disgyblaethau busnes mwyaf allweddol, gan gynnwys strategaeth, marchnata a rheoli adnoddau dynol ac mae’n datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol.