Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Mae ymgysylltiad gweithwyr yn hanfodol i lwyddiant cwmni

Postiwyd ar: Mehefin 18, 2019
gan
Employee engagement is essential to company success

Mae ymgysylltiad gweithwyr yn ymwneud â chreu gweithlu perfformiad uchel, lle mae gweithwyr wedi buddsoddi yn eich sefydliad ac yn credu’n gryf yn eich cenhadaeth, pwrpas a gwerthoedd. Mae gan weithwyr sydd wedi eu hymgysylltu ymrwymiad emosiynol i weithio tuag at eich nodau sefydliadol – ac yn fwy tebygol o aros gyda chi.

Dengys astudiaeth ymchwil newydd i mewn i ymgysylltiad gweithwyr, gan ddadansoddi dros 35 miliwn o ymatebion, nad cyflog, straen, llwyth gwaith a dynameg y tîm sydd o reidrwydd yn gwthio pob allan drwy’r drws; gwrando ar weithwyr yw’r allwedd i’w cadw yn ddiwyd, wedi eu hymgysylltu ac yn gynhyrchiol. Sut mae cyflawni hyn? Mae’n ymwneud â chymryd yr amser i greu diwylliant o weithwyr wedi eu hymgysylltu fel bod staff yn teimlo y cânt eu gweld, eu clywed a’u cydnabod.

6 ffordd i greu diwylliant o weithwyr wedi eu hymgysylltu

  1. Cymryd ymagwedd fwy cydweithredol
    A yw eich sefydliad yn rhoi cyfarwyddiadau o’r pen uchaf i lawr, neu a oes yna gyfle i gydweithio ac annog gweithwyr i gyfrannu at fentrau newydd? Ar gyfer gweithwyr sydd wedi eu hymgysylltu fwy, a chyfraddau cadw gwell, meddyliwch am sut i gynnwys gweithwyr yn y broses. Drwy roi mwy o ffocws ar wrando ar staff, megis rhoi prosesau ar waith i gasglu adborth gweithwyr, gallwch adnabod meysydd posibl ar gyfer gwella.
  1. Cynnig mwy o hyblygrwydd
    Gwrandewch ar eich staff ac ewch ati i gymryd i ystyriaeth gofynion bywyd modern. Gall gweithio hyblyg roi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith mwy cadarnhaol i weithwyr, gan leihau straen a golygu eu bod yn fwy cynhyrchiol ac wedi eu hymgysylltu fwy. Mae mileniaid a gweithwyr y genhedlaeth z yn cyflwyno ffyrdd newydd o weithio ac er mwyn i gwmnïau aros yn gystadleuol, rhaid iddynt arwain wrth hyrwyddo gweithio gartref, oriau gweithio hyblyg, a thechnoleg a chyfarpar dibynadwy a chyfredol. Gall defnyddio dealltwriaeth pob cenhedlaeth newydd helpu i ddenu’r gweithwyr iawn, lleihau trosiant staff – gan arbed costau recriwtio, yn ogystal ag atal straen a phroblemau yn sgil gorweithio.
  1. Darparu cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y gweithle
    Mae canfod beth sy’n bwysig i weithwyr a darparu’r cyfle iddynt wirfoddoli gydag achos sy’n bwysig iddynt yn ffordd wych o roi hwb i ysbryd ac agwedd gadarnhaol a chryfhau perthnasoedd rhwng cyfoedion, ac yn ei dro cynhyrchiant y tîm. Gall gwirfoddoli hefyd fod yn arf gwerthfawr i weithwyr ei ddefnyddio er mwyn dwysáu eu cysylltiad â chenhadaeth a phwrpas eich sefydliad a’r gymuned leol, a all yn ei dro arwain atoch yn gallu manteisio ar gronfa ehangach o dalent – gan fod gweithwyr posibl yn gweld cyfleoedd gwirfoddoli fel budd gwerth chweil wrth chwilio am swyddi newydd.
  1. Gofalu am iechyd a lles gweithwyr
    Mae gweithwyr iach wedi eu cymell yn y gwaith, mewn llai o risg o ddatblygu salwch hirdymor ac yn gwella’n gynt os ydynt yn mynd yn sâl, felly drwy annog gweithlu iach gallwch leihau absenoldeb oherwydd salwch a gwneud arbedion sylweddol o ran cost. Gallwch hyrwyddo byw’n iach drwy siarad â gweithwyr am leihau straen ac arferion bwyta’n iach megis annog staff i yfed dŵr a darparu ffrwythau am ddim.
  1. Cymryd ymagwedd gywir at iechyd meddwl
    Yn ôl TUC, yn 2017/18 yn y DU collwyd 15.4 miliwn o ddiwrnodau gwaith o ganlyniad i straen, iselder neu orbryder, gan gyfrif am 57% o’r holl absenoldebau. Yn y cyfamser, adroddodd Adolygiad Ffynnu yn y Gwaith Stevenson/Farmer fod iechyd meddwl gwael yn costio rhwng £33 biliwn a £42 biliwn y flwyddyn i weithwyr y DU. Gydag 1 ym mhob 6.8 o weithwyr y DU yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn y gweithle, mae’n gynyddol bwysig bod sefydliadau yn cynnig y cymorth iawn ac yn cymryd ymagwedd gadarnhaol at ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. A hynny yn enwedig oherwydd bod gweithwyr pan maent yn gwybod y gallant siarad yn gyfforddus am broblemau yn ymwneud ag iechyd meddwl, yn fwy tebygol o fod wedi eu hymgysylltu.
  1. Rhoi polisïau ar waith
    Er efallai bod eich polisïau yn nodi bod gennych ymagwedd gadarnhaol at iechyd a lles gweithwyr, iechyd meddwl a meysydd eraill sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at ymgysylltiad gweithwyr, dylai’r ffordd yr ydych yn hyrwyddo eich gwerthoedd brand yn fewnol adlewyrchu’r addewidion hyn. Siaradwch â staff i weld a ydych yn methu yn unrhyw un o’r meysydd hyn.

Cofiwch, ni ellir gorfodi ymgysylltiad – gan y sefydliad na’r gweithwyr. Mae’n rhaid iddo fod yn rhan o ddiwylliant y cwmni, yn rhan gynhenid o’r busnes a phob gweithiwr.

Os ydych yn teimlo’n angerddol am ymgysylltiad gweithwyr a hoffech gael dealltwriaeth well o’i effaith ar fusnesau, mae Prifysgol Wrecsam Wrecsam yn cynnig gradd Meistr Gweinyddu Busnes (MBA) mewn Rheoli Adnoddau Dynol (HRM) ar-lein. Wedi ei thargedu’n benodol at y rhai hynny sydd â dyheadau i weithio ar lefel bwrdd neu ddechrau eu busnes eu hunain, mae’n canolbwyntio ar y sgiliau allweddol sy’n ofynnol i weithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol llwyddiannus, gan gynnwys datblygu talent, rheoli gwobrwyo, darparu adnoddau a fframweithiau Adnoddau Dynol strategol yn ogystal â chyllid, strategaeth a marchnata, gan ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth busnes ymarferol a damcaniaethol. Mae 100% o’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar-lein, fel eich bod yn gallu astudio o gwmpas eich rhwymedigaethau cyfredol, a gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio pryd bynnag yr ydych yn barod. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba-hrm/