Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar 100% ar-lein

Y ffordd ddoethach o lwyddo ym maes addysg plentyndod cynnar. Cwrs Meistr mewn addysg gyda phlentyndod cynnar ar-lein sy'n canolbwyntio ar yrfa am £6,000

prog-ma-educationwithearlychildhood
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried ar gyfer mynediad
  4. Ennill cyflog wrth ddysgu
  5. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  6. Cefnogaeth academaidd lawn

Mae addysgwyr plentyndod cynnar effeithiol yn chwarae rhan hollbwysig yn natblygiad plant

Gall Ymarferwyr Addysg Plentyndod Cynnar Da gael effaith enfawr ar addysg plant ifanc. Pan fyddant yn llwyddiannus, gallant osod y sylfaen ar gyfer addysg barhaus plentyn ar adeg dyngedfennol pan maent yn dysgu sgiliau emosiynol a chymdeithasol sy’n eu galluogi i ryngweithio a ffurfio partneriaethau gyda rhieni, athrawon a chyfoedion.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i addysgwyr plentyndod cynnar effeithiol gyfuno dealltwriaeth ddofn o theori ac ymarfer addysgol ehangach â phrofiad damcaniaethol ac ymarferol o addysg yng nghyd-destun plentyndod cynnar yn benodol.

Cwrs Meistr ar-lein wedi'i ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg

Mae’r radd Addysg MA gydag Arweinyddiaeth 100% Ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chreu’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur ym maes addysg plentyndod cynnar. Mae’n galluogi myfyrwyr i atgyfnerthu eu profiad gwaith ymarferol gyda’r theori, yr offer a’r technegau a fydd yn eu helpu i sicrhau llwyddiant gyrfaol fel ymarferydd mewn addysg plentyndod cynnar.

Mae’r MA mewn Addysg gyda Phlentyndod Cynnar yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar o sut mae ymchwil addysgol, theori, polisi ac ymarfer yn croestorri â chyd-destun addysg plentyndod cynnar yn gyffredinol, a gyda’i gyd-destunau proffesiynol a diwylliannol penodol.

Astudio'n hyblyg, yn eich amser eich hun, 100% ar-lein

Mae’r cwrs Meistr Addysg gyda Phlentyndod Cynnar yn un o deulu o raglenni Meistr unigryw o hyblyg y gellir eu hastudio ar unrhyw adeg, ar ystod o ddyfeisiau bwrdd gwaith a symudol ac o unrhyw le yn y byd. Fe’i cynlluniwyd i ddarparu ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur ac i gyd-fynd â’r heriau sy’n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Nid oes angen i fyfyrwyr gymryd seibiant astudio costus a gallant barhau i ennill wrth iddynt ddysgu a chymhwyso’r sgiliau a’r wybodaeth maent newydd eu caffael i’w swydd bresennol.

Y cynnwys a’r cyflwyniad hwn sy’n canolbwyntio ar yrfa sy’n gwneud y rhaglen Addysg gyda Phlentyndod Cynna MA ar-lein hon yn wahanol, gan ei gwneud yn opsiwn craff i weithwyr addysg proffesiynol sydd am ddod yn fwy effeithiol fel addysgwyr ac yn fwy llwyddiannus yn eu gyrfaoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Mae’r rhaglen MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar yn hyrwyddo myfyrio beirniadol a gwerthuso dysgu mewn addysg plentyndod cynnar mewn perthynas â chyd-destunau byd-eang ac o fewn cyd-destunau anghenion a diddordebau myfyrwyr. Mae’r rhaglen yn gwella gallu myfyrwyr i gynnal ymchwil a dadansoddiad polisi trylwyr yn seiliedig ar ymarfer, ac i ledaenu eu gwaith.

Mae’n cwmpasu elfennau sylfaenol o theori ac ymarfer plentyndod cynnar, gan gynnwys:

  • Lles a Gwydnwch mewn Plentyndod Cynnar
  • Materion Cyfoes ym maes Plentyndod Cynnar
  • Technolegau Dysgu
  • Ymarfer Beirniadol a Myfyriol mewn Addysg
  • Mentora a Hyfforddi
  • Addysgeg Feirniadol ac Ymarfer Gwrth-ormesol

Mae yna hefyd brosiect ymchwil 30 credyd ar ddiwedd y rhaglen lle bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymhwyso theori i ymchwil yn seiliedig ar ymarfer.

Prifysgol gydag arbenigedd dwfn mewn astudio hyblyg

Un o fuddion allweddol y ffaith syml bod mwy na hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser yw arbenigedd mewn dysgu hyblyg sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn. Mae cyflwyno’r rhaglen MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar hon yn enghraifft o’r profiad, y wybodaeth a’r arbenigedd hwnnw. Astudir y rhaglen yn gyfan gwbl ar-lein mewn amgylchedd dysgu ar-lein cydweithredol a dymunol. Mae’n galluogi dysgwyr i astudio ar eu cyflymder eu hunain, pan fydd yn gyfleus. Mae chwe dyddiad dechrau’r flwyddyn yn golygu y gall ymgeiswyr ddechrau o fewn wythnosau ac mae’r opsiwn talu fesul modiwl yn rhoi hyblygrwydd ariannol i fyfyrwyr ac yn golygu nad oes angen talu costau mawr ymlaen llaw. Mae yna hyd yn oed benthyciadau ôl-raddedig i dalu costau llawn y rhaglen ar gyfer y rhai sy’n gymwys.

Cwrs MA sy'n mynd i'r afael â heriau ymarferol addysg plentyndod cynnar

Mae’r cwrs MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar wedi’i greu’n benodol i ddatblygu’r sgiliau a’r arbenigedd sy’n ofynnol i lwyddo a ffynnu fel addysgwr plentyndod cynnar. Mae Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn gwneud defnydd llawn o’i pherthynas agos â chyflogwyr a darparwyr addysg blaenllaw i ddatblygu rhaglen sy’n canolbwyntio ar yr ymarferol ac sy’n targedu canlyniadau gyrfa penodol yn y cyd-destun proffesiynol penodol hwn. Mae hyn yn enghraifft o ddiwylliant a galluoedd y brifysgol yn ei chyfanrwydd, sydd wedi’i rhestru ymhlith 10 prifysgol orau’r DU ar gyfer myfyrwyr rhan amser.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod wedi cwblhau neu ar fin cwblhau cwrs gradd israddedig mewn unrhyw bwnc gydag o leiaf gradd anrhydedd 2:2 (neu gymhwyster cyfwerth). Rydym hefyd yn derbyn gradd Meistr neu gyfwerth.
  • Efallai y byddwn hefyd yn derbyn ymgeiswyr sydd ddim yn meddu ar y cymwysterau hyn yn seiliedig ar o leiaf dwy flynedd o brofiad gwaith perthnasol.
  • Os gwnaethoch ennill eich gradd israddedig y tu allan i’r DU, dylech wirio bod eich gradd yn gyfwerth â gradd 2:2.
  • Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch sgiliau iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
    • IELTS ar 6.0 yn gyffredinol heb unrhyw elfen yn is na 5.5
    • TOEFL gydag isafswm cyffredinol o 60
    • PTE Academic isafswm cyffredinol o 50
    • Cambridge (CAE & CPE) gyda sgôr gyffredinol o 169 ac isafswm sgôr o 162 mewn Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a Siarad.
    • Cymhwyster gradd a addysgwyd trwy gyfrwng y Saesneg
    • Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
    • Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg

Ffioedd

Mae cyrsiau MA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy, gan arbed amser ac arian. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.

Cyfanswm Ffioedd y Rhaglen £6,000
Fesul modiwl 15 credyd £500

Modiwlau

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

  • Yr adran addysg ar y brig yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr (Complete University Guide 2017)
  • Ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd o ran graddedigion yn y DU sy’n astudio graddau cyntaf rhan amser (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
  • Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
  • Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
  • Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser
  • Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
  • Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
  • Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd
  • Gostyngiad ffioedd o 10% i raddedigion o Brifysgol Wrecsam