Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
MA Addysg gydag arweinyddiaeth cyfan gwbl ar-lein

Y ffordd ddoethach o baratoi eich hun ar gyfer arweinyddiaeth mewn addysg. Cwrs Meistr mewn arweinyddiaeth addysgol ar-lein sy'n canolbwyntio ar yrfa am £6,000

prog-ma-educationwithleadership
Gwnewch gais erbyn: 17 Mehefin 2024
I ddechrau ar: 24 Mehefin 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried ar gyfer mynediad
  4. Ennill cyflog wrth ddysgu
  5. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  6. Cefnogaeth academaidd lawn

Cwrs Meistr ar-lein wedi'i ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg

Mae’r radd MA Addysg gydag Arweinyddiaeth cyfan gwbl ar-lein hon o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chreu’n benodol ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol prysur o bob cefndir, ar draws diwydiannau a sectorau. Mae’n eich galluogi chi i atgyfnerthu eich profiad gwaith ymarferol gyda’r theori, yr offer a’r technegau addysg ac arweinyddiaeth fydd yn eich helpu chi i sicrhau llwyddiant gyrfaol fel arweinydd yn y proffesiwn addysg.

Mae’r MA Addysg gydag Arweinyddiaeth ar-lein yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol archwilio effaith a dylanwadau arweinyddiaeth addysgol. Byddant yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut y gall datblygiadau polisi, gwerthoedd, newid sefydliadol, partneriaethau a chydweithio effeithio ar brofiadau staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid yn y sefydliad.

Ennill wrth ddysgu gydag astudiaeth hyblyg ar-lein

Astudir y rhaglen yn gyfan gwbl ar-lein mewn amgylchedd dysgu ar-lein cydweithredol a rhyngweithiol. Gellir ei hastudio o unrhyw le yn y byd, ar unrhyw adeg ac ar ystod eang o ddyfeisiau symudol a bwrdd gwaith.

Cynlluniwyd y rhaglen ran amser i gael ei hastudio o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu, sy’n golygu nad oes angen cymryd seibiant astudio ac y gall myfyrwyr gymhwyso’r hyn maen nhw’n ei ddysgu i’w rôl yn y gwaith wrth iddyn nhw astudio.

Y cynnwys a’r cyflwyniad hwn sy’n canolbwyntio ar yrfa sy’n gwneud y rhaglen MA mewn Addysg ar-lein hon yn wahanol, gan ei gwneud yn opsiwn craff i weithwyr addysg proffesiynol sydd am ddod yn fwy effeithiol fel addysgwyr ac yn fwy llwyddiannus yn eu gyrfaoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Mae’r cwrs Meistr Addysg gydag Arweinyddiaeth hwn yn ymdrin ag elfennau sylfaenol o theori ac ymarfer addysg ac arweinyddiaeth, gan gynnwys:

  • Arwain a Rheoli Gweithwyr Proffesiynol
  • Technolegau Dysgu
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Addysg
  • Ymarfer Beirniadol a Myfyriol mewn Addysg
  • Mentora a Hyfforddi
  • Addysgeg Feirniadol ac Ymarfer Gwrth-ormesol

Mae yna hefyd brosiect ymchwil 30 credyd ar ddiwedd y rhaglen lle bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymhwyso theori i ymchwil yn seiliedig ar ymarfer.

Y ffordd ddoethach o lwyddo mewn addysg. Cwrs MA Eddysg gydag arweinyddiaeth 100% ar-lein sy'n canolbwyntio ar yrfa am £6,000