Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Ieithoedd rhaglennu modern poblogaidd i’w dysgu er mwyn camu ymlaen mewn gyrfa

Postiwyd ar: Chwefror 14, 2022
gan
Illustration of a laptop with code on the screen

Mae datblygiad meddalwedd wedi symud ymlaen yn fawr ers dechreuad y Rhyngrwyd yn y 1980au. Wrth i fusnesau ddod yn fwy hyddysg yn y maes digidol, ac wrth i fusnesau weithredu bron yn llwyr neu’n gyfan gwbl ar-lein, mae’n gyfnod delfrydol i ddysgu ieithoedd rhaglennu modern.

Mae dysgu iaith raglennu fodern yn cymryd amser ac amynedd, ond os ydych chi’n ystyried dysgu eich iaith gyntaf neu eich yn ystyried ychwanegu un iaith arall at eich set sgiliau, yn y byd gwaith cyfoes mae’r sgil hon yn amhrisiadwy.

Yn fyr, hanes ieithoedd rhaglennu modern

Yn 1995, rhyddhawyd pedair iaith raglennu newydd gan newid hinsawdd rhaglennu cyfrifiadurol. Wrth i’r Rhyngrwyd weithio’i ffordd at y brif ffrwd, rhyddhawyd Java, JavaScript, PHP a Ruby. Yn anhysbys ar y pryd, byddai’r ieithoedd hyn i gyd yn dod yn adnodd sylfaenol ar gyfer y rhan fwyaf o ddatblygwyr meddalwedd.

Cyn hyn, yr ieithoedd rhaglennu mwyaf cyffredin oedd C ac C++. Roedd y ddwy yn rhai pwerus ac yn sylfaen i ddatblygiad meddalwedd, ond, fel sy’n arferol mewn technoleg fodern, roedd angen datblygu ymhellach. Er gwaethaf manteision C ac C++, doeddent ddim yn addas ar gyfer y we fyd eang, ac roeddent yn cael eu hystyried i fod yn gymhleth i raglennwyr newydd.

Yn y 2000au, dechreuodd peiriannau cyfrifiadurol gael llawer o brosesyddion gwahanol ac roedd gan sawl prosesydd unigol fwy nac un craidd. Roedd y newid hwn i galedwedd cyfrifiadurol yn gofyn am ieithoedd rhaglennu a allai addasu ar gyfer y dechnoleg newydd. Er mwyn i’r prosesyddion aml-graidd hyn weithio ar eu gorau, roedd angen i ieithoedd rhaglennu weithredu prosesau ar y cyd neu’n baralel i’w gilydd.

Mae peiriannau modern yn bwerus, ac felly maent angen am ieithoedd rhaglennu sy’n gyflym ac sy’n hawdd i’w darllen a’u hysgrifennu er mwyn i raglenwyr weithio’n effeithlon.

Pa ieithoedd rhaglennu yw’r rhai mwyaf poblogaidd?

Mae ieithoedd rhaglennu gwahanol yn cael eu defnyddio ar gyfer datblygiadau gwahanol, felly mae dewis pa iaith raglennu i’w dysgu yn dibynnu’n bennaf ar eich nodau gyrfa. Os mai eich nod yw dysgu iaith raglennu, yn ogystal ag ystyried yr ieithoedd mwyaf cyffredin, mae’n werth ystyried yr ieithoedd sy’n dod yn fwy a mwy poblogaidd. Wrth ddysgu iaith raglennu sy’n dod yn fwy a mwy poblogaidd, byddwch yn datblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y farchnad swyddi presennol.

Mae’r rhestr isod yn dangos yr ieithoedd rhaglennu y mae galw mawr amdanynt mewn perthynas â datblygu’r feddalwedd a nodir:

  • Datblygu gwe ochr flaen: JavaScript, Elm, a TypeScript
  • Datblygu gwe ochr gefn: JavaScript, Scala, Python, Go, a Ruby
  • Datblygu technoleg symudol: Swift, Java, Objective C, a JavaScript
  • Datblygu gemau: Unity a TypeScript
  • Rhaglenni bwrdd gwaith: Scala, Go, a Python
  • Rhaglennu systemau: Go a Rust

JavaScript

Yn Arolwg Datblygu 2020 Stack Overflow, enwyd JavaScript fel yr iaith fwyaf poblogaidd ymysg datblygwyr gyda 70 y cant o’r rhai a ymatebodd yn nodi eu bod wedi defnyddio’r iaith raglennu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Yn bennaf, mae JavaScript yn cael ei defnyddio fel iaith ochr flaen ac mae sawl safle poblogaidd yn ei defnyddio i greu tudalennau gwe rhyngweithiol ac i arddangos cynnwys mewn ffordd ddynamig gan gynnwys Facebook, Twitter, Gmail, a YouTube.

Gellir defnyddio’r iaith raglennu hon hefyd ar ochr y gweinydd trwy Node.js sy’n gytûn â Linux, SunOS, Mac OS X, a Windows. O gael ei defnyddio fel hyn, gall JavaScript adeiladu rhaglenni rhwydwaith sy’n gallu tyfu yn ôl y gofyn.

Swift

Cyflwynwyd Swift gan Apple yn 2014 ac mae’n cael ei defnyddio ar gyfer datblygu apiau symudol iOS a macOS,

Er ei bod yn iaith raglennu fodern eithaf newydd, mae apiau iOS wedi aros ar y brig o ran bod yr apiau mwyaf proffidiol yn y farchnad apiau symudol ac mae’r defnydd o iPhone ar gynnydd ledled y byd, felly gallai dysgu’r iaith hon fod yn fuddsoddiad er mwyn gwarchod eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.

Scala

Mae gan Scala nodweddion tebyg i Java oherwydd ei Strwythur gwrthrych-gyfeiriadol ac amgylchedd amser rhedeg JVM cyflym, ond hefyd mae’n gallu ymdebygu i fathemateg bur o ran bod yn iaith raglennu ffwythiannol.

Mae’n galluogi rhaglennu cydamserol, ac mae’n iaith teip cryf fel bod peirianyddion yn defnyddio eu mathau eu hunain o ddata sy’n atal bygiau yn ystod amser rhedeg.

Go

Rhyddhawyd fersiwn swyddogol gyntaf Go yn 2012 gan Google. Mae’n iaith lefel isel, sy’n ddelfrydol ar gyfer adeiladu gweinyddion gwe, piblinellau data, a hyd yn oed yn gwyro i fyd gwyddor data gan y gellir ei defnyddio i greu pecynnau dysgu peirianyddol.

Mae’n iaith cod agored, felly mae datblygwyr yn gallu ychwanegu eu cyfraniadau eu hunain i ddefnyddwyr eraill eu defnyddio.

Python

Mae Python yn ddewis cyntaf poblogaidd o ran ieithoedd rhaglennu ac yn iaith ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dysgu achos mae’n hawdd i’w defnyddio, yn glir, ac yn reddfol ei natur.

Yn aml defnyddir hi ar gyfer datblygiad ochr gefn ac mae’r fframwaith Django cod agored wedi’i ysgrifennu yn Python sydd yn ddewis poblogaidd ac wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu Mozilla, Instagram, a Spotify.

Elm

Wedi’i dechrau fel thesis gan fyfyriwr Harvard, mae bellach wedi dod yn iaith raglennu fodern poblogaidd sy’n cael ei defnyddio gan ddatblygwyr ochr flaen.

Mae Elm yn iaith raglennu gweithredol arall sydd ar gael ar gyfer peirianyddion meddalwedd i greu rhyngwynebau ochr y cleient heb y cyfyngiadau a geir yn aml gan HTML a CSS.

Ruby

Yn cael ei defnyddio fel sylfaen i fframwaith rhaglenni gwe Ruby on Rails, mae gan Ruby gymuned brysur o ddefnyddwyr a chystrawennau syml.

Mae’r iaith sgriptio yn boblogaidd yn y sector technoleg, ac mae sawl un sy’n dechrau busnes o’r newydd wedi defnyddio Ruby on Rails i adeiladu eu gwefannau. Mae achosion defnydd yn cynnwys Airbnb, Bloomberg, a Shopify.

C#

Ynganir fel ‘C Sharp’ yn y Saesneg a dyluniwyd C# yn wreiddiol gan Microsoft yn rhan o’i fframwaith .NET ar gyfer adeiladu rhaglenni Windows.

Gellir dibynnu ar yr iaith raglennu hon er mwyn datblygu apiau Microsoft, ac mae’n cael ei defnyddio ar gyfer datblygwyr technoleg symudol i adeiladu apiau aml-lwyfan ar y llwyfan Xamarin. Hefyd, C# ydy’r iaith sy’n cael ei hargymell ar gyfer gemau fideo 3D a 2D ac yn cael ei defnyddio’n helaeth wrth ddatblygu rhith-realiti (VR).

Dewch yn rhugl yn y maes cyfrifiadureg

Yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, rydym yn cynnig cwrs MSc mewn Cyfrifiadureg 100% ar-lein sy’n cael ei hastudio’n rhan amser. Wedi’i dylunio i ffitio o gwmpas eich bywyd, boed hynny er mwyn camu ymlaen yn eich gyrfa mewn cyfrifiadureg neu er mwyn newid cyfeiriad eich gyrfa yn gyfan gwbl, dyma’r radd i chi.

Os ydych chi’n uchelgeisiol yn y maes datblygu meddalwedd, bydd y modiwl Datblygu Meddalwedd ar gyfer y We yn eich cyflwyno i ieithoedd rhaglennu modern poblogaidd a’r llwyfannau sy’n cael eu defnyddio gan raglennwyr, a byddwch yn dysgu sut i ddylunio, adeiladu a threfnu eich prosiect gwefan eich hun wrth gwblhau cyfres o ymarferion ymarferol.

Ewch ar-lein er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cwrs meistr ar-lein, a dysgwch am y sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn ein byd digidol sy’n prysur ddatblygu ac sy’n golygu bod galw mawr hefyd am ein graddedigion cyfrifiadureg.