Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Gall ychwanegu diddordeb newydd mewn gwyddor cyfrifiadur fod o fantais uniongyrchol i’ch gyrfa

Postiwyd ar: Ebrill 1, 2020
gan
Adding a new interest in computer science could directly benefit your career

Ceir dyfyniad enwog gan yr awdur ffuglen wyddonol Arthur C. Clarke sy’n nodi “y bydd unrhyw dechnoleg ddigon datblygedig yn ddiwahaniaeth o hud”. Mae’r syniad yma mor enwog, fe’i henwyd yn ‘Drydedd Deddf Clarke’ ac mae hynny i’w weld yn gwbl resymol; dychmygwch allu dangos holl alluoedd ffôn deallus, modern gyda galwadau diwifr, negeseua diwifr, ffotograffiaeth a fideo heb ffilm, teledu cludadwy a’r gallu i gywain gwybodaeth ar unrhyw bwnc mewn eiliadau i rywun yn y 1970au. Byddai’n gwbl anesboniadwy.

Dim hud, dim ond gwyddoniaeth

Wrth gwrs, gwyddom fod y gorchestion ‘hudol’ yma’n bosibl oherwydd gwyddor cyfrifiadur. Ar un adeg, roedd gwyddor cyfrifiadur ond o ddiddordeb i fathemategwyr a gwyddonwyr mewn labordai, bellach mae’n rhan hanfodol o fywyd pob dydd a dibynnwn ar wyddor cyfrifiadur ar sail barhaus bron.

Fodd bynnag, yr hyn sy’n ddiddorol yw bod yr ehangu yma ar wyddor cyfrifiadur wedi esblygu o’r hudol i’r cyffredin. Defnyddiwn gyfrifiaduron heb hyd yn oed sylweddoli hynny ac mae popeth o’n watshiau i’n hoergelloedd, hyd yn oed rheiddiaduron y tŷ – y mae modd eu dosbarthu bellach yn ddyfeisiadau deallus. Ni welwyd arafwch yn y camau mewn arloesed technolegol ac mae’r galw amdano yn cynyddu.

Mae’r wyddor angen cefnogaeth

Rydym y gynyddol yn defnyddio datrysiadau technegol a digidol ar gyfer problemau bob dydd tebyg i ‘botiau sgwrsio’, meddalwedd cyfieithu, a dyfeisiadau bio-fonitro ac mae’r galw am y sgiliau i gefnogi’r byd digidol enfawr yma’n tyfu’n gyflym. Mae busnesau sydd angen trawsffurfiad digidol angen pobl a chanddynt y cymwysterau gwyddor gyfrifiadurol, y sgiliau a’r wybodaeth i helpu eu cwmni lwyddo.

Mae llawer yn tybio bod angen diddordeb gydol oes mewn codio neu rwyddineb mewn sawl iaith rhaglennu, ond nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd. Nid oes angen i wyddor cyfrifiadur fod yn angerdd degawdau o hyd, ac nid oes angen i chi wybod hanes cyfrifiadura yn fanwl i’w deall; yn yr un modd â darllen llenyddiaeth fodern, nid oes angen i chi fod wedi darllen holl weithiau Shakespeare neu Charles Dickens, gellir astudio gwyddor cyfrifiadur modern heddiw heb fod angen yr wybodaeth gynhwysfawr am hanes cyfrifiadura.

Mae busnesau angen gwyddor cyfrifiadur

Mae dyhead anniwall busnesau a defnyddwyr am dechnoleg yn golygu fod cwmnïau’n ei chael hi’n anodd canfod pobl broffesiynol mewn gwyddor cyfrifiadur cymwys i fodloni eu gofynion; mae eu hangen heddiw yn fwy nag erioed, ac nid oes arwydd fod hynny’n arafu – i’r gwrthwyneb. Mae ymron i bob sector angen chwaneg o beirianwyr cyfrifiadur, rheolwyr TG, dadansoddwyr gwybodaeth ac arbenigwyr mewn diogelwch digidol ac ni fu’n amser gwell cael datblygu’r sgiliau i fabwysiadu un o’r rolau hyn.

Er mwyn helpu diwydiant i lenwi’r rolau hyn, mae Prifysgol Wrecsam Wrecsam yn cynnig Meistr mewn Gwyddor Cyfrifiadur 100% ar-lein. Cynlluniwyd y rhaglen ar gyfer y rheini hwyrach nad oes ganddynt gefndir mewn cyfrifiadura neu wyddor cyfrifiadur, ac sydd eisiau hogi eu sgiliau neu, hyd yn oed lansio gyrfa gwbl newydd mewn gwyddor cyfrifiadur. Darperir yr holl ddeunydd ar-lein, gall myfyrwyr astudio yn eu hamser sbâr a chadw eu rolau presennol, sy’n caniatáu iddynt allu ennill wrth ddysgu. Heb yr angen i gymryd toriad astudio drudfawr, mae rhywfaint o’r baich ariannol wedi ei ddileu, tra bod y dewis hefyd i dalu fesul modiwl a hyd yn oed wneud cais am fenthyciad gan y llywodraeth i dalu ffioedd y rhaglen.

Mae chwe dyddiad cychwyn gydol y flwyddyn, sy’n golygu nid oes rhaid i fyfyrwyr aros i fwrw ati a gall myfyrwyr roi’r hyn maent yn ei ddysgu ar waith yn y gweithle wrth fynd. Mae cysylltiadau rhagorol Prifysgol Wrecsam Wrecsam â busnesau a diwydiant yn gofalu bod myfyrwyr yn meddu’r sgiliau y mae busnes eu heisiau a’u hangen, gyda chymhwyster Meistr sy’n berthnasol ac uniongyrchol i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth a dechrau eich cais, cliciwch yma.