Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Dysg barhaus mewn gweithle newidiol

Postiwyd ar: Gorffennaf 22, 2019
gan
Continuous learning in a changing workplace

Mewn gweithleoedd heddiw, yr unig beth sy’n gyson yw newid. Mae technolegau aflonyddgar, amgylcheddau gwleidyddol newidiol ac amodau economaidd cyfnewidiol yn golygu mai wrth i ofynion sefydliad newid, mae gofyn i bobl newid hefyd. Mae angen i gwmni uchelgeisiol gyflogi unigolion hyblyg a brwdfrydig a all helpu’r busnes i barhau i arloesi wrth ddatblygu ei botensial ei hun.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu dysg ag addysg ffurfiol, dim ond un math o ddysgu yw ‘addysg ysgol’. Mae nifer o gyfleoedd eraill i ehangu’ch gwybodaeth a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch trwy gydol bywyd. Ar lefel bersonol, mae dysg barhaus yn ymwneud ag ehangu sgiliau a chyfuniad o sgiliau yn barhaus trwy ddysgu a chynyddu gwybodaeth. Ar lefel broffesiynol, mae dysg barhaus yn ymwneud ag ehangu eich cyfuniad o sgiliau i ymateb i amgylcheddau newidiol a datblygiadau newydd.

Mae dysg barhaus yn bwysig i:

  • Aros yn berthnasol

    Peidiwch â dod yn angof. Sicrhewch eich bod yn aros yn berthnasol i’ch diwydiant drwy fod yn gyfredol â thueddiadau ac addasu eich cyfuniad o sgiliau. Mae dysgu sgiliau newydd a deall sut mae’r byd sy’n newid yn gyflym yn effeithio ar fusnes yn hanfodol i gyflogadwyedd ac er mwyn cyfrannu at dwf elw busnes.
  • Galluogi ni i addasu i newid
    Gall y wybodaeth a enillwch drwy ddysgu sgiliau newydd neu gadw eich cyfuniad o sgiliau presennol yn gyfredol eich helpu chi i addasu i newidiadau annisgwyl, er enghraifft, symud ymlaen i dîm arall neu wneud addasiadau i brosiect sydd ar raddfa fawr. Mae dysg yn agor ein meddyliau i bosibiliadau a chyfleoedd newydd ac yn ein helpu ni i weld pethau o wahanol bersbectifau, ac yn aml yn ei gwneud hi’n haws i addasu i newid. Er enghraifft, gall ennill profiad o reoli adnoddau dynol wrth fod mewn rôl AD ein helpu ni i ddeall yr arferion cynllunio gweithlu a rhagweld cyflogau y mae’r timau ariannol yn nodweddiadol yn ymgymryd â nhw.
  • Rhoi hwb i’ch proffil a hyder
    Pan rydych yn dysgu’n barhaus, byddwch yn parhau i wella a thyfu yn eich gyrfa ac yn dechrau derbyn cydnabyddiaeth gan gydweithwyr a rheolwyr. Y tebyg yw y byddwch yn newid swyddi sawl gwaith yn ystod eich bywyd, a bydd angen i chi ddysgu sgiliau newydd i addasu yn unol â hynny. Yn ôl y GIG, mae dysgu pethau newydd yn rhoi teimlad i ni o lwyddiant, sydd yn ei dro yn hybu eich hyder a hunan-barch, ac mae’r ddau yn hanfodol i ddatblygu gyrfa.
  • Ysgogi syniadau newydd
    Nid yn unig gall ennill sgiliau newydd agor drysau at gyfleoedd newydd, ond gallai hefyd eich helpu chi i ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol i broblemau. Er enghraifft, gall deall mwy ynglŷn â sut mae darn penodol o feddalwedd yn gweithio wneud i chi weld sut gallai fod o fudd mewn adrannau eraill yn y busnes neu leihau seilos gwybodaeth. Yn aml, ysgogir syniadau am fentrau, busnesau newydd neu arloesedd blaenllaw mewn busnes wrth i chi ddysgu.
  • Datblygu sgiliau arwain
    Mae rhannu’r sgiliau newydd yr ydych wedi’u dysgu gyda chydweithwyr yn helpu i ddatblygu eich sgiliau arwain a chyfathrebu. Nid yn unig hynny, ond drwy ddod yn hyrwyddwr dysg barhaus, byddwch yn annog eraill i olrhain addysg bellach hefyd.
  • Creu diwylliant o ddysg barhaus
    Nid unigolion yn unig all elwa o ddysg gydol oes. Heddiw, mae nifer cynyddol o gwmnïau yn awyddus i fuddsoddi mewn cadw eu doniau – a datblygu eu cronfa ddoniau – felly maen nhw’n sicrhau bod eu cyflogeion yn derbyn hyfforddiant da a chyfredol gyda sgiliau perthnasol fel y gallant ymateb i anghenion y cwmni sy’n newid yn gyson. Mae cofleidio diwylliant o “fuddsoddi mewn pobl” hefyd yn datblygu ymdeimlad o ymddiriedaeth ac yn cadw cyflogeion wedi’u hymgysylltu ac yn llawn diddordeb gan fod sgiliau newydd yn cael eu hychwanegu at eu portffolio yn gyson. Heblaw am arbed arian, mae dysg barhaus yn ffordd i gwmni ddangos i’w gyflogeion ei fod yn werth buddsoddi ynddo.

Os yw parhau â’ch datblygiad proffesiynol yn rhywbeth sy’n apelio atoch chi, gall gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ar-lein Prifysgol Wrecsam fod y llwybr delfrydol i chi. Mae wedi’i dylunio i unigolion proffesiynol sydd â nodau uchelgeisiol sy’n awyddus i droedio’r llwybr carlam yn eu gyrfa drwy ennill dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arweinyddiaeth. Mae’n ymdrin â’r prif ddisgyblaethau mewn busnes gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, datblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol – gan eich addysgu chi sut i feddwl yn feirniadol, cynllunio’n effeithiol a rhoi cynlluniau strategol ar waith i gael yr effaith fwyaf.

Mae’r cwricwlwm 100% ar-lein wedi’i ddylunio i’ch galluogi chi i astudio ar eich liwt eich hun, ac ar eich telerau chi. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau o benderfynu cofrestru. Mae opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost y rhaglen lawn i’r rheiny sy’n gymwys, ac mae ein perthnasoedd cryfion gyda chyflogwyr mawrion yn cyfrannu at gynnwys y rhaglen ac wedi helpu i lywio MBA sydd wedi’i strwythuro i gyfoethogi gyrfaoedd ar draws ystod eang o ddiwydiannau.

I gael gwybod mwy, neu i wneud cais, ewch i https://online.wrexham.ac.uk/mba/