Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Amdanom ni

Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

A young female student sitting at the table, using tablet when studying.

Prifysgol yn y DU sy'n canolbwyntio ar yrfa

Mae Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn rhan o Brifysgol Wrecsam, sefydliad bywiog a chyfeillgar lle rhoddir sylw personol i ddysgu, potensial a dyfodol pob myfyriwr.

Ein cysylltiadau

Mae cyrsiau sydd wedi’u harwain gan ddiwydiant wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei gynnig. Rydym yn ymfalchïo yn ein cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol megis Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC. Mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn bwydo i mewn i’n cyrsiau, sy’n sicrhau bod gan ein myfyrwyr y sgiliau mwyaf perthnasol ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol.

Pam astudio un o’n rhaglenni gradd ar-lein?

Mae ein rhaglenni gradd, sy’n cael eu cyflwyno yn gyfan gwbl ar-lein yn cynnig llawer iawn o hyblygrwydd. Chi sy’n penderfynu ble ydych yn astudio, pryd ydych yn astudio a sut ydych yn astudio. Mae ein rhaglen hyblyg yn golygu y gallwch astudio ar eich telerau chi, yn eich amser eich hun.

Manteision Allweddol:

  1. Rhaglenni gradd 100% ar-lein
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn
  6. Ail yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu*
    *Canllaw Prifysgolion Da'r Times a'r Sunday Times 2022