Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Deall a rheoli newid

Postiwyd ar: Mai 16, 2019
gan
Understanding and managing change

Yn sefydliadau yr oes sydd ohoni, nid yw cyfradd newid erioed wedi bod mor sydyn na chyson. Ond tra bod newid yn hanfodol er llwyddiant busnesau, mae astudiaethau diweddar yn dangos bod dros ddau draean o drawsffurfiadau yn methu. Mae’r blociau cwympo yn cynnwys gwrthwynebedd cyflogeion, methu paratoi’n ddigonol a chamgyfleu.

Boed y newid yn un bach, megis gweithredu system newydd, neu un llawer mwy megis cymryd drosodd cwmni, mae’r ffordd y mae’n cael ei reoli yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w lwyddiant. Yn ffodus, mae ein gallu cynyddol i gydosod a dadansoddi nifer fawr o ddata yn sydyn yn golygu y gallwn ragweld a rheoli’r risgiau sydd ynghlwm â newid yn well. Yn ôl ymchwil<, mae oddeutu 65% o fentrau newid corfforaethol yn gofyn newid ymddygiadol sylweddol ar ran cyflogeion; os nad yw ymddygiad unigolion yn newid, ni fydd y sefydliad yn newid ychwaith.

Mae angen cyflwyno newid yn ofalus, yn sensitif ac ar y cyd. Dylai cwmnïau edrych ar ddefnyddio dull gweithredu systematig, blaenweithgar sy’n cyfathrebu beth sy’n digwydd yn glir, yn ymgysylltu cyflogeion, goresgyn gwrthwynebiad ac yn gweithredu’r newid mewn camau:

  1. Cyfathrebu newid
    Gall methu â dweud wrth gyflogeion ymlaen llaw am newidiadau sefydliadol gynyddu camymddygiad ymysg cyflogeion o 42%. Fodd bynnag, mae cyfathrebu’n effeithiol yn ystod cyfnodau o straen yn eithaf gwahanol i ddiweddariadau cyfnodol am y cwmni; er enghraifft, pan fo pobl yn teimlo’n ddryslyd, maent yn colli, ar gyfartaledd, 80% o’u gallu i brosesu gwybodaeth. Felly mae bod yn glir, cyson ac eglur yn hanfodol, yn enwedig o ran amserlenni a chyfrifoldebau. Byddwch yn bwysleisiol a defnyddiwch ddulliau cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol, cynigiwch gyfleoedd i gyflogeion gynnig adborth yn ôl, archwiliwch y sefyllfaoedd gwaethaf posibl ac yna datblygwch strategaethau i fynd i’r afael â nhw. >
  2. Ymgysylltu cyflogeion
    Mae cyflogeion ymgysylltiedig yn fwy tebygol o roi’r ymdrech sydd ei angen i helpu gweithredu’r newid a sicrhau canlyniad cadarnhaol. Gallwch helpu i roi hwb i lefelau uchel o ymgysylltiad â chyflogeion drwy ddatblygu dull gweithredu tîm sy’n cynnwys persbectifau cyflogeion o amrywiaeth o adrannau a lefelau. Neilltuwch ac eglurwch rolau a chyfrifoldebau, cynyddwch eich ffocws ar y gweithwyr hynny a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newid ac ystyriwch y ffactorau cymhelliant gwahanol i bob cyflogai.
  3. Goresgyn gwrthwynebiad
    Er bod gwrthwynebiad cyflogeion yn ymateb naturiol i newidiadau sefydliadol eang, gallwch ei oresgyn drwy gyfathrebu’n glir ac yn gyson am y newid ymhell ymlaen llaw. Mae hyn yn helpu cyflogeion i ddeall yn well yr angen am y newid a’r rhesymeg y tu ôl i’r newidiadau, yn ogystal ag arddangos y ffyrdd gall newid effeithio arnynt. Darparwch gefnogaeth gref i’r amgylchedd newidiol, megis yr hyfforddiant a’r wybodaeth sydd eu hangen ar reolwyr i ateb cwestiynau gan gyflogeion. Ystyriwch gynnwys arweinwyr gwrthwynebu (uwch arweinwyr neu reolwyr canol ar y rheng flaen, a all weld gwrthwynebiad yng nghyflogeion a chymryd camau i’w drechu) yn y broses o newid i helpu goresgyn perswâd i fynd yn ôl gan gyflogeion eraill.
  4. Gweithredu newid mewn camau
    I newidiadau mawrion, gall dull gweithredu mewn camau helpu i sicrhau bod y trawsnewidiad i system neu broses newydd mor esmwyth a didrafferth â phosibl. Cymerwch gamau megis diffinio eich strategaeth rheoli newid, datblygwch eich tîm rheoli newid ac amlinellwch y prif rolau. Rheolwch y newid drwy greu a gweithredu cynlluniau rheoli newid sy’n cynnwys cyfathrebiadau, gweithredoedd a rheoli gwrthwynebu, ac atgyfnerthu’r newid drwy gasglu a dadansoddi adborth ac yna gweithredu gweithredoedd cywirol lle bo angen.

Gyda newid yn dod yr arferol newydd, rhaid i reolwyr ddysgu sut i’w reoli’n effeithiol, yn enwedig gan nad sefydliadau sy’n hwyluso newid, ond y bobl sydd oddi fewn iddynt.

Os hoffech ennill ddealltwriaeth ddyfnach o newid sefydliadol, mae gradd Meistr Prifysgol Wrecsam mewn Gweinyddiaeth Busnes a Rheolaeth Adnoddau Dynol sydd 100% ar-lein wedi’i dylunio i’r rheiny sydd â dyheadau i fynd ymlaen i lefel swyddog gweithredol i ddechrau eu busnes ei hunain. Gyda ffocws ar y sgiliau allweddol sy’n ofynnol i weithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol llwyddiannus, mae’r rhaglen yn cwmpasu datblygu talent, rheoli gwobrwyo, darparu adnoddau a fframweithiau Adnoddau Dynol strategol yn ogystal â chyllid, strategaeth a marchnata – gan ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth busnes ymarferol a damcaniaethol. Gyda chwe dyddiad dechrau bob blwyddyn, gallwch ddechrau astudio pryd bynnag y byddwch yn barod a chwblhau’r rhaglen ymhen dwy flynedd. Mae yna opsiynau talu hyblyg a benthyciadau ôl-raddedig gan y llywodraeth i dalu am gost lawn y rhaglen, i’r rheiny sy’n gymwys.

I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk/mba-hrm/