Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Cyrsiau Meistr Gweinyddu Busnes (MBA) – llwybr gwych i entrepreneuriaeth

Postiwyd ar: Ebrill 11, 2019
gan
MBA’s - a great route to entrepreneurship

Mae dros 99% o fusnesau yn y DU yn BBaChau – busnesau bach i ganolig gydag o dan 250 o weithwyr. Yn annisgwyl, caiff 96% o’r busnesau hynny eu hystyried fel ‘micro’, sy’n golygu eu bod yn cyflogi llai na naw o bobl. Mae’r dirwedd busnesau bach wedi newid yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, gyda mwy a mwy o bobl yn ‘mentro ar eu pennau eu hunain’ ac yn dechrau eu cwmnïau eu hunain. P’un a ydych eisoes wedi cymryd y camau cyntaf tuag at sefydlu eich busnes eich hun, mae gennych syniad busnes gwych neu’n gwybod eich bod eisiau bod yn fos arnoch chi’ch hun, gallai astudio am MBA fod yn ddewis doeth.

Er efallai fod gennych ddealltwriaeth dda o’ch syniad busnes ac efallai o’r maes y mae’n gysylltiedig ag ef, nid yw hynny ar ei ben ei hun yn ddigon i adeiladu sefydliad llwyddiannus. Mae entrepreneuriaeth yn mynnu llu o alluoedd eraill, sy’n hanfodol i lwyddiant.

Ehangu eich set sgiliau

Mae MBA yn ymdrin ag ystod eang o sgiliau busnes, gan lenwi bylchau hanfodol yn eich set sgiliau a rhoi sylfaen gadarn o ddealltwriaeth busnes i chi, y gallwch ei defnyddio i adeiladu cwmni llwyddiannus. Mae modiwlau yn amrywio o gwrs i gwrs, ond mae sawl pwnc craidd megis marchnata, cyllid, adnoddau dynol, cynllunio a strategaeth a chadw cwsmeriaid, y mae rhan fwyaf o’r cyrsiau yn ymdrin â nhw.

Bydd meithrin gwybodaeth ehangach am weithrediadau, heriau a strategaethau busnes yn eich helpu i gynllunio eich busnes eich hun, waeth pa gam twf y mae eich busnes arno ar hyn o bryd. Er enghraifft, gall meithrin gwybodaeth am strategaethau prisio eich ysgogi i ailystyried y dull yr oeddech wedi ei ystyried yn wreiddiol.

Adeiladu cysylltiadau hanfodol

Er, nid yw’r cyfan am feithrin sgiliau cryf; mae gan nifer o brifysgolion sy’n cynnig cyrsiau MBA gysylltiadau gwych â busnesau lleol, corfforaethau mawr a chyn-weithwyr sydd wedi mynd ymlaen i lwyddiannau pellach. Gall y cysylltiadau a wneir wrth astudio, ddarparu rhwydwaith proffesiynol gwerthfawr, gan gynnig cyfleoedd rhwydweithio lle gallwch gael cymorth, clust i wrando ar eich syniadau, gofyn am gymorth a chyngor, a hyd yn oed cwrdd â buddsoddwyr neu bartneriaid busnes y dyfodol.

Twf personol

Yn ogystal â rhoi cysylltiadau a sgiliau proffesiynol hanfodol i chi, bydd MBA hefyd yn rhoi cyfle i chi dyfu fel unigolyn. Gyda swydd lawn amser, ymrwymiadau teulu, diddordebau a rhwymedigaethau eraill, gall bywyd fod yn brysur iawn ac nid yw buddsoddi ynoch chi’ch hun a’ch datblygiad personol a phroffesiynol bob amser yn bosibl. Yn ogystal ag ehangu eich set sgiliau, gall cymryd yr amser i astudio, roi gwybodaeth werthfawr i chi am eich ffordd o weithio, moesau busnes a’ch nodau gyrfa, a gall atgyfnerthu’r pwysigrwydd o gredu’n barhaus yn eich gallu a’ch syniadau.

Dull hyblyg

Mae cyrsiau MBA ar-lein newydd Prifysgol Wrecsam yn ddelfrydol i’r rhai hynny â dyheadau entrepreneuraidd nad ydynt yn gallu ymrwymo i astudio ar y campws. Caiff y cyrsiau eu darparu ar-lein 100%, gyda’r holl gynnwys ar gael i’w astudio oddi ar amrywiaeth o ddyfeisiau, fel y gallwch ddewis amser astudio sy’n gyfleus i chi ac astudio yn unrhyw le. Mae opsiynau i arbenigo mewn Marchnata a Rheoli Adnoddau Dynol, fel y gallwch ddewis pa gwrs fydd yn eich paratoi orau ar gyfer llwyddiant ar eich llwybr gyrfa. Mae dewis o ddyddiadau dechrau drwy gydol y flwyddyn ac opsiwn i dalu fesul modiwl, felly nid oes rhaid talu symiau mawr o arian ymlaen llaw. Gall myfyrwyr hefyd fod yn gymwys am fenthyciad ôl-raddedig a gefnogir gan y llywodraeth, a fyddai’n talu holl gostau’r cwrs.

Waeth lle ydych ar y daith i ddechrau eich busnes eich hun a dod yn entrepreneur, gall yr MBA cywir roi sgiliau, cysylltiadau a hyder i chi fynd ag ef i’r lefel nesaf.

Mae ceisiadau yn awr ar agor. I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk