Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio

Postiwyd ar: Mai 10, 2022
gan
Hands on a laptop keyboard with hologram depicting blockchain above

Ar y cychwyn, y perygl yw y bydd cryptoarian yn drysu pobl yn lân; ond yn y bôn, math o arian digidol, datganoledig ydyw.

Gan mai arian digidol ydyw, mae’r holl drafodiadau’n digwydd ar-lein yn hytrach nag ar ffurf papurau a darnau arian go iawn. Caiff cronfeydd, neu asedau digidol, eu storio mewn waledi digidol a chyfriflyfrau cyhoeddus, a thrwy weithredu system ‘cymheiriad i gymheiriad’ gall unrhyw un, yn unrhyw le, anfon a derbyn taliadau cryptoarian.

Beth sy’n wahanol ynglŷn â chryptoarian?

Wrth gymharu cryptoarian ag arian traddodiadol, fel y bunt Brydeinig neu ddoler yr Unol Daleithiau, mae yna rai pethau hollbwysig i’w cadw mewn cof:

Amgryptio

Mae math unigryw o amgryptio yn sail i gryptoarian – neu ‘grypto’, fel y’i gelwir. Mae cryptoarian yn gwbl ddatganoledig, felly nid yw’n dibynnu ar fanc canolog nac ar awdurdodau eraill i ddilysu trafodiadau. Yn hytrach, caiff trafodiadau eu dilysu trwy ddefnyddio technegau amgryptio cryptoarian, o’r enw cryptograffeg – mae’r technegau hyn yn atal ffug ddarnau arian crypto, yn atal gwario ddwywaith, neu’n atal camddefnydd neu ymyrraeth o fath arall.

Technoleg cadwyn floc

Mae cryptoarian yn ddibynnol ar gadwyn floc, sef cronfa ddata electronig lle cedwir toreth o wybodaeth mewn grwpiau a elwir yn flociau. Caiff y blociau hyn eu dosbarthu ar draws amryfal gyfrifiaduron, a elwir yn gyfriflyfrau gwasgaredig, ac ar ôl i ryw floc gyrraedd ei derfyn storio, caiff ei gysylltu – neu ei ‘gadwyno’ – â bloc arall. Yna, mae’r broses yn ailddechrau gyda bloc newydd.

Y dechnoleg hon yw asgwrn cefn cryptoarian. Caiff cronfeydd a chofnodion trafodiadau cryptoarian ac ati eu rhannu ar draws cyfriflyfrau cyhoeddus gwasgaredig, ac yna mae’r gadwyn floc yn eu gwneud yn fwy digyfnewid, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel.

Mae hi’n bwysig cofio mai math arbennig o gyfriflyfr gwasgaredig yw cadwyn floc – nid yw’r ddwy elfen yn gyfystyr â’i gilydd. Felly, tra mae cadwyn floc yn fath arbennig o gyfriflyfr gwasgaredig, nid yw cyfriflyfr gwasgaredig yn gadwyn floc. Yn yr un modd, mae cryptoarian a chadwyn floc yn wahanol i’w gilydd. Er bod cryptoarian yn dibynnu ar dechnoleg cadwyn floc, gall cadwyn floc gynnal amrywiaeth enfawr o dechnolegau yn ychwanegol at gryptoarian.

Cloddio

Caiff unedau ariannol cryptoarian – sef darnau arian crypto – eu creu a’u dosbarthu gan broses a elwir yn ‘gloddio’. Mae cryptogloddio yn broses sy’n mynd ati mewn modd effeithiol i gynnal a diogelu’r cryptoarian ei hun: mae cloddwyr yn dilysu trafodiadau, yn eu hychwanegu at gyfriflyfrau gwasgaredig y gadwyn floc, yn diweddaru cyfriflyfrau gwasgaredig y gadwyn floc, ac yn diogelu rhag camddefnydd, gwario ddwywaith ac ati.

Er mwyn gwneud hyn, rhaid cael caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol soffistigedig a all ddatrys hafaliadau mathemategol cryptograffig. Er mwyn cymell cloddwyr, caiff darnau arian crypto eu cynhyrchu pa bryd bynnag y caiff un o’r hafaliadau hyn eu datrys, ac yna caiff y darnau hyn eu rhoi fel ‘gwobr’ i’r datryswr. Yna, bydd y broses yn ailddechrau eto, gyda’r cloddwyr am y cyntaf i ddatrys yr hafaliad nesaf.

Rhywbeth sy’n gwbl allweddol i’r gwaith hwn yw’r mecanweithiau consensws sy’n dilysu trafodiadau, yn eu hychwanegu at y gadwyn floc ac yn creu tocynnau newydd. Y ddau fecanwaith consensws mwyaf yw ‘prawf o waith’ a ‘dilysu buddsoddiad’. Bydd ‘prawf o waith’ yn gwobrwyo unrhyw gloddiwr â chryptoarian, tra mae ‘dilysu buddsoddiad’ dipyn yn fwy cymhleth. Yn gyffredinol, mae ‘dilysu buddsoddiad’ yn defnyddio rhwydwaith o ddilyswyr sy’n mentro eu cryptoarian eu hunain ar y cyfle i ddiweddaru’r gadwyn floc. Bydd y cyfranogwr uchaf ei fuddsoddiad yn cael ei ddewis gan y rhwydwaith i ddilysu’r bloc diweddaraf o drafodiadau, a bydd modd i ddilyswyr eraill gadarnhau cywirdeb y bloc. Ar ôl diweddaru’r gadwyn floc, bydd yr holl gyfranogwyr yn cael eu gwobrwyo yn gymesur â’u menter.

Prynu, storio a gwario crypto

Mae cloddio yn un ffordd o ennill darnau arian crypto, ond mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio cryptoarian yn tueddu i’w brynu gan gyfnewidfeydd cryptoarian, yn ogystal â chan froceriaid mwy traddodiadol, gan ddefnyddio arian Fiat, fel y bunt Brydeinig. Mae yna amrywiaeth o gyfnewidfeydd cryptoarian i’w cael ac mae pob un ohonynt yn cynnig gwahanol fathau o arian, gwahanol opsiynau ar gyfer storio mewn waledi, gwahanol gyfraddau llog a gwahanol opsiynau prynu, ac fel arfer maent yn codi tâl. Yn gyffredinol, mae broceriaid traddodiadol yn codi ffioedd masnachu is, ond nid ydynt yn cynnig cynifer o nodweddion crypto.

Gellir prynu cryptoarian gyda chardiau debyd neu gredyd, neu trwy ddefnyddio platfformau fel PayPal neu Venmo. Ar ôl prynu cryptoarian, fel arfer caiff ei storio a’i wario trwy ddefnyddio waledi cryptograffig, a gellir ei ddefnyddio ar nifer fechan o safleoedd technoleg a safleoedd e-fasnachu (er, mae nifer y safleoedd hyn yn cynyddu). Hefyd, ceir enghreifftiau o fanwerthwyr eitemau moethus, gwerthwyr ceir a darparwyr yswiriant yn derbyn tâl ar ffurf cryptoarian.

Os byddwch yn buddsoddi mewn cryptoarian, efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi ddefnyddio offer fel CoinMarketCap i olrhain prisiau cryptoasedau, yn ogystal ag olrhain gwerth cyfalafiad y farchnad – a elwir yn ‘market cap’. Cyfalafiad y farchnad yw cyfanswm gwerth yr holl ddarnau arian a gloddiwyd o fewn y cryptoarian.

Mathau o gryptoarian

Bitcoin, a elwir hefyd yn BTC, oedd y cryptoarian cyntaf, a dyma’r un y mae pobl yn dal i fod yn fwyaf cyfarwydd ag ef. Paratôdd Bitcoin y ffordd ar gyfer y diwydiant ac ar gyfer technoleg cadwyn floc, a dyma’r enw mwyaf yn y farchnad cryptoarian o hyd. Fe’i lansiwyd yn 2009; ni wyddys pwy a’i dyfeisiodd, ond mae wedi cael ei gysylltu â’r enw Satoshi Nakamoto, sef ffugenw fe dybir.

Ar ôl i Bitcoin gael ei ryddhau, ymddangosodd sawl math arall o gryptoarian ar y farchnad. Gelwir y mathau hyn o gryptoarian yn ‘ddarnau arian amgen’, neu’n ‘altcoins’ – sef unrhyw gryptoarian ac eithrio Bitcoin – ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • Ether, neu ETH, sydd hefyd wedi datblygu ei gadwyn floc ei hun, o’r enw Ethereum. Mae Ethereum yn gartref i’r rhan fwyaf o docynnau anghyfnewidadwy (NFTs) sydd ar y farchnad, ef sydd â’r gryptoecosystem fwyaf, ac mae wedi datblygu protocolau cyllid datganoledig (DeFi) hynod boblogaidd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau ariannol.
  • ADA, cryptoarian mewnol ar gyfer y gadwyn floc Cardano.
  • Dogcoin, neu DOGE; ystyrir mai dyma ddarn arian ‘memyn’ cyntaf y byd oherwydd ei gysylltiad â’r memyn ci doge/shiba inu. Mae hyd yn oed wedi ysbrydoli cryptoarian amgen seiliedig ar Ethereum, sef Shiba Inu (neu SHIB).
  • XRP, a lansiwyd gan Ripple Labs, Inc., sef y sefydliad a ddatblygodd brotocol talu Ripple.
  • Binance Coin (BNB), sef y cryptoarian a gyhoeddwyd gan Binance Exchange, y gyfnewidfa fwyaf yn y byd ar gyfer cryptoarian.
  • Tether, neu USDT, sef cryptoarian sy’n ymddangos ar nifer o gadwynau bloc, yn cynnwys cadwynau bloc Ethereum a Bitcoin.
  • Litecoin, un o’r darnau arian amgen cyntaf a oedd ar gael ar y farchnad cryptoarian.
  • SOL, sy’n defnyddio’r gadwyn floc Solana.
  • DOT, sy’n defnyddio’r gadwyn floc Polkadot.
  • Monero; mae hwn yn defnyddio protocol ffynhonnell agored sy’n gwella preifatrwydd er mwyn helpu i guddio trafodiadau a sicrhau anhysbysrwydd.
  • Bitcoin Cash, neu BCH, sef cangen o Bitcoin. Cangen arall yw Bitcoin Gold.

Heriau’n ymwneud â chryptoarian

Mae cryptoarian, ynghyd â’r dechnoleg cadwyn floc sy’n sail iddo, yn llwyddiannau technolegol anhygoel, ond mae rhai anfanteision yn perthyn iddynt.

Mae’r heriau’n cynnwys:

  • Prisiau anwadal. Mae prisiau cryptoarian yn anodd eu rhagweld a gallant amrywio’n fawr.
  • Mae cryptoarian yn defnyddio llawer o ynni. Mae gweithgareddau cloddio yn drwm iawn ar drydan, gan gynhyrchu ôl troed carbon a all fod yn anghynaliadwy.
  • Camddefnydd troseddol. Gan na chaiff cryptoarian ei reoleiddio gan ddulliau traddodiadol, mae yna enghreifftiau lle defnyddir cryptoarian ar gyfer twyll neu drafodiadau anghyfreithlon. Un enghraifft yw cynnig darn arian cychwynnol. Mae cynnig darn arian cychwynnol (ICO) yn debyg i gynnig cyhoeddus cychwynnol (IPO), ac fel arfer caiff ei ddefnyddio fel ffordd o godi arian ar gyfer menter cryptoarian newydd. Fodd bynnag, gan na chaiff cynigion o’r fath eu rheoleiddio, mae nifer o fuddsoddwyr wedi cael eu twyllo i gyfrannu llawer o arian at gryptoarian ffug.

Trwy fynd i’r afael â’r heriau hyn, gellir gwneud cryptoarian yn fwy derbyniol a chynaliadwy – ar sawl lefel – ac mae’n werth nodi bod atebion eisoes ar waith. Un ateb yw cyflwyno darnau arian sefydlog, neu ‘stablecoins’, sef mathau o gryptoarian sydd ynghlwm wrth asedau mwy confensiynol, fel arian Fiat, er mwyn helpu i sefydlogi prisiau. Er enghraifft, mae USD Coin yn ddarn arian sefydlog a gysylltir â doler yr Unol Daleithiau.

Datgelu ffyrdd newydd o ddefnyddio cadwynau bloc a chryptoarian

Mae cryptoarian yn gwneud cryn ddefnydd o gadwynau bloc; ond mae yna botensial i ddefnyddio technoleg cadwyn floc at sawl diben arall. Er enghraifft, caiff contractau clyfar eu rhedeg ar dechnoleg cadwyn floc, a gallant awtomeiddio a datganoli unrhyw gytundeb neu drafodiad mewn modd diogel a dibynadwy – nid cytundebau a thrafodiadau ariannol yn unig. Gellir eu defnyddio ar gyfer cofnodion iechyd, a systemau pleidleisio hyd yn oed.

Mae yna bosibiliadau datblygu enfawr yn perthyn i’r technolegau hyn, a bydd modd i’r cwrs MSc Cyfrifiadureg yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru – sef cwrs a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein – eich helpu i greu dyfodol i chi eich hun yn y maes. Mae’r radd Meistr hyblyg hon yn canolbwyntio ar y byd go iawn. Caiff y cwrs ei ddysgu ar sail ran-amser, felly gallwch astudio o gwmpas eich ymrwymiadau presennol ac ennill arian tra byddwch yn dysgu.