Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Cadw cwsmeriaid yn yr oes ddigidol

Postiwyd ar: Ebrill 11, 2019
gan
Retaining customers in the digital age

Er bod technoleg – o gyfryngau cymdeithasol i ffonau symudol – wedi sicrhau chwarae teg i bawb wrth farchnata a chaniatáu i sefydliadau bach a mawr i farchnata eu cynnyrch ar raddfa fawr mewn ffyrdd effeithlon a dargedir, mae hefyd wedi cyflwyno rhai heriau. Yn yr oes cyn cyfryngau cymdeithasol, byddai cwsmer anfodlon yn dweud wrth ei ffrindiau a’i deulu, nawr gall cwsmer anhapus gyrraedd miloedd o bobl bron ar unwaith a gall pawb sy’n chwilio am y busnes hwnnw ar-lein weld ei brofiad.

Defnyddio technoleg er eich mantais

Gellir defnyddio technoleg yn effeithiol iawn pan mae hi’n dod i fodloni a chadw cwsmeriaid, wedi dweud hynny. Gall gwefannau adolygu fel TripAdvisor a llwyfannau fel Twitter neu Facebook roi trosolwg eang, heb ei hidlo o deimladau eich cwsmeriaid am eich cwmni a’ch cynnyrch. Gall weithredu fel ymchwil i’r farchnad hanfodol (ac am ddim) a phan gaiff ei fonitro a’i ddefnyddio’n briodol gall ddylanwadu’n gadarnhaol ar gynlluniau twf cwsmeriaid.

Bydd gwrando ar awgrymiadau cwsmeriaid, ateb yn gyhoeddus ac yn dryloyw i ymholiadau a chwynion, dangos gwerthfawrogiad a gwobrwyo cwsmeriaid teyrngar i gyd yn cyfrannu at wneud iddynt deimlo eu bod yn rhan o’r busnes. Gall adeiladu cynulleidfa gwlt, wedi ei hymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n meithrin teyrngarwch cwsmeriaid gael dylanwad cadarnhaol iawn ar gwsmeriaid (darpar neu gyfredol) eraill hefyd.

Mynd i’r afael â thuedd bodau dynol

Yn fwy aml na pheidio, bydd yr adborth a gewch gan gwsmeriaid, drwy ba bynnag gyfrwng, yn tueddu i fod yn negyddol. Mae pobl sy’n cael profiad negyddol yn teimlo’n fwy tueddol o fod eisiau ei rannu neu gwyno na’r rhai hynny sy’n cael profiad cadarnhaol. Er, nid yw hynny’n golygu y dylid anwybyddu’r rhai hynny sydd wedi cael profiad da gyda chi. Golyga annog adolygiadau cadarnhaol fod darpar gwsmeriaid pan fyddant yn chwilio amdanoch, yn gweld trosolwg cytbwys o deimladau pobl am eich busnes, gan roi trosolwg i eraill o sut beth yw bod yn rhan ohono.

Mae’r holl ystyriaethau hyn yn hanfodol i fusnesau, er mwyn tyfu a chadw cwsmeriaid, ac yn ei dro cynyddu elw hefyd. Dyna pam fod busnesau angen gweithwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth i ddeall yn feirniadol y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad cwsmeriaid ac sy’n sail i gymhelliant defnyddwyr a pherthnasoedd â chwsmeriaid. Addysgir y sgiliau hanfodol hyn ar raglen MBA ar-lein Prifysgol Wrecsam Wrecsam, gan roi’r arfau i unigolion uchelgeisiol, sydd â’u ffocws ar yrfa, i’w helpu i fynd â busnesau i’r lefel nesaf.

Yn ogystal ag ymdrin â pharhad a thwf cwsmeriaid, bydd myfyrwyr yn ymdrin â phynciau fel marchnata, adnoddau dynol a chyllid, gan roi dealltwriaeth helaeth o fusnes iddynt a’u galluogi i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfa.

Mae’r cwrs MBA ar-lein 100% wedi ei ddylunio i fod yn hyblyg, gan ganiatáu i’r rhai hynny nad ydynt o bosibl yn gallu astudio yn y fformat traddodiadol ar y campws, y cyfle i ennill cymhwyster wrth ei drefnu o amgylch eu hamserlenni prysur ac ymrwymiadau teulu. Nid oes rhaid mynychu’r campws, gan fod pob modiwl yn cael eu darparu ar-lein 100% ac mae dewis o ddyddiadau dechrau hefyd felly gallwch ddechrau astudio pryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Mae opsiwn hefyd i dalu fesul modiwl, fel y gellir lledaenu’r gost dros gyfnod yr astudio.

Mae ceisiadau yn awr ar agor. I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i: https://online.wrexham.ac.uk