Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Buddsoddi yn eich dyfodol gydag MBA

Postiwyd ar: Mawrth 14, 2019
gan
Investing in your future with an MBA

Pa un a ydych yn awyddus i gyflymu eich gyrfa neu’n dymuno cychwyn eich casgliad eich hun o fusnesau, yn ôl pob tebyg fe fyddwch wedi ystyried MBA (Meistr mewn Gweinyddu Busnes) sawl gwaith. Yn aml cânt eu diystyru oherwydd y gost, ond bydd y sgiliau y gallwch eu hennill trwy ddilyn MBA yn talu amdanynt eu hunain yn rhwydd dros amser.

Mae’r rhyngrwyd a datblygiadau mewn technoleg wedi arwain at don o fusnesau newydd, gan baratoi’r ffordd ar gyfer mwy o swyddi gweithredol, ynghyd â’r angen i weithwyr fod â dealltwriaeth ehangach o lawer o fusnes, yn hytrach nag arbenigo yn eu maes arbennig eu hunain yn unig.

Buddsoddiad ar gyfer y dyfodol

Mae cymwysterau MBA yn rhai uchel iawn eu bri, a chânt eu cydnabod a’u parchu’n fawr gan fusnesau ar draws y byd i gyd, gan alluogi’r myfyrwyr i gychwyn ar yrfa neu gyflymu eu gyrfa mewn amrywiaeth eang o sectorau yn y farchnad fyd-eang. Yn aml, mae gan brifysgolion sy’n cynnig cyrsiau MBA gysylltiadau agos â diwydiant, gan roi cyfle i’r myfyrwyr gael gafael ar wybodaeth ac arbenigedd ymarferol yn ymwneud â busnes a chreu cysylltiadau defnyddiol ar gyfer y dyfodol.

Yn ddi-os, gall y sgiliau a’r profiad a enillir trwy ddilyn MBA gyflymu eich gyrfa. Ar ôl graddio, gall myfyrwyr ddisgwyl gweld cynnydd o oddeutu 35-45% yn eu cyflog, a bydd y ffigwr hwn yn cynyddu mwy fyth ar ôl pum mlynedd, gyda chynnydd o 55-65% ar gyfartaledd.

Ochr yn ochr â chyflog, mae llwybr gyrfa newydd yn rheswm hollbwysig pam y mae pobl yn dewis astudio am y cymhwyster hwn. Mae llawer yn awyddus i newid cyfeiriad a mentro i feysydd fel marchnata, adnoddau dynol neu wasanaethau ymgynghori busnes; ond mae yna lu o ddewisiadau eraill hefyd, ar wahân i’r rhain. Yn syml, mae rhai pobl yn dymuno camu ymlaen yn eu maes presennol, gan anelu at gyrraedd y bwrdd, ac yn dymuno ennill y sgiliau busnes sy’n hanfodol i ddringo’r ysgol, tra y mae eraill yn awyddus i gychwyn eu busnes eu hunain.

Y sgiliau i lwyddo

Mae cyrsiau MBA yn dysgu sgiliau arwain, sgiliau rheoli a sgiliau busnes cyffredinol, ynghyd â llu o ddisgyblaethau cyfredol sy’n newid yn aml er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â gofynion esblygol byd busnes. Er enghraifft, mae nifer o raglenni MBA erbyn hyn yn archwilio’r berthynas sydd gan fusnesau â’r amgylchedd, ar adeg pan mae defnyddwyr yn gwneud penderfyniadau ymwybodol i ddewis cwmnïau y mae eu moeseg a’u cymwysterau ‘gwyrdd’ yn cyd-fynd â’u rhai hwy eu hunain.

Gall y sgiliau eraill a ddysgir ar gyrsiau MBA gynnwys datblygu strategol, dealltwriaeth ariannol, arloesi a rheoli pobl; pob un yn hanfodol ar gyfer deall sut y mae busnesau’n gweithio ac yn llwyddo, ond hefyd o ran grymuso unigolion i roi newidiadau cadarnhaol ar waith o fewn eu sefydliadau.

Dysgu hyblyg

Erbyn hyn mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig cyrsiau MBA ar-lein, sy’n berffaith i’r rhai na allant astudio yn y dull traddodiadol ar y campws. Cyflwynir deunyddiau’r cwrs ar-lein, felly gallwch astudio ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi, ar amrywiaeth o ddyfeisiadau. Golyga hyn na fydd yn rhaid ichi gymryd seibiant yn eich gyrfa. Gallwch ennill cyflog wrth ichi ddysgu a threfnu eich astudiaeth o gwmpas ymrwymiadau teuluol ac ymrwymiadau eraill.

Ceir dewisiadau i arbenigo mewn Marchnata neu Adnoddau Dynol, a bydd cynllun hyblyg y cwrs yn sicrhau y bydd amrywiaeth o ddyddiadau cychwyn ar gael ichi drwy gydol y flwyddyn, felly gallwch ddechrau astudio pan fydd hynny’n gyfleus i chi. Ymhellach, mae’r dewis i ‘dalu fesul modiwl’ ar gael, sy’n golygu na fydd angen ichi dalu costau mawr ymlaen llaw. Hefyd, efallai y byddwch yn gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig a gefnogir gan lywodraeth y DU, a allai dalu am holl gostau’r rhaglen.

Beth am gael mwy o wybodaeth a chychwyn eich cais