Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw ymarfer myfyriol?

Postiwyd ar: Gorffennaf 7, 2022
gan
Reflective practice is a mode of learning that offers just that: the fostering of introspection in order to process our experiences and look back and learn from our actions.

Rydyn ni’n byw mewn byd cyflym iawn, gyda momentwm ein bywydau personol a phroffesiynol yn dal i gyflymu bob dydd. Ond, os ydyn ni’n mynd i barhau i weithio, tyfu a ffynnu, mae’n hanfodol ein bod ni’n arafu a meddwl am ein cynnydd. Dull dysgu yw ymarfer myfyriol sy’n cynnig hynny yn union: y gallu i edrych arnom ni ein hunain i brosesu ein profiadau, ac edrych yn ôl a dysgu o’n gweithrediadau.

Yn gyfuniad o feddwl yn feirniadol, yn adeiladol ac yn greadigol, mae ymarfer myfyriol yn galluogi’r lle sydd ei angen ar ddatblygiad personol dwys. Drwy’r dull hwn o hunan-ddadansoddi, gallwn wella effeithiolrwydd ein hymatebion brys, ehangu ein gallu i ddangos tosturi, hunanymwybyddiaeth a gwydnwch, ac yn y pen draw, anelu at sefydlu’r berthynas emosiynol hirdymor sydd gennym â’n gwaith.

Boed ar ffurf arfarniad gwaith, sesiwn friffio gyda’r tîm neu gyfnod o hunan-fyfyrio, mae ymarfer myfyriol yn ddull a all gael ei gymhwyso i bron bob proffesiwn er mwyn gwella’r perthnasoedd gwaith rhyngbersonol a gwella’r gwasanaethau a ddarperir.

Ymarfer myfyriol yn y gwaith

Gall gweithwyr proffesiynol sawl maes elwa ar ymarfer myfyriol. Mae ymarferwyr myfyriol yn deall y gall eu hymdrechion, eu hymddygiad a’u sgiliau gael eu gwella’n gyson. Maen nhw’n defnyddio’r dull dysgu hwn i gael mewnwelediad a chydnabod eu llwyddiannau a’u camgymeriadau. Yna, defnyddir y wybodaeth hon i wneud y mwyaf o’u galluoedd.

Ffordd wych o ddefnyddio ymarfer myfyriol yw mewn gwasanaethau cyhoeddus, megis gofal iechyd, gwasanaethau brys, addysg a gwaith cymdeithasol. Lle mae gofal rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu ynghlwm – rhwng meddyg a chlaf, parafeddyg a rhywun wedi’i anafu, neu athro a phlentyn er enghraifft – gall ymrwymiad i’r ymarfer hwn ehangu capasiti i ymdrin â thrafodaethau ansicr neu sy’n peri straen yn hyderus, yn gadarn a chyda deallusrwydd emosiynol.

Y tu allan i’r sector cyhoeddus, gellid defnyddio arfer myfyriol yn helaeth er mwyn helpu i ddod o hyd i ystyr a phwrpas yn y gwaith: ysbrydoli arweinwyr busnes i gryfhau eu capasiti ar gyfer adeiladu timau, annog hyfforddwyr i ddeall anghenion timau chwaraeon amrywiol a galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio a bod yn atebol wrth reoli eu llwyth tasgau er enghraifft.

Yn y pen draw, gallai defnyddio ymarfer myfyriol mewn ffordd systemig gyfrannu at greu timau mwy ymgysylltiol ac effeithlon o fewn amgylcheddau gwaith a dysgu cytbwys, hwylus a chynhwysol.

Beth sy’n enghraifftiau o ymarfer myfyriol?

Yn ôl model myfyriol Donald Schon, mae ymarfer myfyriol fel arfer yn digwydd ar ffurf myfyrio wrth weithredu, neu fyfyrio ar weithredu.

Mae myfyrio wrth weithredu yn digwydd yn ystod sefyllfa weithredol, fel y mae’n digwydd mewn amser go iawn. Mae’r dull hwn yn cynnwys cyfuniad o arsylwi manwl, gwrando actif a datrys problemau mewn ffordd ddeallusol, gan fod angen i weithwyr proffesiynol ‘feddwl ar eu traed’.

Mae enghreifftiau o fyfyrio wrth weithredu yn digwydd yn ystod rhyngweithiadau bob dydd, ac yn amrywio i ddigwyddiadau sy’n peri straen mwy sylweddol. Gall hyn gyflwyno fel diagnosis a gofal rhwng clinigwr a chlaf, neu gyfathrebu rhwng athro a phlentyn. Mae gan ymarferwyr myfyriol ddealltwriaeth ddatblygedig o sut i gynllunio ymlaen llaw ac ymateb yn feirniadol i sefyllfa gyda’r eirfa, yr ymddygiad a’r gweithrediadau mwyaf effeithiol a phriodol. Yn hyn o beth, maen nhw’n arddangos y lefel uchaf posibl o hunanymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol da iawn.

Ar y llaw arall, mae myfyrio ar weithredu, yn golygu prosesu digwyddiad ar ôl iddo ddigwydd. Gall hyn fod ar ffurf hunan-fyfyrio, megis ysgrifennu dyddiadur o’ch profiadau, neu fyfyrio fel grŵp, megis cyfarfod tîm neu garfan gydweithredol. Mae’n cynnwys adnabod yr hyn a ddysgwyd, datgelu’r deilliannau annisgwyl ac addasu er mwyn paratoi at sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol. Ymhlith yr enghreifftiau mae sgwrs yn yr ystafelloedd newid rhwng athletwyr, i arfarniadau rheolaidd, i weithgorau ymarferwyr rhyngddisgyblaethol 

Fel gweithgaredd a rennir, gall ymarfer myfyriol ein helpu i ehangu ein safbwyntiau, dysgu o brofiadau a rennir ac elwa ar rannu gwybodaeth.

Cylch myfyriol Gibbs

Mae ymarfer myfyriol yn gylchol o ran natur. Mae’r fframwaith hwn a ddatblygwyd gan Yr Athro Graham Gibbs yn cyflwyno model ar gyfer myfyrio sy’n addas i ddysgu drwy brofiadau sy’n cael eu hailadrodd.

Mae’r cylch fel a ganlyn:

  • Disgrifiad: beth ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad neu’r sefyllfa, megis ble oeddech chi, pwy oedd yno, beth ddigwyddodd a beth gafodd ei ddweud
  • Teimladau: meddyliau, teimladau, ymatebion a sbardunau a ddaeth i’r amlwg yn ystod y profiad
  • Gwerthuso: beth weithiodd yn dda, a beth all gael ei wella
  • Dadansoddiad: gwneud synnwyr o’r sefyllfa, cymhwyso i gyd-destun, a dod o hyd i lenyddiaeth berthnasol neu ymchwil er mwyn cael arweiniad
  • Casgliad: beth ydych chi wedi’i ddysgu
  • Cynllun gweithredu: cymhwyso gwybodaeth a chreu cynllun cam wrth gam i wella ymarfer neu wasanaeth, goresgyn unrhyw heriau a llywio profiadau dysgu i’r dyfodol

Mae model Gibbs yn dempled effeithiol ar gyfer ymarfer myfyriol, gan ddiffinio llwybr clir ar gyfer myfyrio beirniadol a sicrhau bod lle ar gyfer effaith emosiynol y profiad dysgu.

Pam fod ymarfer myfyriol yn bwysig?

Mae’n hanfodol dysgu o brofiad. Ymhlith rhai manteision mesuradwy i’r fframwaith ymarfer myfyriol mae:

  • Hunan-ymwybyddiaeth a sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol gwell
  • Gwell deallusrwydd emosiynol
  • Datblygu sgiliau meddwl yn greadigol a datrys problemau
  • Rhagor o ymgysylltiad a ffocws wrth eich gwaith
  • Gwneud synnwyr o sefyllfa a dod o hyd i ddiben o ran ein targedau
  • Rhagor o wydnwch a’r gallu i ymateb i her
  • Helpu ni i ddatblygu strategaethau effeithiol i wella’r gwasanaethau sydd ar gael

Wrth i ni ymdrechu i fod y fersiwn broffesiynol orau ohonom ni ein hunain, mae ymarfer myfyriol yn ddull gwych ar gyfer hwyluso twf ymarferol a datblygiad emosiynol.

Byddwch y fersiwn broffesiynol orau ohonoch chi eich hun gyda chwrs MA Addysg

Mae dysgu myfyriol yn rhan hanfodol o unrhyw swydd, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus. Gyda modiwlau cyrsiau’n amrywio o fentora a hyfforddi, technolegau dysgu, addysgeg gritigol i ymarfer nad yw’n llethol, mae gradd MA Addysg ar-lein <https://online.wrexham.ac.uk/ma-education/> gan Ysgol Reoli Gogledd Cymru wedi cael ei dylunio’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg mewn ystod helaeth o gyd-destunau gwaith, gan gynnwys ysgolion, colegau, prifysgol a sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Cewch gyfle i ystyried y damcaniaethau diweddaraf sy’n ymwneud â’ch gwaith, herio ac ymestyn eich sgiliau meddwl yn feirniadol, ac ategu eich profiad gwaith ymarferol gyda’r dulliau a’r technegau a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich gyrfa fel ymarferydd addysgol.