Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw technolegau dysgu digidol?

Postiwyd ar: Medi 28, 2022
gan
Hands on a laptop with holograms with education icons on over the top

Bu i bandemig y coronafeirws arwain at gau nifer sylweddol o sefydliadau addysg ar sail dros dro yn fyd-eang, gan effeithio ar fwy nag 1.5 biliwn o fyfyrwyr. Ers hynny, mae’r symudiad at e-ddysgu wedi bod yn un cyflym, ac yn sydyn, ystyrir fod dulliau dysgu technolegol yn angenrheidiol.

Mae technolegau dysgu digidol yn rhai sy’n cefnogi’r broses o ddigideiddio’r profiad dysgu, a hwyluso symudiad ar-lein. Yn ôl y diffiniad, mae technolegau dysgu yn cynnwys unrhyw gyfathrebiad, gwybodaeth ac adnoddau technegol sy’n hwyluso addysgu, datblygu ac asesu gwell.

Mae caledwedd cyfrifiadurol (megis byrddau gwyn rhyngweithiol a llechi yn y dosbarth), meddalwedd (o ffrydio i gemeiddio), a theorïau ac ymarferion addysgol (gan gynnwys dysgu gydol oes neu ddysgu nano), a gwelliannau i dechnolegau dysgu yn parhau i drawsnewid ein tirwedd addysgol.

Dros y degawd diwethaf, mae technolegau newydd wedi cael eu hymgorffori mewn dosbarthiadau ym mhedwar ban byd. Mae’r cyfuniad hwn o adnoddau TG a dulliau dysgu newydd, sy’n aml yn cael ei alw yn ‘edtech’, wedi cael effaith fawr iawn, gan gyfrannu at brofiad addysgol mwy cyffrous, cynhwysol ac addysgol – ac mae ein symudiad blaengar tuag at yr elfen ddigidol yn ystod y pandemig hefyd wedi amlygu’r manteision.

O’r weminar syml i’r dosbarth rhithwir cynhwysol, i ficro-gyrsiau, gemeiddio a hyd yn oed realiti estynedig, mae technolegau dysgu digidol yn arwain y ffordd at ddulliau mwy fforddiadwy, hyblyg, hygyrch ac sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion o ran hyfforddiant a datblygiad.

Enghreifftiau allweddol o dechnolegau dysgu digidol

Gan hwyluso dysgu wyneb yn wyneb, dysgu o bell a dysgu cyfunol, dyma rai enghreifftiau craidd o’r moddau, dulliau a ffurfiau o dechnolegau sy’n gwella ein mannau gwaith a’n dosbarthiadau.

Dysgu symudol ac apiau

Mae dros 80% o’r byd yn berchen ar ffôn clyfar, ac mae defnyddio dyfeisiau symudol yn sicrhau bod dysgu ar-lein yn parhau i fod yn ystwyth, cyfleus a’i ymestyn i fannau y tu hwnt i’r dosbarth.

Daw dysgu symudol, neu “m-learning” i’r amlwg mewn sawl ffurf, o bodlediadau i apiau, gan ddarparu gwybodaeth mewn pytiau neu ‘sesiynau’. Mae’r darparwr cyrsiau e-ddysgu poblogaidd, Udemy, yn enghraifft dda iawn, gan gyfuno cyrsiau dan arweiniad arbenigwyr ag aseiniadau ac asesiadau rhyngweithiol drwy ap dynodedig.

Drwy ddefnyddio dysgu symudol, gall gweithwyr baratoi ar gyfer eu diwrnod cyntaf yn y gwaith heb orfod camu ar yr eiddo – ac mae diwydiannau megis manwerthu, lletygarwch ac adeiladu yn defnyddio technolegau dysgu digidol i gefnogi ymsefydlu, cyflawni hyfforddiant cydymffurfiaeth a chynnyrch a monitro perfformiad.

Mewn dosbarthiadau, mae platfformau cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau ar-lein megis Google Drive a Dropbox yn cael eu defnyddio i alluogi athrawon a myfyrwyr i edrych ar waith mewn modd cydamserol (ar yr un pryd) ac anghydamserol (ar adegau gwahanol) drwy gydol y diwrnod dysgu.

Gemeiddio

Mae gemeiddio yn farchnad sy’n tyfu’n hynod gyflym, ac mae disgwyl iddo gyrraedd dros 58 biliwn o ddoleri UDA erbyn 2028.

Mae cysyniadau gemeiddio, sy’n seiliedig ar gydnabyddiaeth a gwobrwyo (dau ffactor allweddol o ran cymhelliant i fyfyrwyr a gweithwyr), yn ymgorffori cydrannau a nodweddion traddodiadol gemau – megis pwyntiau, bathodynnau, tablau arweinwyr, heriau wedi’u hamseru a lefelau – i gyd-destunau y tu hwnt i gemau.

Ceir graddfeydd i’r ymyrraeth a chyfranogiad cynyddol er mwyn dwysau dysgu’r rhai sy’n cymryd rhan, gan ysgogi cystadleuaeth gyfeillgar, gwella cysylltedd cymdeithasol a chymell cyflawniad academaidd.

Dosbarthiadau rhithwir

Nod systemau rheoli dysgu (LMS) megis Moodle yw efelychu hyfforddiant wyneb yn wyneb, gan greu profiad dysgu sy’n cyfuno rhyngweithio fel grŵp a darparu cynnwys ar-lein. O diwtorialau fideo, gweithgareddau a chwisiau, i ystafelloedd grwpiau bach a mannau cymdeithasol, mae dosbarthiadau rhithwir yn efelychu’r profiad mewn dosbarth go iawn.

Mae platfformau megis Padlet a Jamboard wedi dod yn gynyddol boblogaidd, gan feithrin sgiliau creadigol a chydweithio rhwng cyfoedion a chan gynnwys nodweddion megis mapiau cysyniadau, darlunio a nodiadau post-it. Ar y llaw arall, mae Flipgrid yn ddatrysiad dysgu fideo gan Microsoft sy’n galluogi athrawon i weld, clywed a chael adborth byw gan bob dysgwr yn y dosbarth.

Deallusrwydd artiffisial (AI)

Gan greu llwybr sy’n arwain at brofiad dysgu mwy personol, gellid cymhwyso deallusrwydd artiffisial i fonitro perfformiad unigol, asesu anghenion a diddordebau dysgwyr unigol, ac addasu i ddarparu cynnwys perthnasol sy’n cefnogi addysg bellach.

Mae Altitude Learning (system sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Facebook) yn defnyddio AI i awgrymu llwybrau dysgu personol i blant, ac mae cynorthwywyr digidol personol megis Merlyn wedi cael eu dylunio i helpu athrawon reoli’r dosbarth.

Ymysg enghreifftiau mwy unigryw mae algorithmau wediu datblygu i sgorio papurau, gwneud y mwyaf o adnoddau ac arbed amser addysgwyr – a meddalwedd fel Smart Eye, sy’n defnyddio technoleg adnabod wynebau i ‘’wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn talu sylw.

Er nad ydyn nhw’n hynod gyffredin eto, mae’r technolegau hyn yn bendant yn arddangos capasiti digideiddio, ac yn taflu golau ar sut gallai ein hamgylcheddau dysgu edrych yn y dyfodol.

Tueddiadau technoleg dysgu digidol newydd yn 2022

Mae technolegau newydd yn parhau i lywio’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio ac yn dysgu, ac mae Forbes yn nodi bod tueddiadau newydd rhaglenni dysgu digidol yn rhai sy’n cefnogi dysgu gydol oes, dysgu trochol a nano-ddysgu.

Technolegau dysgu gydol oes

Rhaid i’r ffordd rydyn ni’n addysgu myfyrwyr heddiw barhau i adlewyrchu’r dirwedd gyflogaeth bresennol.

Mae cyflymder gwelliannau technolegol yn gofyn i gymwyseddau penodol gael eu disodli’n gyflym er mwyn ateb y galw o ran busnes. Mewn gwirionedd, roedd adroddiad o 2018 a gyflwynwyd gan Fforwm Economaidd y Byd yn amcangyfrif y bydd 54% o swyddi yn gofyn am ail-sgilio neu uwch-sgilio – gan gyflwyno achos cryf dros ddysgu gydol oes.

Yn hynny o beth, mae angen i ddysgwyr fod yn ystwyth ac yn barod i newid; does dim disgwyl i fyfyrwyr hyfforddo ar gyfer “swydd am oes” mwyach. Mae’r symudiad tuag at blatfformau gwasanaethau tanysgrifio, micro-gyrsiau ac apiau dysgu symudol yn cefnogi’r alwad hon am addysg barhaus i oedolion.

Technolegau dysgu trochol

Gyda ffenestri amser a chapasiti i dalu sylw yn lleihau, mae’r angen am gyfleoedd dysgu cyffrous sydd ar gael ar unwaith yn creu cyfle i dechnolegau realiti estynedig (XR), sy’n cynnwys cyfryngau realiti rhithwir, realiti estynedig a realiti cymysg.

Mae hyfforddiant mewn rhith-amgylcheddau yn meithrin gallu i uwch-sgilio, gwybodaeth brofiadol ac adborth amser go iawn heb gostau, adnoddau dynol na risg, ac mae wedi’i ddefnyddio i hwyluso sawl maes dysgu, o weithdrefnau llawfeddygol i hyfforddiant ymladd.

Technolegau nano-ddysgu

Mae fideos hir yn dod yn llai cynaliadwy, gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol cryno eu naws megis Twitter a TikTok yn dod yn ffynhonnell allweddol o gynnwys i lawer o bobl. Mae angen i amgylcheddau dysgu heddiw fod yn gydamserol, yn fodiwlaidd ac yn afaelgar, a hyd yn oed yn rhai sy’n creu tueddiadau o bosibl, er mwyn cystadlu.

Mae’r achos dros nano-ddysgu yn cefnogi technolegau dysgu digidol fel dosbarthiadau rhithwir ac apiau m-ddysgu, sy’n cynnig gwersi bras a all gael eu hastudio a’u defnyddio dro ar ôl tro. Mae’n debyg y bydd y symudiad tuag at gynnwys cryno a syml y normal newydd ym maes addysg, gyda gwasanaethau negeseuon Testun fel Arist yn cael eu defnyddio i ddarparu pynciau academaidd.

Beth yw manteision ac anfanteision technolegau dysgu digidol?

Fel rhai sydd wedi’u geni yn yr oes ddigidol, mae dadleuon sy’n nodi fod myfyrwyr heddiw angen symbyliad delfrydol. Mae llawer iawn o fanteision i dechnolegau dysgu digidol, gan gynnwys rhoi hwb i ymgysylltiad, cymhelliant a chysylltedd cymdeithasol, wrth fod yn addas i sawl arddull dysgu. Ond a yw’r technolegau hyn yn y dosbarth yn tarfu? A ydyn nhw’n addas ar gyfer ein sgiliau talu sylw, sydd ar i lawr, neu a ydyn nhw’n gwneud pethau’n waeth?

Manteision:

1. Mae bod yn ddigidol yn ategu dysgu cynhwysol

Macro neu ficro, cyfunol neu wrthdro, gweledol neu glywedol – waeth beth yw arddull dysgu’r myfyriwr, mae technolegau dysgu digidol yn galluogi i ddarpariaeth cynnwys fod yn bersonol, gan fodloni anghenion pob unigolyn. Mae dysgu o bell yn creu dosbarth hygyrch i’r rhai ag anableddau corfforol neu gyfyngiadau ariannol, er enghraifft, wrth roi ymreolaeth i bob myfyriwr dros ei amserlen ddysgu – dyma’r datrysiad hyblyg i integreiddio hyfforddiant i fywyd bob dydd.

2. Gwell profiad dysgu

Nid yn unig y mae cysyniadau digidol megis gemeiddio yn sbarduno hwyl, chwilfrydedd a’r dychymyg, maen nhw hefyd yn cefnogi hyder cynyddol myfyrwyr ac yn creu amgylchedd ble gall dysgwyr roi cynnig ar bethau, methu ac arbrofi heb ofn.

3. Mae dysgu digidol yn gynaliadwy

Mae dysgu digidol yn gynaliadwy ym mhob ystyr o’r gair. Bydd technoleg yn parhau, ac wrth i’n dibyniaeth barhau i dyfu, mae’n hanfodol fod dysgwyr ifanc yn dod i arfer â dyfeisiau newydd. Mae gweithrediad technolegau dysgu digidol yn gost-effeithiol, yn lleihau adnoddau ffisegol (megis papurau a thaflenni gwaith wedi’u hargraffu), ac yn lleihau’r angen i gymudo – sy’n golygu ei fod yn well i’r amgylchedd hefyd.

Anfanteision:

1. Diffyg cyswllt cymdeithasol

Mae chwarae rhyngbersonol a rhyngweithio corfforol yn hanfodol i ddysgu a datblygiad cymdeithasol, yn enwedig ymysg plant. Mae ymyrraeth technoleg yn ychwanegu rhwystrau o ran cysylltiad rhwng cyfoedion, a all wneud i rai deimlo’n ynysig ac yn unig.

2. Mae’n fewnwthiol

Roedd dod â gwaith adref yn hanfodol yn ystod cyfnodau clo’r pandemig, ond gyda thechnolegau dysgu digidol yn galluogi hyfforddiant parhaus a symudol, nid oes llawer o gyfle i weithwyr neu fyfyrwyr ymlacio ac anghofio am y gwaith neu astudio.

3. Mae dysgu digidol yn gofyn am sgiliau eraill

Mae rheoli amser a hunan-gymhelliant yn elfennau hanfodol ar y model dysgu digidol – ond nid yw plant bach (a rhai myfyrwyr hŷn) yn meddu’r sgiliau hyn. Mae dosbarthiadau hybrid a gwersi dysgu cyfunol hefyd yn rhoi straen ar addysgwyr, sydd angen rhoi mwy o ymdrech ac adnoddau i greu cynnwys ar-lein. Mae’n bosibl hefyd nad oes gan rai athrawon yr arbenigedd hwn.

Profwch bŵer dysgu digidol drosoch chi eich hun

Byddwch yn rhan o’r dirwedd ddysgu sy’n newid yn gyson, gyda chwrs MA Addysg Ysgol Rheolaeth Gogledd Cymru sydd 100% ar-lein. Bydd y cwrs yn rhoi’r hanfodion addysgu hanfodol i chi er mwyn ymgysylltu, cael effaith a datblygu ymhellach myfyrwyr heddiw.

Mae’r radd yn hollol hyblyg ac yn dilyn model dysgu anghydamserol, ac mae wedi’i dylunio i sicrhau hyblygrwydd llwyr, gan alluogi myfyrwyr i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain, a’u telerau eu hunain.

Gan gyfuno ymarfer myfyriol, astudio damcaniaethol a datblygiad personol, fe fyddwch chi’n astudio modiwlau gan gynnwys meddwl yn feirniadol, mentora a hyfforddi a thechnolegau dysgu, gan eich grymuso gyda’r holl adnoddau, technegau a mewnwelediadau sydd eu hangen arnoch i fwrw ymlaen â’ch gyrfa fel addysgwr effeithiol.