Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw marchnata Busnes i Fusnes (B2B)?

Postiwyd ar: Ebrill 14, 2022
gan
Two suited arms shaking hands

Mae marchnata busnes i fusnes yn digwydd pan fydd un busnes yn marchnata ei gynhyrchion neu ei wasanaethau i fusnes arall, yn hytrach na marchnata’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, y cyfeirir ato fel marchnata busnes i ddefnyddwyr (B2C).

Er enghraifft, bydd angen i fusnes sy’n darparu cynhyrchion i sefydliadau eraill, megis cyfarpar, offer, deunyddiau, tanysgrifiadau meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS), neu stoc hyd yn oed, farchnata ei hun i gleientiaid posibl. Mae’r cleientiaid hyn yn digwydd bod yn fusnesau eraill, yn hytrach na defnyddwyr cyffredin.

Golyga hyn fod marchnata busnes i fusnes a busnes i ddefnyddwyr yn wahanol mewn ychydig o ffyrdd arwyddocaol:

  • Iaith, cywair ac arddull. Yn nodweddiadol mae marchnata busnes i fusnes yn fwy uniongyrchol ac yn cynnwys mwy o wybodaeth na marchnata busnes i ddefnyddwyr, oherwydd yn hytrach nag apelio at emosiynau defnyddwyr, mae’n canolbwyntio ar linell waelod busnes neu sefydliad, ac fel arfer yn tynnu sylw at yr adenillion buddsoddi i gyflogwr y prynwr.
  • Sianelau a ffafrir. Yn hytrach nag ymgyrchoedd marchnata a hysbysebu mawreddog sy’n targedu is-setiau mawr o ddefnyddwyr, fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda marchnata busnes i ddefnyddwyr, mae marchnata busnes i fusnes yn llawer mwy arbenigol. Bydd yn apelio’n uniongyrchol at y rhai sy’n gwneud penderfyniadau corfforaethol ac unigolion mewn busnes sy’n meddu ar awdurdod prynu, ac mae cynhyrchu gwerthiannau posibl yn digwydd trwy bethau fel cynadleddau ac arddangosfeydd masnach. Fodd bynnag, mae peth gorgyffwrdd rhwng marchnata busnes i fusnes a marchnata busnes i ddefnyddwyr yma, yn enwedig marchnata digidol – gall marchnata trwy e-bost, marchnata cynnwys, chwilio taledig/talu fesul clic, optimeiddio peiriannau chwilio a marchnata a hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol oll fod yn effeithiol wrth farchnata cynnyrch busnes i fusnes.
  • Cyswllt a disgwyliadau prynu. Yn achos busnes i fusnes, fel arfer bydd y cyswllt rhwng y busnes a’r cwsmeriaid busnes i fusnes yn digwydd trwy gyfrwng rheolwyr cyfrif a swyddogion gwerthu busnes i fusnes, yn hytrach na chwsmeriaid yn ymweld â siop go iawn neu safle e-fasnach gyffredinol. Gall gwerthiannau a’r gwaith gweinyddol cysylltiedig ddigwydd mewn pecyn rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM).

Strategaethau marchnata busnes i fusnes

Mae meddu ar strategaeth marchnata busnes i fusnes yn bwysig i unrhyw fusnes sy’n gwerthu i fusnesau eraill. Gall gynorthwyo i greu cysylltiadau, cynhyrchu gwerthiannau a chynyddu ymwybyddiaeth am y brand. Hyd yn oed os yw busnes yn marchnata ei gynhyrchion neu ei wasanaethau i ddefnyddwyr cyffredinol a busnesau, mae meddu ar strategaeth marchnata busnes i fusnes ar wahân yn hanfodol.

Un o’r tasgau cyntaf er mwyn datblygu strategaeth marchnata busnes i fusnes effeithiol yw penderfynu ar gynulleidfa darged y strategaeth – y busnesau a allai ddod yn gwsmeriaid, a’r bobl yn y busnesau hynny sy’n gwneud y penderfyniadau am gynhyrchion neu wasanaethau newydd.

Gellir datblygu persona cwsmeriaid ar gyfer prynwyr busnes i fusnes hefyd – fel rydych chi’n ei weld mewn marchnata busnes i ddefnyddwyr. Persona prynwr yw fersiwn ffuglen o ddemograffeg cwsmeriaid targed, a ddatblygwyd o fanylion ymchwil i’r farchnad a data, ac fe’u defnyddir er mwyn siarad yn fwy effeithiol â darpar gwsmeriaid. Wrth greu’r personas hyn, dylai busnesau ofyn iddynt hwy eu hunain: lle mae’r cwsmeriaid enghreifftiol hyn yn treulio eu hamser ar-lein? Pa blatfformau cyfryngau cymdeithasol maen nhw’n eu defnyddio? Pa ddigwyddiadau yn y diwydiant maen nhw’n mynd iddyn nhw? Bydd hyn oll yn cynorthwyo i benderfynu ar y camau nesaf yn y strategaeth.

Yn ogystal, dylai strategaethau marchnata busnes i fusnes:

  • fod yn gyfarwydd â chynhyrchion, prisio a thactegau marchnata cystadleuwyr, yn ychwanegol at wybodaeth ynghylch cynhyrchion mewnol, cylchredau gwerthu a mannau poen cwsmeriaid.
  • cynnwys metrigau cynhwysfawr ar gyfer llwyddiant.
  • meddu ar restr sianelau ar gyfer ymdrechion marchnata ar sail ymchwil manwl.

Sianelau marchnata busnes i fusnes effeithiol

Mae defnyddio’r sianelau cywir ar gyfer marchnata yr un mor bwysig ar gyfer cwmnïau busnes i fusnes ag ydyw i unrhyw fusnes arall, ac mae llu o opsiynau ar gael. Er enghraifft, gallai tîm marchnata busnes i fusnes ddefnyddio:

  • Peiriannau chwilio. Gall marchnata peiriant chwilio fod y ffordd fwyaf grymus o ddenu cwsmeriaid posibl i fusnes busnes i fusnes. Trwy ddefnyddio talu fesul clic effeithiol ac optimeiddio peiriannau chwilio yn organig, gall busnes sicrhau bod ei bresenoldeb ar y we yn ymddangos ymhlith y canlyniadau cyntaf mewn peiriannau chwilio, ac felly bydd yn flaenaf ym meddyliau cleientiaid newydd sy’n chwilio am gynhyrchion a gwasanaethau perthnasol. Yn ogystal, gall gadarnhau’r ddirnadaeth bod busnes yn gyfreithlon ac y gellir ymddiried ynddo pan fydd cwsmeriaid posibl yn ymchwilio i ddewisiadau o ran cyflenwyr newydd.
  • Marchnata cynnwys busnes i fusnes. Mae marchnata cynnwys yn strategaeth farchnata boblogaidd ar gyfer busnes i fusnes a busnes i ddefnyddwyr. Mae’n cynnwys creu a rhannu cynnwys gwerth uchel a fydd o ddiddordeb i ddemograffeg targed sefydliad, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r brand a dangos arbenigedd mewn maes perthnasol. Gall y strategaeth hon gynnwys popeth o flogiau i erthyglau i ffeithluniau a fideos, gweminarau ac astudiaethau achos, ond dylai’r cyfan fod yn gynnwys o ansawdd dda, a dylai’r cyfan fod yn berthnasol i’r cwsmer yn ogystal â’r cynhyrchion busnes i fusnes a gynigir gan y busnesau.
  • Cyfryngau cymdeithasol busnes i fusnes. Dyma un o’r ffurfiau mwyaf poblogaidd o farchnata busnes i fusnes, Yn wir, dywed Sprout Social bod 83% o farchnatwyr busnes i fusnes yn defnyddio hysbysebu cymdeithasol, sy’n dod yn ail i beiriannau chwilio, ac yn adnodd arwyddocaol o ran codi ymwybyddiaeth o’r brand, addysgu cynulleidfaoedd a chreu hygrededd ac ymddiriedaeth. Yn ôl Khoros, y platfformau mwyaf poblogaidd ar gyfer ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol busnes i fusnes yw LinkedIn, Twitter ac YouTube.

Sut mae marchnata busnes i fusnes wedi esblygu dros y blynyddoedd

Mae tactegau marchnata busnes i fusnes wedi gorfod newid yn sylweddol wrth i sianelau digidol ymddangos. Nawr mae gan brynwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau prynu fynediad at fwy o wybodaeth ynghylch cynhyrchion, cwmnïau a chystadleuwyr. Felly, er bod pethau fel hysbysebion traddodiadol, atgyfeiriadau a thystebau gan gwsmeriaid yn parhau i chwarae rhan bwysig mewn gwerthiannau busnes i fusnes, bellach ategir atynt gan ddulliau digidol mwy soffistigedig.

Cafodd y ddibyniaeth gynyddol ar ddigidol ei selio gan bandemig Covid-19, gyda’r rhan fwyaf o strategaethau marchnata busnes i fusnes bellach yn defnyddio’r dull digidol yn gyntaf, a rhoir mwy o bwyslais ar bethau fel strategaethau ffonau symudol yn gyntaf a chynnwys gwerth uchel.

Mae hyn yn ei dro wedi arwain at farchnad gynyddol ar gyfer pecynnau a meddalwedd awtomeiddio marchnata busnes i fusnes. Mae’r dechnoleg hon yn galluogi gwerthwr mewn sefydliad busnes i fusnes awtomeiddio a symleiddio ei dasgau marchnata digidol – megis marchnata cynnwys, ymgyrchoedd e-bost, ymgysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a rheoli optimeiddio peiriannau chwilio – gan greu a sicrhau cysylltiadau ac yna mesur canlyniadau ei weithgarwch marchnata.

Dysgwch ragor am farchnata busnes i fusnes

Mae effaith pandemig Covid-19 wedi profi pa mor gyflym y gall marchnata busnes i fusnes newid, ac wrth i sianelau digidol dyfu ac esblygu, yna bydd tactegau marchnata busnes i fusnes yn gwneud hynny hefyd.

P’un ai ydych chi’n gweithio ym maes marchnata eisoes, neu os ydych chi am newid cyfeiriad eich gyrfa, bydd gradd meistr yn y maes yn eich rhoi ar y trywydd cywir i fod yn arweinydd marchnata, a sicrhau eich bod chi’n aros ar y blaen o ran tueddiadau sy’n newid ym maes marchnata busnes i fusnes a thu hwnt.

Mae’r cwrs MBA Marchnata, sydd ar-lein yn gyfan gwbl, gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn datblygu’r sgiliau allweddol sy’n ofynnol ar uwch farchnatwyr, yn cynnwys marchnata strategol, cynllunio cyfathrebu integredig a dealltwriaeth am ymddygiad defnyddwyr. Cewch astudio’n rhan amser mewn modd sy’n cyd-fynd â’ch ymrwymiadau cyfredol gyda’r radd hyblyg hon, ac ennill wrth i chi ddysgu.