Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw llwyfannau ffynhonnell agored?

Postiwyd ar: Mawrth 7, 2022
gan
Illustration of two miniature programmers sat next to a large computer screen

Mae llwyfannau ffynhonnell agored yn gynnyrch meddalwedd, ar gael yn gyhoeddus, sy’n caniatáu i unrhyw un gael mynediad i’w côd ffynhonnell. Gallwch archwilio, astudio a rhedeg y côd, ei addasu a’i wella, a hyd yn oed ei rannu – rhywbeth na allech yn sicr ei wneud gyda meddalwedd fasnachol ffynhonnell gaeedig megis Microsoft Office neu Adobe Photoshop.

Mae’r model meddalwedd ffynhonnell agored ddatganoledig yn annog cydweithio agored rhwng datblygwyr. Yn aml, bydd dieithriaid llwyr o gwmpas y byd yn gweithio â’i gilydd i ddatrys problemau (bygs), gwella nodweddion, ychwanegu addasiadau pwrpasol a chreu swyddogaeth newydd, y cyfan er budd cynnyrch ffynhonnell agored.

O gofio hyn, mae meddalwedd ffynhonnell agored yn ffordd wych i ddatblygu eich sgiliau fel rhaglennydd, gweithio gyda datblygwyr eraill, a chreu safleoedd cost-effeithiol, rhaglenni ac apiau i’ch prosiectau a busnesau – y cyfan yn gweithio yn union fel y byddech yn ei ddymuno.

A yw ffynhonnell agored ar gael am ddim?

P’un ai eich bod yn hobïwr o raglennydd yn eich amser sbâr, neu eisiau addasu côd ffynhonnell llwyfan e-fusnes ffynhonnell agored ar gyfer eich busnes eich hunan, mae meddalwedd ffynhonnell agored am ddim fel arfer i bawb heb unrhyw gost ymlaen llaw.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi nad yw meddalwedd ffynhonnell agored fel arfer yn dod gyda phethau megis cefnogaeth dechnegol, felly, er na fyddwch mae’n debyg yn talu am y feddalwedd ei hun, efallai y byddwch angen llogi datblygwr i gael cefnogaeth os nad yw hyn yn rhywbeth y gallwch ei wneud eich hun.

Manteision eraill meddalwedd ffynhonnell agored

Yn ychwanegol at yr arbedion costau a’r rheolaeth fydd gennych wrth ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored, mae manteision allweddol eraill yn cynnwys:

  • Gwell diogelwch a sefydlogrwydd. Rydym oll wedi arfer â datrys problemau (bug fixes) a diweddariadau i’n cynnyrch meddalwedd ac apiau; mae’r rhain yn rhan bwysig o gadw ein rhaglenni a’n dyfeisiadau yn ddiogel ac yn perfformio ar eu gorau. Yn bwysig, mae diweddariadau yn aml yn fwy mynych gyda chynnyrch ffynhonnell agored, diolch i raddau helaeth i’r llu rhaglennwyr gwirfoddol sy’n gallu trwsio ac uwchraddio ‘r meddalwedd yn ôl y galw.
  • Cymuned o ddatblygwyr. Gyda ffynhonnell agored, nid oes raid i chi ddibynnu arnoch eich hun yn unig na’r datblygwyr a gyflogir gennych, i wneud y gwaith caled gyda chôd ffynhonnell eich cynnyrch. Byddwch yn arbed amser ac arian fel rhan o gymuned o ddatblygwyr ffynhonnell agored, a bydd gennych ddefnydd o fforymau a chymunedau ar-lein eraill megis GitHub i helpu i gynnal a gwneud y gorau o’ch meddalwedd, ac ennill mynediad i bethau fel tiwtorialau, templedi a diweddariadau eraill.

Enghreifftiau poblogaidd o feddalwedd ffynhonnell agored

Un o’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o feddalwedd ffynhonnell agored yw Linux, y system weithredu ffynhonnell agored. Mae’r system weithredu Android, er enghraifft, wedi ei sefydlu ar gnewyllyn y Linux, a dyma’r system weithredu a ddefnyddir fwyaf ar gyfer ffonau clyfar symudol.

Os ydych yn rhaglennydd neu’n ddatblygwr gyda’r wybodaeth, gallwch chi gydweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau ffynhonnell agored. Er enghraifft, mae’r gweinydd gwe Apache HTTP yn ffynhonnell agored ac mae digon o gynnyrch ar gyfer datblygiad blaen hefyd, gyda golygyddion ffynhonnell agored HTML, fframweithiau CSS a phrosiectau JavaScript ar gael yn eang.

Mae enghreifftiau neilltuol eraill o feddalwedd ffynhonnell agored – sy’n hawdd eu defnyddio beth bynnag fo’ch sgiliau technegol – yn cynnwys:

  • Mozilla Firefox. Dewis amgen i Chrome neu Safari, mae Firefox yn borwr gwe ffynhonnell agored yn canolbwyntio ar breifatrwydd rhyngrwyd. Gallwch ddefnyddio nifer o ychwanegion ffynhonnell agored Firefox i wella eich profiad fel defnyddiwr hefyd.
  • Libreoffice. Dewis amgen i Microsoft Office, mae Libreoffice yn ystafelloedd swyddfa ffynhonnell agored sy’n cynnwys prosesu geiriau, taenlenni, ac offer cyflwyno.
  • GIMP. Dewis amgen i Adobe Photoshop, mae GIMP yn olygydd graffeg ffynhonnell agored a ddefnyddir i drin delweddau a golygu.

Un o’r trwyddedau meddalwedd mwyaf poblogaidd ar gyfer meddalwedd ffynhonnell agored ac am ddim yw’r Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU (GPL), sy’n gwarantu’r pedwar rhyddid i ddefnyddwyr sef rhedeg, astudio, rhannu ac addasu’r meddalwedd – felly dyma drwydded ffynhonnell agored dda i’w cheisio wrth ymchwilio opsiynau ar gyfer eich prosiectau ffynhonnell agored, boed nhw ar gyfer busnesau newydd, siopau ar-lein, llwyfannau CMS, ac yn y blaen.

Beth yw llwyfan CMS?

Mae System Rheoli Cynnwys (CMS) yn system ddigidol a ddefnyddir i reoli cynnwys. Er enghraifft, byddai CMS ar gyfer eich gwefan yn caniatáu i lawer iawn o bobl greu, golygu a chyhoeddi cynnwys mewn dull hawdd ei ddefnyddio.

Mae nifer o ffynonellau agored CMS, yn cynnwys:

  • Drupal, system rheoli cynnwys gwe ffynhonnell agored, am ddim ac wedi ei hysgrifennu mewn PHP sy’n iaith sgriptio ffynhonnell agored a ddefnyddir yn aml i bwrpas cyffredinol.
  • Joomla, system rheoli cynnwys gwe ffynhonnell agored, am ddim gyda chymwysiadau yn cynnwys fforymau trafod, orielau lluniau, e-fasnach, a chymunedau defnyddwyr.

Defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored ar gyfer eich busnes

O fusnesau bychain i fanwerthwyr mawr, os ydych am greu gwefan e-fasnach, mae llawer i feddwl amdano. Dylech ystyried:

  • SEO (Search Engine Optimisation) i wneud yn siŵr eich bod yn uchel ar y rhestr yn erbyn eich cystadleuwyr a manwerthwyr eraill o fewn canlyniadau chwilio ar y we.
  • Natur ddringadwy, fel y gallwch ddygymod â thwf wrth i’ch stôr e-fusnes ddatblygu.
  • Strategaeth farchnata strategol (strategic marketing strategy) ar gyfer eich presenoldeb ar y we.

Ac yn hollbwysig, bydd angen i chi feddwl ynghylch pa lwyfan i’w ddefnyddio ar gyfer eich gwefan e-fusnes. Eich safle e-fusnes yw eich stôr ddigidol, felly, gall fod yn ddefnyddiol meddwl am daith y cwsmer, o sut y gall cynnyrch gael eu hidlo a’u chwilio, i’r profiad talu yn gyffredinol.

Os nad ydych eisiau defnyddio llwyfan ffynhonnell fasnachol gaeedig megis Shopify neu Big Commerce, mae llu o feddalwedd e-fusnes ffynhonnell agored a datrysiadau e-fasnach ffynhonnell agored ar gael ar gyfer eich stôr ar-lein.

Mae llwyfannau e-fusnes ffynhonnell agored yn cynnwys:

  • Magento, Llwyfan e-fusnes ffynhonnell agored wedi ei ysgrifennu mewn PHP.
  • OpenCart, system rheoli stôr ar-lein. Mae’n seiliedig ar PHP, yn defnyddio cronfa ddata MySQL – a ddefnyddir i ychwanegu, cael mynediad a phrosesu data a chydrannau HTML.
  • WooCommerce, ategyn e-fusnes ffynhonnell agored ar gyfer WordPress wedi ei gynllunio yn benodol ar gyfer masnachwyr o fach i fawr ar-lein, i safleoedd e-fusnes sy’n defnyddio WordPress a’i ategion.
  • PrestaShop, llwyfan e-fusnes ffynhonnell agored freemium wedi ei ysgrifennu mewn PHP gyda chefnogaeth gan gronfa ddata MySQL.
  • nopCommerce, datrysiad e-fusnes ffynhonnell agored sy’n hysbysebu ei hun fel y cerbyd siopa ASP.NET mwyaf poblogaidd yn y byd.
  • OsCommerce, rhaglen feddalwedd e-fusnes rheoli stôr ar-lein sy’n defnyddio PHP a MySQL.
  • Zen Cart, system rheoli stôr ar lein. Mae’n seiliedig ar PHP ac yn defnyddio cronfa ddata MySQL a chydrannau HTML.
  • Spree Commerce, llwyfan e-fusnes ffynhonnell agored ddibendraw a ddefnyddir gan nifer o frandiau rhyngwladol.

Y Fenter Ffynhonnell Agored

Mae’r Fenter Ffynhonnell Agored  (Open Source Initiative) yn gorfforaeth ddi-elw a sefydlwyd yn 1998 i feithrin cymunedau, addysg ac eiriolaeth gyhoeddus ynghylch meddalwedd an – fasnachol.

Mae’n nodi mai ei gweledigaeth yw cefnogi “sefydliadau ac unigolion yn gweithio gyda’i gilydd i greu cymunedau gwaith ble mae’r ecosystem ffynhonnell agored iach yn ffynnu” ac mae’n adnodd da ar gyfer eiriolwyr ffynhonnell agored.

Cael y gorau o’ch sgiliau ffynhonnell agored

Yn fwyfwy, mae busnesau yn dibynnu ar lwyfannau ffynhonnell agored. Yn ôl State of Open: The UK in 2021, yn syfrdanol, mae 89% o gwmnïau’r DU yn rhedeg meddalwedd ffynhonnell agored – ac mae mwy na hanner cwmnïau’r DU yn chwilio am sgiliau ffynhonnell agored wrth logi.

O ganlyniad, mae hi’n amser delfrydol i ystyried gyrfa yn y sector digidol sydd â galw uchel amdano ac sy’n talu’n dda. Mae hefyd yn ei gwneud hi’n amser delfrydol i ystyried gradd MSc Computer Science degree at the North Wales Management School, sy’n canolbwyntio ar yrfa a allai eich helpu i’ch rhoi ar flaen y gystadleuaeth.

Mae ein graddau hyblyg yn 100% ar-lein ac yn rhan amser, felly gallwch astudio unrhyw bryd, unrhyw le, ar unrhyw ddyfais – gan ennill cyflog wrth ddysgu.