Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw effaith barhaus y GDPR?

Postiwyd ar: Ebrill 1, 2020
gan
What is the lasting effect of GDPR?

Achosodd Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol yr UE (GDPR) dipyn o ymrafael yn ei gyflwyno ym mis Mai 2018, gyda busnesau yn bryderus iawn am ddiffyg cydymffurfio ac ymdrin â data. Er y bwriadwyd y ddeddfwriaeth i gymryd lle’r Ddeddf Gwarchod Data blaenorol yr oedd yn rhaid i fusnesau ei dilyn, y pryder i lawer oedd y cosbau am fethu â chydymffurfio, sydd eisoes wedi gweld dirwyon o tua £200m i British Airways a £100m i Marriott Hotels.

Er bod y ddeddfwriaeth wedi hen sefydlu bellach, mae rhai busnesau yn dal i weithio ar weithredu eu proses o ymdrin â data, er mwyn dod i ben â gofynion mwy caeth y GDPR.

Y flwyddyn gyntaf

Roedd llawer o gwmnïau o bob maint yn hynod bryderus am gyd-bwyso gofynion y ddeddfwriaeth newydd gyda’u harferion busnes arferol. Tra oedd gan ddeddfau blaenorol ofynion ynghylch storio, cywirdeb ac amgryptiad data a anfonwyd y tu allan i’r DU, yn achos nifer o gwmnïau, effeithiodd ar eu gallu i farchnata eu cynnyrch a gwasanaethau i gwsmeriaid oedd yn bodoli eisoes a rhai newydd.

Un o’r problemau mwyaf i dimau marchnata yn arbennig oedd y syniad o ‘ganiatâd penodol’ ar gyfer cyfathrebiadau. Tra oedd llawer o ffurflenni contact yn flaenorol yn casglu cyfeiriadau e-bost ac yn cynnwys print mân y byddid yn ychwanegu eu cyfeiriadau e-bost i restr bostio, roedd y dull ‘optio i mewn yn awtomatig’ bellach yn hen, ac roedd yn rhaid i gwsmeriaid ddewis cael eu cynnwys.

Maes arall a ddenodd feirniadaeth yn y GDPR yw hyn a adwaenir wrth yr enw Erthygl (d), ac mae’n nodi fod yn rhaid i ddata fod yn gywir, wedi’u ddiweddaru a bod yn rhaid cymryd pob cam rhesymol posibl – unai i ddileu gwybodaeth anghywir. Ar gyfer rhai cwmnïau, roedd hyn yn symudiad sylweddol o’u polisïau ymdrin â data blaenorol, o bosibl yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol mewn TG, a chostau sylweddol yn oriau staff.

O bersbectif marchnata a TG, nid yw GDPR yn dasg wedi’ chwblhau; gyda phob technoleg newydd, uwchraddiad neu weithredu, rhaid alinio gofynion y GDPR ac ailasesu er mwyn sicrhau’r cydymffurfedd gofynnol.

A yw swyddi marchnata bellach yn fwy anodd?

Roedd rhaid i dimau marchnata ledled Ewrop newid eu canolbwynt yn achos ymdrin â data cwsmer, oherwydd daeth y gofyniad am ddata cwsmer ond i gael ei ddefnyddio at ddibenion oedd yn llwyr berthnasol, i rym. I gychwyn, gwelwyd hyn fel agwedd negyddol gan farchnatwyr, oherwydd roedd y rheini ddefnyddiau e-byst marchnata, er enghraifft, yn dibynnu ar fwrw rhwyd eang i ymgyrraedd at y nifer fwyaf o bobl a phosibl. Gydag amser, unwaith i’r ddeddfwriaeth ennill ei phlwyf fodd bynnag, gellid tybio fod GDPR yn her sydd wedi arwain at arferion busnes cryfach, cadarnach. Dangosodd un astudiaeth Deloitte fod ymron i hanner y busnesau rheini a arolygwyd yn gofalu mwy am breifatrwydd cwsmeriaid. Efallai bod rhai marchnatwyr hyd yn oed yn gweld bod y rheini sy’n weithredol yn cyd-synio am negeseuon marchnata bellach yn ‘arweinwyr cynnes’ ac yn ymateb yn well i negeseua cwmnïau.

Er bod rhai busnesau wedi gweld ond ychydig o effaith o’r GDPR ac eraill wedi gorfod buddsoddi’n drwm mewn technoleg a phobl er sicrhau cydymffurfedd, nid yw’r rheoliadau am ddiflannu, a rhaid i gydymffurfedd fod ymysg sgiliau llawer o farchnatwyr.

Mae caniatáu timau marchnata i fynd i’r afael â heriau deddfwriaeth tebyg i GDPR yn flaenoriaeth busnes hanfodol, ac mae cwmnïau yn chwilio am arweinwyr marchnata cymwys, profiadol i arwain y busnes ymlaen. Gan gofio hynny, mae Prifysgol Wrecsam Wrecsam yn cynnig gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes Marchnata ar-lein 100%, sy’n golygu y gall pobl broffesiynol brysur astudio ar-lein pan fo’n gweddu iddynt. Hefyd, mae myfyrwyr Prifysgol Wrecsam hefyd yn elwa o gysylltiadau cadarn â’r brifysgol a diwydiant, sy’n golygu mae gan ein myfyrwyr fynediad at rai o’r meddyliau busnes mwyaf diweddar, y cwbl yn cael ei ddarparu ar-lein heb fod angen cymryd toriadau costus astudio, neu ymatal eu gyrfaoedd. Mae modd dewis cynlluniau talu-fesul modiwl gyda chwe diwrnod cychwyn bob blwyddyn, sy’n golygu does fawr o segura ar gychwyn cam nesaf eich gyrfa. Gan y gallwch ddysgu’ wrth gadw eich swydd a’ch cyflog cyfredol, gallwch hefyd gymhwyso’r hyn rydych yn ei ddysgu wrth i chi fynd i’ch rôl, gan ddangos eich sgiliau newydd a’ch galluoedd mewn amser go iawn.

Er mwyn dysgu mwy a dechrau eich cais, cliciwch yma.