Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw dysgu gwybyddol?

Postiwyd ar: Medi 28, 2022
gan
Illustration of a person turning on a lightbulb inside a big head

Pan fydd dealltwriaeth, cof a chymhwyso yn dod at ei gilydd, bydd dysgu gwybyddol yn digwydd. Drwy fanteisio i’r eithaf ar botensial ein meddwl i ganolbwyntio a deall gwybodaeth, mae’n ddull dysgu sydd â’r nod o wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r ymennydd – gan arwain at sgiliau datrys problemau gwell, a sgiliau cofio gwybodaeth yn gynt.

Sut beth yw enghraifft o ddysgu gwybyddol?

Yn aml, nodir bod dysgu uniongyrchol ac anuniongyrchol yn ddwy enghraifft graidd o ddysgu gwybyddol. Mae dysgu uniongyrchol yn cyfeirio at wybodaeth a gaiff ei chaffael drwy ymdrech ymwybodol; ac mae anuniongyrchol yn awgrymu’r gwrthwyneb.

Bob tro y byddwch chi’n weithredol yn ceisio dealltwriaeth neu wybodaeth newydd, rydych chi’n dysgu’n uniongyrchol. Waeth os yw’n ymwneud â chyflawni sgil newydd, cofrestru ar gyfer cwrs, neu hyd yn oed cofio parau geiriau, y broses o fynd ar ôl gwybodaeth mean ffordd ymwybodol a phresennol sy’n gwneud dysgu uniongyrchol yn wahanol i ddulliau eraill o ddysgu gwybyddol.

Ar y llaw arall, mae dysgu anuniongyrchol yn llai bwriadol. Mae’n bosibl y bydd y caffaeliad gwybodaeth yn digwydd mewn ffordd fwy goddefol – neu hyd yn oed drwy gamgymeriad – megis gwybodaeth a geir drwy sgwrs, neu sgiliau a gaffaelir drwy ailadrodd gweithrediadau dros gyfnod o amser. Mae’r gallu i deipio heb edrych ar fysellfwrdd neu ddysgu cyfeiriadau i leoliad yn enghreifftiau allweddol o ddysgu fel hyn.

Dyma enghreifftiau eraill o ddysgu gwybyddol ar waith:

Dysgu ystyrlon

Mae dysgu ystyrlon yn ymwneud â chymhwyso a chofio. Mae’r dull dysgu gwybyddol yn nodi – po fwyaf parod ydyn ni i gymhwyso gwybodaeth newydd i brofiad dysgu blaenorol neu sail dystiolaeth bresennol, y mwyaf y gallwn ni ei dysgu a’i deall. Er enghraifft, deall nodweddion diweddariad newydd adnodd meddalwedd neu ddysgu ffordd newydd o baratoi a choginio gyda chynhwysyn penodol.

Dysgu darganfod

Pryd bynnag y byddwn yn dechrau ymchwilio, rydyn ni’n arddangos dysgu darganfod. Mae astudio pynciau, cysyniadau a phrosesau newydd yn defnyddio rhannau ymchwiliadol ein hymennydd. Gallai hyn fod ar ffurf cynnal cyfweliad, cynnal arbrawf neu ddarllen llawlyfr.

Dysgu derbyngar

Cymryd rhan mewn darlith, sesiwn hyfforddi neu weminar; dyma rai o brif enghreifftiau dysgu derbyngar. Mae’r dysgu gwybyddol hwn yn digwydd pan fydd siaradwr yn cyflwyno gwybodaeth newydd ar bwnc penodol i wrandäwr gweithredol.

Dysgu di-gysylltiadol

Elfen allweddol ar ddysgu di-gysylltiadol yw amser. Mae’r dull dysgu hwn, sydd hefyd yn cael ei alw’n cynefino a sensiteiddio, yn digwydd drwy addasu i wybodaeth newydd pan fydd y ffynhonnell yn dod i’r amlwg.

Mae gwybodaeth synhwyrol yn ddull da o ddangos dysgu di-gysylltiadol – waeth os yw’n ymwybyddiaeth gynyddol o ffôn yn canu mewn swyddfa (enghraifft o sensiteiddio) neu ddod i arfer yn raddol ar sŵn uchel peiriant (enghraifft o gynefino) nes ei fod yn y cefndir.

Dysgu emosiynol

Mae dysgu emosiynol yn nodweddiadol o’n gallu i uniaethu â’r byd o’n cwmpas a rhyngweithio ag ef. Mae ymwybyddiaeth gymdeithasol a sgiliau hunan-reoli yn elfennau allweddol ar y math hwn o ddysgu, tra bod y gallu i arddangos empathi, cyfathrebu a chydweithio’n effeithiol ac ystyried sefyllfa o safbwyntiau eraill oll yn enghreifftiau o ddysgu emosiynol ar waith.

Dysgu trwy brofiad

Mae dysgu trwy wneud wrth wraidd dysgu trwy brofiad. Caiff ei gategoreiddio yn ddull “ymarferol”. Yn ôl y seicolegydd, David Kolb, mae’r math hwn o ddysgu yn digwydd trwy gylch gwybyddol sy’n cynnwys pedwar cam: (1) mae gan unigolyn brofiad uniongyrchol, ac yna (2) sylwad/myfyrio ar y profiad hwnnw sy’n arwain at (3) ffurfio cysyniadau haniaethol (dadansoddiad) a chyffredinoli (canfyddiadau) sydd yna’n cael eu (4) defnyddio i brofi damcaniaethau mewn sefyllfaoedd i’r dyfodol, sy’n arwain at brofiadau newydd.

Gall enghreifftiau gynnwys intern yn cysgodi uwch aelod staff, plentyn yn dysgu beicio drwy roi cynnig a methu, neu unigolyn yn tyfu gardd er mwyn dysgu mwy am lystyfiant.

Dysgu cydweithredol ac ar y cyd

Gall rhyngweithio ag eraill, yn enwedig mewn lleoliad gwaith neu addysg, arwain atom yn uchafu ein perfformiad. Mae gwaith prosiect yn enghraifft dda. Mae’r broses o chwilio am wiredd a rennir neu wrthrychol drwy negodi yn pwysleisio rhyngweithio cymdeithasol, gan greu lle i gofleidio cryfderau’r grŵp ac unigolion.

Dysgu arsylwadol

Mae dysgu arsylwadol, sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘siapio’ neu ‘fodelu’, yn elfen allweddol ar theori wybyddol gymdeithasol, gan bwysleisio sut gall dysgu ddigwydd mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae’n debyg fod y dull dysgu hwn ar ei amlycaf yn ystod plentyndod, pan fyddwn ni’n gwylio sut mae pobl eraill yn cael eu gwobrwyo neu eu ceryddu am eu hymddygiad, er enghraifft. Mae gwylio arddangosiad o sgil newydd – ac yna efelychu’r gweithrediadau a ddangoswyd er mwyn caffael y sgil hwnnw – yn enghraifft o ddysgu arsylwadol.

Beth yw’r gwahanol fathau o ddysgu gwybyddol?

Mae theori dysgu gwybyddol yn defnyddio metawybyddiaeth – “meddwl am feddwl” er mwyn deall sut mae prosesau’r meddwl yn dylanwadu ar ddysgu. Mae seicoleg fodern yn amlinellu dau is-gyfres craidd o theori dysgu gwybyddol: theori wybyddol gymdeithasol a theori ymddygiadol wybyddol.

Theori wybyddol gymdeithasol

Mae deall cyfraniadau gwybyddol dysgu arsylwadol – megis cysyniadau, beirniadaethau a chymhelliant – yn un o elfennau allweddol theori wybyddol gymdeithasol. Trwy ddadansoddi a chydnabod sut mae gweithrediadau ac ymddygiad eraill yn dylanwadu ac yn effeithio ar ein hymddygiad ni, gallwn ddechrau deall sut mae ein hamgylchedd a chymdeithasoli yn cael effaith uniongyrchol ar y ffyrdd rydyn ni’n caffael gwybodaeth.

Cyflwynodd Albert Bandura y safbwynt mwyaf amlwg ar theori wybyddol gymdeithasol, sy’n seiliedig ar gysyniadau craidd:

  • Penderfyniaeth dwyochrog: Yn cyfeirio at y rhyngweithiadau deinamig rhwng unigolyn (gyda’i brofiadau bywyd go iawn a’i gredoau), yr amgylchedd (cyd-destun cymdeithasol allanol) ac ymddygiad (ymatebion i stimwli i gyflawni nodau). Caiff hyn ei ategu gan ffactorau megis hunan-effeithiolrwydd, disgwyliadau deilliannau a hunanwerthuso. Er enghraifft, mae myfyriwr sy’n credu fod ganddo’r gallu i basio arholiad yn fwy tebygol o roi o’i amser ac ymdrech i astudio na myfyrwyr sy’n teimlo na fydd yn gallu llwyddo. Bydd y credoau hyn am eu gallu un ai’n cael eu cadarnhau neu eu gwrthod gan ganlyniad gwirioneddol y prawf. Bydd y profiad hwn yn effeithio ar eu credoau i’r dyfodol a’u hymddygiad o ran astudio.
  • Atgyfnerthiad positif a negyddol: Mae ymateb mewnol neu allanol i ymddygiad unigolyn (megis cosb, canmoliaeth neu wobr) yn effeithio ar y tebygolrwydd o ailadrodd neu stopio’r ymddygiad. Gall yr atgyfnerthiadau hyn fod yn hunan-gymhellol neu’n deillio o amgylchedd yr unigolyn.

Caiff y broses ddysgu hon ei hategu gan ffactorau megis hunan-effeithiolrwydd, disgwyliadau deilliannau a hunanwerthuso.

  • Disgwyliadau: Mae disgwyliadau yn cyfeirio at ddeilliannau a amcangyfrifir o ran ymddygiad – megis goblygiadau iechyd ar ôl smygu, twyllo mewn prawf ar bwrpas, neu hyfforddi llawer ar gyfer cystadleuaeth. Gall amcangyfrif y deilliannau hyn effeithio ar a fyddwn ni’n cyflawni’r weithred ai peidio. Mae disgwyliadau deilliannau’n seiliedig i raddau helaeth ar brofiadau blaenorol.
  • Hunan-effeithiolrwydd: Mae hunan-effeithiolrwydd yn cynnwys hyder unigolyn yn ei allu i gyflawni gweithred, a’r rhwystrau, yr hwyluswyr a’r profiadau blaenorol sy’n effeithio ar ei hyder. Yn aml, dywedir fod hunan-effeithiolrwydd yn benodol i dasgau, sy’n golygu y gall pobl deimlo’n hyderus yn eu gallu i gyflawni un dasg, ond nid un arall. Er enghraifft, efallai y bydd myfyriwr yn hyderus yn ei allu i basio arholiad, ond nid felly yn ei allu i wneud ffrindiau – yn seiliedig ar brofiadau a chredoau blaenorol.

Mae’r theori hon yn cael ei chymhwyso’n helaeth, o ddeall datblygiad personoliaeth a thrin anhwylderau seicolegol, i lywio rhaglenni hyfforddiant addysgol a sefydliadol, strategaethau hyrwyddo iechyd ac ymgyrchoedd hysbysebu. Ar raddfa fwy gronynnol, mae’r theori yn aml yn arsylwi sut mae pobl yn rheoleiddio eu hymddygiad i ddatblygu tueddiadau yn seiliedig ar dargedau.

Theori ymddygiadol wybyddol

Mae’r is-gyfres hwn o theori ymddygiadol gwybyddol yn archwilio sut mae meddyliau, teimladau a gweithredoedd unigolyn – megis hunanymwybyddiaeth, dyheadau, chwilfrydedd a bregusrwydd – yn dylanwadu’r ffordd maen nhw’n dysgu. Mae’n theori allweddol o ran deall sut gall ein patrymau a’n meddylfryd effeithio ar y ffordd rydyn ni’n deall gwybodaeth, megis y cysylltiad rhwng cymhelliant i ddysgu a chof gwybyddol.

Beth yw manteision dysgu gwybyddol?

Mae effeithiau positif dulliau dysgu gwybyddol yn bellgyrhaeddol, gan roi hwb i hyder unigolyn i gyflawni tasgau newydd, gwella sgiliau datrys problemau a gwella swyddogaethau gwybyddol allweddol megis dealltwriaeth a chofio gwybodaeth.

At hynny, mae dysgu gwybyddol yn darparu strwythur hanfodol ar gyfer dysgu gydol oes, gan annog meddwl yn haniaethol, meithrin creadigrwydd ac arloesedd, a grymuso dysgwyr gyda’r sgiliau cymhwyso sydd eu hangen i wella eu sail dystiolaeth sy’n  datblygu’n gyson.

Ymchwiliwch i’r ffordd y mae’r meddwl yn gweithio gyda’n MSc Seicoleg ar-lein.

Does dim dwywaith mai un o brif gryfderau’r arweinwyr a rheolwyr mwyaf effeithiol yw’r ffordd y maen nhw’n deall ymddygiad bodau dynol. Mae deall sut i werthuso gwybodaeth a’i chymhwyso yn allweddol i wneud penderfyniadau mewn ffordd fwy effeithiol, a bydd yn ategu eich gallu i gefnogi a chymell cydweithwyr a thimau.

Nod yr MSc Seicoleg gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, sydd 100% ar-lein yw eich grymuso chi gyda’r fantais seicolegol hon, a’ch helpu chi i symud eich gyrfa ymlaen i’r cam nesaf. Mae’n berthnasol i ystod eang o broffesiynau a disgyblaethau, o adnoddau dynol, i addysg ac arweinyddiaeth addysgol, i reolaeth marchnata ac ymchwil y farchnad.