Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth ydy marchnata B2C?

Postiwyd ar: Mai 4, 2022
gan
Woman holding a tablet with a hologram of icons over the top

Mae marchnata B2C, neu farchnata busnes i gwsmer, yn targedu defnyddwyr unigol er mwyn ennill cwsmeriaid a gwerthiannau ar gyfer sefydliad. Dyma’r model busnes mwyaf cyffredin yn y byd busnes, a’r math o farchnata sy’n gyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl.

Sonnir yn aml am farchnata B2C ochr yn ochr â marchnata B2B, neu farchnata busnes i fusnes, sy’n digwydd pan mae un busnes yn marchnata ei gynhyrchion neu ei wasanaethau i fusnes arall. Mewn gwirionedd, mae llawer o gwmnïau yn defnyddio marchnata B2C yn ogystal â marchnata B2B ar gyfer eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Ond er bod peth tebygrwydd rhwng marchnata B2C a marchnata B2B, mae gwahaniaethau allweddol, hefyd

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng B2C a B2B?

Y gwahaniaethau mwyaf rhwng marchnata B2C a marchnata B2B ydy:

Cynulleidfa

Y gwahaniaeth mwyaf allweddol rhwng B2C a B2B ydy, wrth gwrs, y gynulleidfa darged. Tra bod marchnata B2B yn anelu at brynwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn busnesau, mae B2C yn targedu cynulleidfa ehangach. Er enghraifft, gall busnes sy’n gwerthu cynnyrch glanhau dyddiol neu gynnyrch bwyd, apelio at bron pawb. A hyd yn oed wrth dargedu grwpiau mwy arbenigol fel cwsmeriaid posib, yn nodweddiadol bydd B2C yn gweithio gyda grŵp mwy o bobl na B2B.

Arddull

Mae’r gwahaniaeth yn y cynulleidfaoedd hefyd yn golygu bod arddull y marchnata ychydig yn wahanol rhwng B2C a B2B. Yn B2B, er enghraifft, mae’r marchnata yn canolbwyntio mwy ar ddata, yn darparu gwybodaeth ac yn uniongyrchol, yn gwybod y bydd busnesau yn gwneud mwy o ymchwil ac yn dilyn prosesau diwydrwydd dyladwy cyn prynu. Mae B2C, fodd bynnag, yn gweithredu yn gwybod bod defnyddwyr unigol yn tueddu i wneud penderfyniadau yn fwy cyflym – yn fyrbwyll hyd yn oed – ac felly bydd yn ceisio sbarduno ymateb emosiynol sy’n cysylltu’r defnyddiwr gyda’r brand, y cynnyrch, neu’r gwasanaeth sydd mewn golwg. Gall hyn ddylanwadu ar iaith ac arddull y marchnata, yn ogystal â’r sianeli marchnata sy’n cael eu defnyddio i dargedu defnyddwyr.

Dulliau gwerthu

Mae un gwahaniaeth mawr arall rhwng B2C a B2B sy’n ymwneud â lleoliad phryniannau a gwerthiannau. Er bod B2B fel arfer yn gweithredu wrth i werthwyr ymroddgar a rheolwyr cyfrifon adeiladu perthynas gyda chleientiaid, bydd B2C yn annog pobl i ymweld â siop neu wefan e-fasnach eu hunain, ac mae’n broses brynu mwy drafodiadol. Mae profiad y cwsmer yn parhau i fod yn bwysig, ond bydd y broses wedi’i phersonoli llai ar gyfer unigolion o fewn B2C. Wedi dweud hynny, mae gan gwmnïau B2C gyswllt mwy uniongyrchol â defnyddwyr terfynol eu cynhyrchion a’u gwasanaethau, ac mae hyn yn gallu bod yn ffordd effeithiol o ddatblygu perthnasau â chwsmeriaid, ffyddlondeb cwsmeriaid, a sicrhau gwerthiannau.

Mae gwahaniaethau eraill yn cynnwys:

  • Maint y pryniannau. Yn nodweddiadol, mae pryniannau B2C yn llawer llai na phryniannau B2B. Efallai y byddai rhai pethau, fel ceir neu declynnau, yn costio mwy o arian i gwsmeriaid B2C. Mae gwerthiannau B2B yn cael eu gwneud ar ran y busnes cyfan, felly efallai’n cynnwys peiriannau, offer, stoc, neu lawer iawn o nwyddau.
  • Hyd siwrnai’r cwsmer. Yn nodweddiadol, mae pryniannau B2B yn gorfod mynd trwy haenau o ymchwil a chymeradwyaeth gan sefydliadau ond mae pryniannau B2C yn digwydd yn fwy cyflym, gan gwtogi hyd y cylchred gwerthu o gryn dipyn.
  • Cost y marchnata. Ar gyfartaledd, mae marchnata B2C yn llai costus na marchnata B2B, achos mae llai o bobl yn cael eu cynnwys ac mae’n cymryd llai o amser, o ganlyniad i gylchred gwerthu byrrach.

Strategaethau marchnata B2C

Mae amgylchedd marchnata B2C yn gyflym a chyfnewidiol. Mae’n rhaid i fasnachwyr ymgyfarwyddo’n gyson â thueddiadau cwsmeriaid a phatrymau ymddygiad cwsmeriaid, a rhagfynegi sut y gallai’r farchnad newid yn y dyfodol. Mae’n dipyn o gamp ond yn bosib gyda:

  • dealltwriaeth dda o gynnyrch cystadleuwyr a thactegau marchnata
  • dadansoddiad manwl o arferion prynu cwsmeriaid
  • strategaethau a chynlluniau marchnata addas.

Mae rhai o strategaethau marchnata B2C yn cynnwys ymdrechion i farchnata’n ddigidol, fel:

  • Ymgyrchoedd y cyfryngau cymdeithasol. Mae sianeli’r cyfryngau cymdeithasol yn ofod cost-effeithiol iawn ar gyfer marchnata, felly maent yn boblogaidd gyda phawb, o gorfforaethau mawr i fusnesau bach. Mae’r ymgyrchoedd yn gallu cynnwys unrhyw beth o gystadlaethau i roi naid ar gefn tueddiadau firol sydd eisoes yn bodoli, ac maent yn ffordd wych i fusnes gysylltu’n uniongyrchol â’u defnyddwyr posib. Maent hefyd yn rhoi’r cyfle i fusnesau gael blas ar awtomeiddio marchnata, gan ddefnyddio offer awtomeiddio ymroddedig er mwyn hwyluso eu hymdrechion ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Marchnata dylanwadwyr. Mae marchnata dylanwadwyr yn golygu gweithio gyda dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol cyfredol, rhywun sydd yn meddu ar gynulleidfa debyg i’r gynulleidfa darged neu ddemograffiaeth busnes B2C, ac sydd wedi llwyddo i ennill ymddiriedaeth ei gynulleidfa. Gall y gwaith hwn gynnwys lleoli cynnyrch neu gefnogaeth gan y dylanwadwr.
  • Marchnata cynnwys. Mae marchnata cynnwys B2C yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o frand. Mae’n cynnwys creu a rhannu cynnwys o safon uchel sydd o ddiddordeb i ddemograffeg targed sefydliadau ac yn helpu i ennill cwsmeriaid a hybu defnyddwyr i brynu. Er enghraifft, efallai y bydd busnesau yn creu gweminarau neu bodlediad ynghylch sut i ddefnyddio eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau yn effeithiol, a rhannu hyn mewn sianeli perthnasol, fel YouTube, LinkedIn, neu Facebook.
  • SEO y we (Optimeiddio Peiriannau Chwilio). Dylai un o’r prif flaenoriaethau wrth ddatblygu cynnwys ar gyfer gwefan fusnes fod yn SEO. Mae SEO da yn golygu bod cynnwys yn debygol o ymddangos yn agos i frig y canlyniadau chwilio yn Google ac mewn peiriannau chwilio eraill – ac mae hyn yn sicrhau bod y busnes ym meddyliau pobl wrth chwilio am gynnyrch a gwasanaethau perthnasol. Mae Amazon, er enghraifft, yn gwneud defnydd effeithiol o arferion SEO, ac yn aml yn ymddangos ar frig chwiliadau cynnyrch Google, wrth chwilio am bopeth o deganau a llyfrau i offer pŵer a dodrefn.
  • Marchnata trwy e-bost. Mae marchnata trwy e-bost yn un o ddulliau marchnata mwyaf poblogaidd B2C, achos mae’n ddull hawdd, fforddiadwy o gyfathrebu’n uniongyrchol â defnyddwyr. Mewn sawl ffordd, o gylchlythyrau i hyrwyddiadau, mae busnesau yn gallu ennill cwsmeriaid newydd, cadw cwsmeriaid sydd ganddynt eisoes, a chreu chwilfrydedd a ffydd yn eu brand.

Ac yn ogystal â chynlluniau marchnata digidol, mae strategaethau B2C eraill sy’n gallu bod yn effeithiol ar gyfer brandiau B2C. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Rhaglenni aelodaeth. Mae busnesau yn gallu annog defnyddwyr mynych trwy raglenni aelodaeth sy’n gwobrwyo cwsmeriaid am eu pryniannau a’u ffyddlondeb.
  • Cynigion arbennig. Mae cynigion arbennig yn denu cwsmeriaid newydd a chwsmeriaid mynych, yn cynyddu gwerthiannau, ac yn helpu wrth gael gwared â hen stoc.
  • Siopau fflach. Hefyd yn cael eu hadnabod fel mân werthu ‘pop-up’, mae siopau codi yn ffordd wych o greu cynnwrf ar gyfer brand. Yn nodweddiadol mae brand yn codi siop dros dro neu’n defnyddio blaen siop – un mewn lleoliad lle ceir llawer o bobl yn mynd heibio ar droed – ac sydd yn gallu ennyn diddordeb cwsmeriaid. Maent hefyd yn ffordd ddefnyddiol o ymchwilio i’r farchnad, lansio cynnyrch newydd, neu brofi lleoliad newydd.

Dod yn arbenigwr marchnata B2C

Mae marchnata yn faes cyfnewidiol tu hwnt, ac mae hyn yn hynod o wir am B2C, sy’n gorfod bod yn flaenllaw o ran tueddiadau newydd, sianeli, a thactegau, er mwyn ateb galw’r defnyddwyr.

Gallwch fod ar flaen y gad a chyflymu eich llwybr gyrfaol gyda’r Cwrs MBA Marchnata yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Bydd y radd feistr hyblyg hon yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth allweddol a sgiliau mewn meysydd fel marchnata strategol, arloesedd a chreadigrwydd, yn ogystal â deall a gwneud defnydd o dueddiadau macro. Hefyd, mae’n cael ei gynnig 100% ar-lein, fel eich bod yn gallu astudio o gwmpas eich ymrwymiadau personol a’ch swydd bresennol, ac ennill arian wrth ddysgu.