Mae ffordd well o wella eich rhagolygon gyrfa ym maes cyllid. Ennill BA hyblyg ar-lein o Ysgol Fusnes gyda boddhad myfyrwyr o 90%
- 360 credyd •
- Talu fesul modiwl •
- Cyfanswm ffioedd £18,000 •
Manteision allweddol
- Gradd Baglor 100% ar-lein
- Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
- Ennill cyflog wrth ddysgu
- 90% + sgôr boddhad myfyrwyr ar gyfer Busnes (NSS 2020)
- Cyfanswm ffioedd o £18,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
- Benthyciadau i fyfyrwyr ar gael yn y DU
Baglor carlam, ar-lein sy'n eich cyfarparu chi i lwyddo yn y sector ariannol
Mae’r BA (Anrh) cyfan gwbl ar-lein hwn mewn Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid o Ysgol Rheolaeth Gogledd Cymru, wedi’i ddylunio i’ch cyfarparu chi â’r wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo mewn swyddi Cyfrifeg a Chyllid ar draws ystod eang o ddiwydiannau a sectorau. Mae’n datblygu eich dealltwriaeth o fusnes a rheolaeth gyda ffocws penodol ar gymwysiadau ymarferol damcaniaethau cyfrifeg a chyllid. Mae’r radd israddedig garlam hon mewn cyfrifeg a chyllid wedi’i dylunio’n benodol i ddatblygu graddedigion sy’n ‘barod o ran busnes’.
Cwblhewch eich gradd o unrhyw le ac ar unrhyw adeg
Gan elwa o’i ddarparu ar-lein yn gyfan gwbl, gellir astudio’r BA Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid o unrhyw le yn y byd, heb fod angen ymweld â’r campws. Wrth astudio’r llwybr rhan amser, gallwch ffitio eich astudiaethau o amgylch eich gwaith a’ch teulu, a pharhau i ennill yn eich rôl bresennol wrth i chi ddysgu.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn y BA Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid ar-lein hwn, byddwch yn dysgu am baratoi, cyflwyno a dehongli gwybodaeth gyfrifeg a chyllid. Ymhellach i hynny, byddwch yn archwilio sut gellir datblygu gwybodaeth gyfrifeg ac ariannol i fodloni anghenion busnes drwy gefnogi’r bobl berthnasol sy’n gwneud penderfyniadau. Byddwch hefyd yn ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o ddisgyblaethau busnes a rheoli allweddol.
Gwybodaeth a sgiliau allweddol a addysgir:
- Sgiliau arwain a rheoli
- Rheolaeth ariannol uwch
- Cyfrifyddu rheoli uwch
- Archwilio a sicrwydd
- Dadansoddeg busnes
- Sgiliau Cyfathrebu
- Masnach ryngwladol
- Strategaeth ddigidol
- Rheoli adnoddau dynol
Yr arbenigwyr addysgu a dysgu hyblyg
Un o brif gryfderau Ysgol Reoli Gogledd Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam o ran dysgu ar-lein a dysgu hyblyg yw bod mwy na hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan amser, sy’n rhoi profiad amhrisiadwy i ni o ran sut i ddarparu profiad dysgu hyblyg. Mae gan y radd israddedig hon mewn cyfrifeg a chyllid chwe dyddiad dechrau y flwyddyn, sy’n golygu y gallwch ddechrau arni ymhen wythnosau.
Gyda chyfanswm ffioedd y radd yn ei chyfanrwydd yn £18,000, ar gyfer myfyrwyr y DU a rhyngwladol, mae’r ffioedd ar gyfer y radd israddedig ar-lein hon yn hynod gystadleuol ac mae opsiwn talu hyblyg i dalu fesul modiwl hefyd. Yn ogystal, mae benthyciadau myfyrwyr gan y llywodraeth ar gael i’r rheiny sy’n gymwys i dalu cost y rhaglen lawn.
Prifysgol a arweinir gan ddiwydiant sy'n meddu ar sgoriau bodlonrwydd uchel
Mae’r BA Rheoli, Cyfrifeg a Chyllid yn cael ei arwain gan y diwydiant, ac mae ein cysylltiadau cryfion â chyflogwyr mawr wedi helpu i lunio gradd Baglor sy’n targedu yn benodol dilyniant gyrfa mewn amrywiaeth eang o swyddi a sectorau. Mae cynnwys ymarferol, sy’n canolbwyntio ar sgiliau ein cyrsiau busnes wedi cyfrannu atom yn ennill sgôr o fwy na 90% am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr mewn busnes (NSS 2020).
Gofynion mynediad
- Dylech fod â 112 o bwyntiau Tariff (neu gyfwerth rhyngwladol).
Neu:
- Bydd ymgeiswyr sydd heb y meini prawf mynediad safonol ond sydd â phrofiad sylweddol yn y diwydiant neu broffesiynol yn cael eu trin fesul achos a gellir eu gwahodd i drafodaeth / cyfweliad ag aelod o dîm y rhaglen.
Gofynion iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch sgiliau iaith Saesneg. Rydym yn derbyn:
- IELTS ar 6.0 yn gyffredinol, heb unrhyw gydran sengl yn is na 5.5
- TOEFL isafswm cyffredinol o 83
- PTE Academic isafswm cyffredinol o 58
- Cambridge (CAE & CPE) cyfanswm cyffredinol o 176
- Cymhwyster gradd a addysgwyd trwy gyfrwng y Saesneg
- Tystiolaeth eich bod yn gweithio i gwmni lle defnyddir Saesneg fel y brif iaith gwaith
- Cymwysterau ysgol uwchradd mewn Saesneg
Ffioedd
Mae rhaglenni israddedig ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’u cynllunio i fod yn fforddiadwy. Cyfrifir ffioedd dysgu yn seiliedig ar bob modiwl wyth wythnos. Gallwch gofrestru ar gyfer a thalu am bob sesiwn ddilynol wrth i’ch astudiaethau symud ymlaen. Derbynnir taliad trwy’r porth myfyrwyr ar-lein a rhaid i fyfyrwyr dalu erbyn y dyddiad talu.
Modiwlau
Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes
Cyflwyniad i Gyllid Busnes
Cyfrifeg Reoli Uwch
Rheolaeth Ariannol Uwch
Archwilio a Sicrwydd ar gyfer Busnes
Sgiliau Cyfathrebu Busnes
Dadansoddeg Busnes
Busnes a Masnach Ryngwladol
Rheoli Risg Gorfforaethol a Throseddu
Arweinyddiaeth Hyblyg
Strategaeth Busnes Digidol
Rheoli Adnoddau Dynol yn ei Gyd-destun
Hanfodion Marchnata
Rheolwr Strategol
HRM ar gyfer Busnes
Marchnata Strategol
Traethawd Hir
Dewiswch Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
- 90% + sgôr boddhad myfyrwyr ar gyfer busnes (NSS 2020)
- Roedd 99.1% o’n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach o fewn 6 mis o gwblhau eu hastudiaethau (Ffynhonnell: HESA PI E1b 2015/16)
- Rhaglenni wedi’u gwirio gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), wedi’u harwain gan y diwydiant, sy’n ymgorffori gwybodaeth ddofn ac arbenigedd ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi’u teilwra i anghenion y farchnad swyddi modern
- Cysylltiadau agos gyda chyflogwyr mawr lleol a rhanbarthol, gan gynnwys Toyota, Kellogg’s, Brother Industries a’r BBC
- Arbenigwyr mewn dysgu hyblyg – mae dros hanner ein myfyrwyr yn astudio’n rhan-amser
- Tîm Llwyddiant Myfyrwyr Ymroddedig yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd – o gofrestru’r holl ffordd at raddio
- Prifysgol ryngwladol o sawl diwylliant
- Rhaglenni sy’n addas ar gyfer ystod eang o gefndiroedd academaidd