Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Ailddiffinio strategaethau busnes er mwyn llwyddo mewn marchnad ansefydlog

Postiwyd ar: Mai 16, 2019
gan
Redefining business strategies to get ahead in a turbulent market

Mewn erthygl ddiweddar yn yr Harvard Business Review, pwysleisiodd yr awduron fod y cyfnod presennol o ehangu economaidd yn faith, yn ôl safonau hanesyddol, a bod y perygl o ddirwasgiad yn cynyddu bob mis. Er bod dirwasgiadau’n taro llawer o gwmnïau yn annisgwyl – yn ystod dirwasgiad 2001, bu i gyfanswm y gwerthiannau ar gyfer yr S&P 500 (mynegai marchnad stoc Americanaidd sy’n cynnwys 500 o gwmnïau sylweddol) ostwng 9% o’i uchafbwynt cyn y dirwasgiad hyd at ei isafbwynt 18 mis yn ddiweddarach – mae’r cyfnodau hyn hefyd yn gyfle i gwmnïau sydd wedi paratoi yn drylwyr fanteisio ar y sefyllfa a chynyddu eu cyfran o’r farchnad.

Wrth reswm, yr amser gorau i wneud y newidiadau a fydd yn atgyfnerthu cwmni yn ystod dirwasgiad yw cyn iddo daro. Felly, sut ydych chi’n adnabod y rhybuddion ac yn paratoi ar eu cyfer er mwyn llwyddo?

Os yw eich refeniw wedi bod yn gostwng yn gyson, efallai oherwydd prisio isel neu oherwydd bod cytundebau llai yn arwain at leihau maint yr elw ar bob cytundeb, efallai ei bod hi’n amser i chi ail-edrych ar eich strategaeth fusnes. Weithiau, mae’r newid lleiaf yn creu’r buddion mwyaf.

Gofynnwch y cwestiynau isod i chi eich hun, er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio’r strategaeth gywir, nid er mwyn goroesi yn unig, ond er mwyn tyfu hefyd:

  1. Oes gennych chi brosesau cyllid ar waith sydd yn mesur y dangosyddion perthnasol?
    Yn ogystal â llif arian, mae hyn yn cynnwys monitro mewnlif busnes newydd ar y pwyntiau pris cywir. Er enghraifft, dylech fod yn defnyddio targedau perfformiad a dangosyddion er mwyn gweld a yw eich gwerthiannau’n lleihau.
  2. Er mwyn ennill busnes newydd, oes angen cynnig gostyngiadau?
    Os ‘oes’ yw’r ateb, efallai fod angen i chi gymryd cam yn ôl ac adolygu eich datganiadau gwerth; ydi eich strategaeth brisio yn cyd-fynd â’r hyn rydych yn ei gynnig, ydi gofynion y farchnad yn newid, ydi’r gystadleuaeth yn codi prisiau is?
  3. A yw nifer y cyfleoedd yr ydych yn ymwybodol ohonynt – ac y gallwch eu hennill – yn lleihau?
    Os felly, a yw hyn am resymau geowleidyddol neu resymau economaidd cyffredinol, ynteu oherwydd newydd-ddyfodiaid i’r farchnad; a oes gennych fwy o gystadleuaeth am yr un segmentau? Efallai fod yr hyn sydd gennych i’w gynnig wedi mynd yn llai atyniadol i’ch cwsmeriaid targed, neu eich bod chi’n canolbwyntio ar ddenu’r cwsmeriaid anghywir; mewn geiriau eraill, camddarllen anghenion y cwsmer.

Yn y byd busnes dynamig a chydgysylltiedig sydd ohoni, mae’n hanfodol eich bod yn arsylwi, gwerthuso a gweithio ar eich busnes yn barhaus i sicrhau ei fod yn symud ymlaen gyda thueddiadau ac yn parhau i fod yn berthnasol nid yn unig i’ch cwsmeriaid newydd, ond i’ch cwsmeriaid presennol hefyd.

Mae’r gallu i ddeall sut y mae tueddiadau o’r fath yn cysylltu’n strategol â swyddogaethau a strategaethau busnes, yn ogystal â sut y gallant gynyddu elw, yn sgìl sy’n ased i gyflogwyr posibl. Wrth gadw hyn mewn cof, mae Prifysgol Wrecsam wedi cyflwyno rhaglen Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) ar-lein. Mae’r cwricwlwm cynhwysfawr yn ymdrin â disgyblaethau busnes allweddol, gan gynnwys marchnata, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, yn ogystal â sut i ddatblygu sgiliau arwain busnes ymarferol a damcaniaethol. Byddwch yn dysgu sut i feddwl yn feirniadol, cynllunio yn effeithiol a rhoi cynlluniau strategol ar waith i gael yr effaith fwyaf bosib.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a brwdfrydig sydd eisiau symud eu gyrfa ymlaen yn gyflym gyda dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau busnes ac arwain. Mae’r cwrs yn 100% ar-lein, fel eich bod yn gallu astudio o gwmpas eich swydd bresennol. Gyda chwe dyddiad cychwyn drwy gydol y flwyddyn, gallwch gychwyn astudio pan fo’n gyfleus i chi. Mae opsiwn i dalu wrth i chi ddysgu, a gallech fod yn gymwys am fenthyciad ôl-raddedig a gefnogir gan lywodraeth y DU, a fyddai’n talu holl gost y cwrs.

Mae’r cyfnod ymgeisio yn awr ar agor. I ddysgu mwy neu i wneud cais, ewch i
https://online.wrexham.ac.uk/mba/